• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion Mis Hydref 2018

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
 NOS LUN, 1 HYDREF 2018 AM 19.00 O’R GLOCH
 
Presennol:        Cadeirydd:                    R Dalton (Is-gadeirydd)
                                                               G Ashley
                                                               H Hughes (cyfetholwyd)
                                                               J James
                                                               P Turner-Wright (cyfetholwyd)
                                                              M J Willcox    
Wrth law:  Cynghorydd Sir:                 R P Quant
                         Clerc:                           M Walker                     
                                                              2 aelod o’r cyhoedd. 
 
YMDDIHEURIADAU
 
189. Y Cyng. C Bainbridge (Cadeirydd), y Cynghorwyd M Griffiths a G B Jones.
 
CYFETHOL CYNGHORWYR I’R CYNGOR
 
190.  Gwahoddodd yr Is-gadeirydd, y Cyng. Rona Dalton, Mr Hugh Hughes a Mr Phil Turner-Wright i ymuno â’r Cyngor. Bu’r ddau ohonynt dyngu llw ac arwyddo’r Datganiad Derbyn Swydd. Fe’u croesawyd nhw yn Aelodau o Gyngor Cymuned y Borth. Rhoddwyd copi o’r ddau o God Ymddygiad y Cyngor. Bydd pob Aelod yn cael copi o’r Rheolau Sefydlog newydd yng nghyfarfod mis Tachwedd.
 
DATGAN BUDDIANT
 
191. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw fater perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
192.  Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 3 Medi 2018 yn gywir.
 
MATERION YN CODI
 
193.  Ysgol Hwylio’r Borth.  Cofnod 137.  Mae gan y Cyng. Willcox bryderon ac nid yw’n credu y byddai model busnes y prosiect yn gweithio.
 
194.  Maes Chwarae i Blant.  Cofnod 181.  Mae’r mater hwn yn parhau.
 
195.  Rheolau Sefydlog.  Cofnod 182.  Bydd yr eitem hon yn cael ei chynnwys ar yr agenda ac yn cael sylw yng nghyfarfod mis Tachwedd.
 
196.  Tir Comin.  Cofnod 183.  Bydd llythyr oddi wrth Owen Jenkins cael ei ddarllen dan ‘Gohebiaeth’.
 
GOHEBIAETH
 
197.  Un Llais Cymru.  Cais i bobl fynegi barn ynghylch datblygiadau ffracio ac echdynnu methan o haenau glo yng Nghymru.
 
198.  Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.  Diweddariad ynghylch y cynnydd hyd yma o ran “Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd”.
 
199.  Cyngor Sir Ceredigion (CSC).  Polisi hapchwarae drafft 2019 CSC.
 
200.  Llywodraeth Cymru.  Cais i bobl fynegi barn ynghylch fframwaith rheolaethol newydd ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru.
 
201.  Coeden.  Ymateb Arweinydd y Cyngor Sir, Ellen ap Gwynn, i lythyr Cyngor Cymuned y Borth yn gofyn am eglurder ynghylch dyfarnu trwydded: “Bydd angen i’r ymgeisydd wneud cais ysgrifenedig ffurfiol i’r Cyngor am ganiatâd i godi’r strwythur, gan mai’r Cyngor sy’n dal y brydles am y rhan hon o’r traeth. Bydd gofyn i’r ymgeisydd hefyd gynnwys yr holl wybodaeth berthnasol a thechnegol i gefnogi’r cais. Bydd yr wybodaeth honno’n cael eu hystyried hefyd. Wedi i’r Cyngor dderbyn y cais ffurfiol am ganiatâd, ynghyd â’r holl wybodaeth berthnasol, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at Ystâd y Goron, sy’n berchen ar y tir ac sy’n landlord ar y Cyngor, er mwyn ystyried rhagor ar y mater cyn rhoi caniatâd.”  Cafwyd ymateb hefyd oddi wrth yr Arolygiaeth Gynllunio yn dweud y bydd y pwyntiau a godwyd yn cael eu hystyried yn llawn ac y daw ateb maes o law. Cafwyd ymateb hefyd oddi wrth yr Adran Gyfreithiol yn dweud ei bod wedi cysylltu â Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ystadau’r Cyngor i egluro’r broses berthnasol a’r sefyllfa bresennol o ran yr ymholiadau’r cyhoedd.
 
202.  Un Llais Cymru.  Sylwadau’r rhai a fu’n bresennol yn rownd gyntaf cyfarfodydd y Rhwydwaith Arloesi Trafnidiaeth.
 
203.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion swydd wag yn ardal, sef Canfasiwr Gwasanaethau Etholiadol.
 
