• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Mehefin 2018

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD
GYMUNEDOL AR NOS LUN, MEHEFIN 4 2018 AM 19.00 O’R GLOCH  
 
Presennol:           Cadeirydd:                R Dalton (Is-gadeirydd)
                                                              M Griffiths
                                                              J James
                                                              S Jones
                                                              M J Willcox    
Hefyd yn
Bresennol:          Cynghorydd Sir:        R P Quant
                                            Clerc:        M Walker                      
                                                               4 aelod o'r cyhoedd. 
YMDDIHEURIADAU
 
49. Y Cyng. C Bainbridge (Cadeirydd), y Cynghorwyr G Ashley, G B Jones a W J Williams.
 
DATGAN BUDDIANT
 
50. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw fater perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
 
51.  Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018 yn gywir.
 
MATERION YN CODI O’R CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL
 
52.  Anfonwyd llythyr at Adran Amddiffyn yr Arfordir, fel y nodwyd yng Nghofnod 7 cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – ni chafwyd ymateb.
Trafodwyd y ffens o gwmpas darn o dir comin ger yr Animalarium â’r Cyng. Ray Quant ac mae ef wedi cytuno i gael sgwrs â pherchennog Ynys Fergi.
Anfonwyd e-bost at y Gwasanaethau Technegol i ofyn am sampl o drwytholch o’r safle tirlenwi – ni chafwyd ymateb hyd yma.
Anfonwyd e-bost at Cliff Bates yng Nghyngor Sir Ceredigion ynglŷn â throedffordd neu fynediad â ramp i’r traeth – ni chafwyd ymateb hyd yma.
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
53.  Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018 yn gywir.
 
MATERION YN CODI
 
53a.  Clymog Japan.  Cofnodion 4.  Mae’r mater yn dal i fynd yn ei flaen.
 
54.  Cŵn.  Cofnod 5.  Gofynnodd y Cyng. Quant am hysbyseb er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i’r daith cerdded â chŵn.
 
55.  Parc Cychod.  Cofnod 6.  Mae’r Cyng. Ashley wedi gosod hysbyseb sy’n gofyn i berchnogion cychod gofrestru eu cychod/trelars. Bydd y cychod hynny nad ydynt wedi’u cofrestru yn cael eu symud oddi ar y safle.
 
56.  Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).  Cofnod 39.  Cadarnhaodd y Clerc y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal sesiwn hyfforddi ar y 11 Mehefin.
 
57.  Cynllun Iaith Gymraeg.  Cofnod 40.  Mae’r Clerc wedi derbyn dyfynbrisiau am gyfieithu’r cofnodion/gohebiaeth i’r Gymraeg. Daeth 2 ddyfynbris i law, y naill am £50 y fil a’r llall am £70 y fil.  Penderfynwyd derbyn dyfynbris Heledd Davies, sef £50 y fil.
 
58.  Taliadau Cydnabyddiaeth i Aelodau Cynghorau Tref a Chymuned.  Cofnod 42. Mae’r Cyng. Dalton wedi paratoi llythyr i’w arwyddo gan yr aelodau hynny nad ydynt yn dymuno derbyn taliadau.
 
 
GOHEBIAETH
 
59.  Cais Cyngor y Borth am Gyngor.  Gofynnwyd i Swyddog Monitro ac i Swyddfa Etholiadau Cyngor Sir Ceredigion am gyngor ynglŷn â sefyllfa’r Cyng. Billy Williams. Nid yw wedi bod yn bresennol yn chwe chyfarfod diwethaf y Cyngor oherwydd salwch. Cadarnhaodd y Cyngor Sir, “y dylai sefyllfa pan fo aelod yn absennol o gyfarfodydd y Cyngor am gyfnod o 6 mis arwain at adolygiad ond nid fydd o anghenraid yn cael ei wahardd”. Y Clerc sydd yn y sefyllfa orau i gynnal adolygiad o bresenoldeb y Cynghorydd ac i ystyried yr amgylchiadau personol sydd wedi arwain at y sefyllfa hon. Gan ddibynnu ar ganlyniad yr adolygiad hwnnw, ynghyd ag unrhyw drafodaethau â’r Cynghorydd dan sylw, gall y Clerc adrodd i’r Cyngor fel y bo’n briodol. Yn y cyfamser, mae’r Cynghorydd yn parhau yn ei swydd. Penderfynodd yr aelodau dderbyn cyfarwyddyd y Swyddog Monitro. Gofynnwyd i’r Clerc anfon e-bost o gefnogaeth at y Cyng. Billy Williams, gan ychwanegu bod y Cyngor yn gwerthfawrogi’n fawr ei gyfraniad a’i wybodaeth leol.
 