204.  Un Llais Cymru.  Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru 2019 -2023 – gwahodd cynigion grant.
 
205.  Hawliad Atebolrwydd Cyhoeddus - Louise Brookes.  Wedi cysylltu â Warner Goodman LLP, cafwyd ar ddeall nad oedd y digwyddiad honedig ar yr 11eg o Awst wedi digwydd ar dir dan berchnogaeth neu reolaeth Cyngor Cymuned y Borth ac mae’r ffeil bellach wedi’i chau.
 
206.  Un Llais Cymru.  Manylion seminar diweddar gan Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol.
 
207.  Un Llais Cymru.  Mae Comisiwn Ffiniau Cymru wedi cyflwyno’i adroddiad terfynol sy’n amlinellu’i argymhellion yn rhan o Adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru. Wedi i’r Llywodraeth gyflwyno’r Adroddiad i’r Senedd, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi’i argymhellion terfynol ar ei wefan.
 
208.  Ecodyfi.  Manylion ffurfio Clwb Ynni Lleol.
 
209.  Llywodraeth Cymru.  Bwletin mis Medi Cyfoeth Naturiol Cymru.
 
210.  Tir Comin.  Llythyr oddi wrth Mr Owen Jenkins sy’n ymateb i gŵyn oddi wrth aelod o’r cyhoedd. Gweler cofnod 183/2018.  Awgrymodd Mr Owen y dylai’r Cyngor ystyried tri opsiwn. Dewiswyd opsiwn 3 yn unfrydol, sy’n darllen fel hyn: “Cadw’r ffens yn ei safle gwreiddiol gan ei bod, yn eich barn chi, wedi’i chodi’n gywir ar hyd ffin y Tir Comin”. Gofynnwyd i’r Clerc anfon llythyr at Mr Jenkins i gadarnhau bod y Cyngor yn ffafrio opsiwn 3 “heb ragfarn”.
 
211.  Atalfeydd Llifogydd.  E-bost oddi wrth Catherine Johnstone sy’n awyddus i werthu saith o atalfeydd llifogydd  Watergate.  Anfon y neges at Gyngor Tref Aberystwyth.
 
212.  Yswiriant Came & Co.  Mae angen diweddaru polisi yswiriant y Cyngor ac mae’r cwmni wedi rhoi 3 dyfynbris i’w hystyried. Maent yn argymell cwmni o’r enw Inspire sy’n bodloni ein gofynion a’n hanghenion. Y premiwm blynyddol yw £1540 ac maent yn cynnig cytundeb tair blynedd am £1465.50.  Penderfynodd yr Aelodau ymrwymo i gynllun tair blynedd.
 
213.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion ymgynghoriad ynghylch Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberystwyth a Gwelliannau Posib i’r Prom.
 
214.  Llywodraeth Cymru.  Rhifyn mis Medi o gylchlythyr y Gwasanaethau Iechyd a Gofal.       
 
215.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion cau ffordd i’r dwyrain o groesfan y rheilffordd.
 
216.  Un Llais Cymru.  Ymgynghoriad ynghylch ffyrdd nad ydynt wedi’u mabwysiadu yng Nghymru.
 
217.  Clerks & Councils Direct.  Rhifyn mis Medi.
 
218.  Yr Arolygiaeth Gynllunio.  Ymateb i faterion a godwyd ynglŷn â’r goeden. Rhoddodd y Cyng. Turner-Wright ddiweddariad byr yn sgil sgwrs ddiweddar â Robert Davies.
 
219.  Lle gwag ar y Cyngor.  Llythyr oddi wrth Anthony Morris sydd am gael ei gyfethol i lenwi un o’r ddau le gwag ar y Cyngor. Gofynnwyd i’r Clerc ysgrifennu at Anthony i’w wahodd i’w gael ei gyfethol yn y cyfarfod nesaf.
 
CYFRIFON
 
220. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Medi 2018
        Nationwide                                                                                                    29,637.15
        Cyfri Cymunedol                                                                                                500.86
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                                           30,324.99
        Cyfri Adnau                                                                                                     3,476.50
 
221. Incwm    
        Cyfri Adnau – Llog gros hyd 6/9/18                                                                      0.74
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd – Llog gros hyd 6/9/18                                             5.54
        
222. Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo’r taliadau canlynol:
        Cyllid a Thollau EM yn unig - Talu Wrth Ennill - Gorff., Awst, Medi                64.20
        M Walker – cyflog 485.76, costau swyddfa 14.95                                             500.71
        Heledd Davies – cyfieithu                                                                                  109.35
        Robert Griffiths – gwaith atgyweirio i’r maes chwarae                                      240.00
        Came & Co – yswiriant y Cyngor                                                                    1,465.50
 