60.  Un Llais Cymru.  Bwletin Newyddion Mai 2018.
 
61.  Celfyddydau’r Borth.  Diweddariad ynglŷn â dyddiadau’r arddangosfeydd
 
62.  Play Safety RoSPA.  Dylid cofio trefnu archwiliad o’r maes chwarae. Gofynnwyd i’r Clerc drefnu archwiliad o’r maes chwarae ac i gysylltu â Chyngor Sir Ceredigion am ddyfynbris am waith atgyweirio’r ffrâm ddringo.
 
63.  Un Llais Cymru.  Manylion ac agenda cyfarfod Ardal Ceredigion ar 23 Mai.
 
64.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion llefydd gwag ar Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion.
 
65.  Diwrnod y Llynges Fasnachol.  Cais i chwifio baner y Lluman Coch.
 
66.  Clic Ceredigion.  Manylion y gweithdai i Gynghorau Tref a Chymuned.
 
67.  Warner Goodman/Louise Brookes.  Llythyr oddi wrth y cwmni cyfreithiol sydd wedi cael cyfarwyddyd i fwrw ‘mlaen â hawliad anaf personol sy’n deillio o ddamwain ar 11 Awst 2017, neu o gwmpas y dyddiad hwnnw.
 
68.  Meysydd Chwarae’r Borth.  Diweddariad ynglŷn â chyfarfod rhwng James Maddox (Syrfëwr Ystadau Dŵr Cymru), Eryl Davies o gwmni Morgan Sindall (Prif Gontractwr), Lewis Richards o gwmni Lewis CE (Is-gontractwr), y Cynghorydd Sir, Ray Quant a Margaret Walker (Clerc).  Cytunwyd ar y gwaith canlynol:
Ardal 1 – y tu ôl i gae pêl-droed tîm y chwaraewyr wrth gefn – roedd yn amlwg nad oedd y tir yn wastad, yn enwedig yn y mannau hynny lle bu cloddio, ac roedd llawer o gyrs i’w cael yn y tyfiant newydd. Bydd angen peth uwchbridd, llyfnu, chwistrellu, ail-hadu a thorri ar yr ardal pan fydd pethau’n dechrau tyfu eto.
Ardal 2 – rhwng y ddau gae – roedd y rhan helaeth o’r ardal hon i’w gweld yn wastad ac eithrio un man yn agos at y rheilffordd (a’r gorchudd manol) y bydd angen eu lefelu. Yn debyg i Ardal 1, bydd angen llyfnu’r ardal hon, chwistrellu chwyn, ei hail-hadu a’r thorri.  Bydd uwchbridd yn cael ei ddefnyddio lle bo angen.
Os bydd y tywydd a’r amodau ar y tir yn caniatáu, rhagwelir y bydd y contractwr yn ymdrechu i gwblhau’r gwaith mor fuan â phosib a bwriad Mr Maddox yw ymweld â’r safle unwaith eto erbyn diwedd Mehefin i weld pa gynnydd a gafwyd.
Bydd y ffens dros dro yn cael ei chodi pan fydd pethau’n dechrau tyfu eto.
Cadarnhawyd hefyd y bydd Lewis CE yn cysylltu’n uniongyrchol â Mr Willcox ynghylch y cladin sydd wedi cael difrod ar y sied bêl-droed.
 
69.  Un Llais Cymru.  Y diweddaraf am Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
 
70.  Dyfynbrisiau am waith Ailgynllunio Safleoedd Bws.  Mae Luke wedi cyflwyno dyfynbrisiau am waith atgyweirio a glanhau ar bob safle bws dan berchnogaeth y Cyngor Cymuned yn y Borth. Ei bris oedd £690 am y gwaith ar safle bws Cambrian Terrace, a’r pris am lanhau’r 3 safle bws arall â chwistrell ddŵr a rhoi delwedd ar 2 safle bws yw £348 gan gynnwys TAW.  Bydd gwaith atgyweirio ychwanegol ar baneli’r toeon yn costio £80 + TAW y panel a bydd pob panel ochr yn costio £65 + TAW.  Penderfynodd yr Aelodau dderbyn y dyfynbrisiau.
 
71.  Maes Parcio’r Borth.  O fewn y mis diwethaf, mae Wendy McClean wedi tocio llawer o dyfiant hyll yr olwg ynghanol y maes parcio. Mae wedi gofyn i Gyngor Cymuned y Borth roi rhodd ariannol i’r RNLI yn gydnabyddiaeth em ei gwaith. Penderfynodd yr aelodau anfon siec am £50 at yr RNLI.
 
72.  Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Mae’r Ombwdsmon wedi derbyn cwyn yn erbyn Cynghorydd.
 
CYFRIFON
 
73.  Gweddill y Cyfrifon ar 13 Mai 2018
       Nationwide                                                                               29,637.15
       Cyfri Cymunedol                                                                       4,569.08
       Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                    27,802.30
       Cyfri Adnau                                                                               3,475.16
 
74.  Incwm    
       Dim.
        
75.  Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:
       Hilary Matthews – archwiliad 2017/18                                                    100.00
       Luke Griffiths – Gwaith ailgynllunio – arwydd y  maes parcio               535.97
       M Walker – cyflog 485.76                                                                        485.76  
       Rhodd i’r RNLI ar gais Wendy Mclean am waith a wnaed yn y maes parcio        £50.00
 
76.  Ffurflen Flynyddol am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018.  Dosbarthwyd copïau o’r Ffurflen Flynyddol i’r Cynghorwyr. Rhoddodd y Cyng. Quant adroddiad cynhwysfawr ynghylch y cyfrifon a’r Ffurflen Flynyddol. Cafwyd cadarnhad bod y Ffurflen Flynyddol wedi’i chyflwyno i’r Cyngor a phenderfynwyd cymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2017/18. Nododd y Cyngor gynnwys yr Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol a gynhaliwyd ac a ardystiwyd gan Mrs Hilary Matthews (Archwilydd Mewnol) a phenderfynodd y Cyngor gymeradwyo Rhannau 1 a 2 o’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac awdurdodi’r Cadeirydd a’r Clerc i arwyddo’r Ffurflen ar ei ran. 
 
Cadarnhaodd y Clerc bod Mrs Hilary Matthews wedi cynnal yr Archwiliad Mewnol ar ddydd Mawrth, Mai 22 a bydd y cyhoedd yn cael cyfle i arfer eu hawl i archwilio’r cyfrifon ar ddydd Iau, Mehefin 2 yn y Neuadd Gymunedol. Gofynnwyd i’r Clerc anfon llythyr at Hilary yn ei diolch am gynnal yr Archwiliad.
        
CYNLLUNIO
 
77.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.
A180505.  Newid defnydd. Trosi Eglwys a Festri yn 2 uned at ddefnydd diwydiannol ysgafn (anfanwerthol).  Hen Eglwys Fair, Seren y Môr, y Borth.  Dim Gwrthwynebiad.
 
MATERION Y CADEIRYDD
 
78. Cyflwynodd y Cyng. Bainbridge, yn ei habsenoldeb, yr adroddiad hwn.
 
  • Dylid anfon cerdyn at Sally Williams i ddymuno gwellhad buan iddi yn dilyn ei chwymp yn ddiweddar.
Cyngor Iechyd Cymuned
 Presenoldeb yn y sesiynau canlynol:
  • 18 Mai Sesiwn alw i mewn yng Nghanolfan y Morlan i drafod Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol. Trafodwyd y dewisiadau a amlinellwyd yn y dogfennau y bu imi eu dosbarthu y tro diwethaf.  Os oes gan unrhyw un gopïau, dylent eu dychwelyd ataf a byddaf yn mynd â nhw i’r swyddfa.
  • 23 Mai Cyfarfod y Grŵp Gwella Iechyd Meddwl. Mae’r holl wahanol grwpiau bellach wedi’u creu ac maent yn dechrau adrodd yn ôl.
  • 31 Mai Gwahoddiad i fod yn bresennol yn Fforwm Aberaeron i gymryd rhan mewn gweithdy i drafod y Cynllun Adfer Iechyd Meddwl.
Clymog Japan.
Aeth y Cyng. Dalton a minnau am dro o gwmpas y mannau hynny yn y Borth sydd wedi’i chael hi waethaf o ran Clymog Japan  ac mae angen cwrdd â Rachel i weld beth yn union yw’r sefyllfa.
Safleoedd Bws
Aeth y Cyng. Dalton a minnau ati i archwilio’r holl safleoedd bws â gorchudd arnynt sydd dan ein perchnogaeth.  Roeddent i gyd yn fudr iawn ac roedd dau wedi’u difrodi.  Gofynnwyd i’r Clerc gael dyfynbrisiau am waith glanhau, atgyweirio ac ychwanegu ffotograff.
 
Sesiwn Alw i Mewn
Cynhaliodd y Cyng. Dalton, y Cyng. Jones a minnau'r sesiwn alw i mewn. Dim ond dau berson lleol a ddaeth i’n gweld ac rwyf eisoes wedi anfon e-bost ynglŷn â’r mater hwn. Aethom hefyd i siarad â Phobl Hŷn gan esbonio’r sefyllfa a chodwyd un pryder yn sgil hyn.
Craig Yr Wylfa
Yn paratoi tuag at y dathliadau 50 mlynedd. Daw rhagor o fanylion maes o law.
Y Rhyfel Mawr
Yn barod am y cyflwyniad a bydd rhagor o ddeunydd yn cael ei ychwanegu. Yn gobeithio trefnu cyfarfod.
Dyfrffosydd
Mae llifogydd yn broblem i un preswylydd oherwydd y dyfrffos y tu ôl i’w chartref pan fo’n bwrw glaw. Cysylltodd â Carol Fielding ond ni chlywodd ddim oddi wrthi. Anfonwyd e-bost a chysylltwyd â’r preswylydd.
 
CYFRIFOLDEBAU’R CYNGHORWYR
 
79.   Y Cyng. Dalton – Cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar 14/6/18 am 7pm.  Mae poteli’n cael eu gollwng y tu allan i’r banc poteli, ynghyd â gwastraff o gartrefi, yn broblem barhaus.
Soniodd y Cyng. James am y gylïau sydd wedi’u rhwystro ar hyd Ffordd Clarach – bydd y Cyng. Quant yn adrodd ynghylch hyn.
Y Cyng. Stacy Jones – Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Biosffer Dyfi ar 12 Mehefin a bydd Pwyllgor y Biosffer yn cwrdd ar y 3ydd o Orffennaf.
Mae’r Cyng. Willcox yn poeni bod 3 charafán bellach wedi parcio ar hyd y ffordd o gyfeiriad yr Animalarium.  Bydd y Cyng. Quant yn ymchwilio i hyn.
Bydd twrnament rygbi a drefnwyd gan Cliff Bates yn cael ei gynnal ar draeth y Borth.
Mae Clwb Pêl-droed Unedig y Borth yn cynnal twrnament pêl-droed ar 28 Gorffennaf.
Awgrymodd y Cyng. Griffiths y dylid gosod arwyddion ynglŷn â chŵn wrth ochr y traeth. Mae oedolion yn sgrialu ar y palmentydd yn dechrau dod yn broblem. Roedd y Cyng. Griffiths am wybod beth oedd yn digwydd i Midland Stores. Mae’r Swyddog Gorfodi yn gwybod am y sefyllfa.
 
Gwirfoddolodd y Cynghorwyr canlynol i ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol wedi i’r Cynghorwyr canlynol gamu i law:
Y Cyng. Stacy Jones - Cyfathrebu, y Cyng. Dalton – sbwriel, y Cyng. Willcox – meysydd parcio a throedffyrdd/llwybrau troed.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
80.  Cyfeiriodd y Cyng. Quant at ymgynghoriad Hywel Dda. Mae’n dal angen glanhau’r ffosydd ar y ffordd tuag at yr Animalarium. Bydd hysbysebion am ddau le gwag ar y Cyngor yn cael eu hanfon at y Clerc i’w gosod ar yr hysbysfwrdd. Soniodd y Cyng. Quant wrth y Cynghorwyr ynghylch y bwriad i sefydlu Ysgol Hwylio’r Borth a gofynnodd am eitem ar yr agenda i drafod y mater hwn yng nghyfarfod mis nesaf.
 
Y CYFARFOD NESAF A’R MATERION I’W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
81.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 8.45pm.  Ymhlith yr eitemau ar agenda’r cyfarfod nesaf mae’r Cae Chwarae, Ysgol Hwylio’r Borth, Clymog Japan a Llefydd Gwag ar y Cyngor. Dylid rhoi gwybod i’r Clerc am eitemau eraill.                                                                                         
  • Hits: 3100