223.  Monitro’r Gyllideb.  Dosbarthodd y Clerc adroddiad a amlinellai’r wybodaeth ddiweddaraf o ran yr incwm a’r gwariant a gafwyd rhwng y 1af o Ebrill 2018 a’r 30ain o Fedi 2018. Amlinellwyd sefyllfa ariannol y Cyngor yn unol â’r gyllideb y cytunwyd arni. Aeth yr Aelodau ati i adolygu’r sefyllfa a phenderfynwyd derbyn yr adroddiad.
 
224.  Yr Archwiliad Cyfrifo Blynyddol.  Mae Grant Thornton UK LLP, Archwilwyr y Cyngor, wedi ardystio’r cyfrifon ac mae Hysbysiad Cwblhau Archwiliad wedi’i roi ar yr hysbysfwrdd.  Darllenwyd yr holl faterion a godwyd yn yr adroddiad archwilio cymwys i’r Aelodau.  Yn eu plith roedd yr Hysbysiad Pennu Dyddiad ar gyfer Arfer Hawliau Etholwyr, Dyrannu Costau Staff, Lefelau Uchel o Gronfeydd Wrth Gefn a gadawyd Blwch 14 y Datganiad Cyfrifo, Y Nodyn Datgelu Cronfeydd Ymddiriedolaeth, yn wag yn 2016/17 yn y Datganiad Blynyddol. Penderfynodd yr Aelodau dderbyn y Datganiad Archwilio.
 
CYNLLUNIO
 
225.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.
A180920.  Newid defnydd i gwrtil preswyl. Tŷ Bijou, Stryd Fawr, Borth.  Dim gwrthwynebiad ar yr amod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymeradwyo’r cais.
 
MATERION Y CADEIRYDD
 
226. Yn ei habsenoldeb, anfonodd y Cyng. Bainbridge yr adroddiad canlynol. O ran yr e-bost sy’n ymwneud ag Atalfeydd Llifogydd, awgryma’r Cyng. Bainbridge y dylid anfon yr wybodaeth i Aberystwyth a gofyn a fydden nhw’n dymuno cael yr atalfeydd. Mae llyfrynnau’r Rhyfel Mawr bellach gyda’r argraffwyr. O ran Cofnod 149/18, mae’r ddynes wedi penderfynu peidio â bwrw ‘mlaen â’r fainc. Mae’r Cylch wedi ailagor.
Mae’r Cyngor Iechyd Cymuned wedi bod yn y newyddion i roi sylw i ymgynghoriad ynghylch ailstrwythuro a bydd y Cyng. Bainbridge yn mynd i gyfarfod ar y 4ydd o Hydref i drafod y mater. Cynhelir noson gwobrau ariannol y Carnifal eleni ar nos Sadwrn, yr 20fed o Hydref.
 
CYFRIFOLDEBAU’R CYNGHORWYR
 
227.  Rhoddwyd y cyfrifoldebau canlynol i’r ddau Gynghorydd newydd:
Y Cyng. Hugh Hughes – bydd yn cynrychioli Cyngor Cymuned y Borth ar faterion sy’n ymwneud â’r goeden.
Y Cyng. Turner-Wright – materion sy’n ymwneud â’r Ardal Draenio Mewnol.
 
Hysbysodd y Cyng. Ashley yr Aelodau fod Hen Eglwys Fair, Seren y Môr wedi’i gwerthu i gonsortiwm ac y bydd yn cael ei throi’n ganolfan i’r celfyddydau. Bydd y baneri gwahardd cŵn yn cael eu tynnu i lawr am fod y tymor gwahardd cŵn wedi dod i ben. Dim ymateb oddi wrth G4.
Awgrymodd y Cyng. Willcox y dylid gosod meinciau ar hyd y llwybr cerdded cŵn presennol a chreu digon o le i 3 neu 4 o geir. Roedd hwn yn syniad da mewn egwyddor ym marn yr Aelodau a gofynnwyd iddo baratoi cynllun a chostau.
Cyfeiriodd y Cyng. James at y garafán sydd wedi’i pharcio ar y ffordd ger y fferyllfa. Mae’r Cyng. Quant wedi dwyn sylw’r awdurdodau at hyn.
Hysbysodd y Cyng. Dalton yr Aelodau fod Prosiect LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael £4 miliwn tuag at ddiogelu corsydd, gan gynnwys Cors Fochno. Rhoddodd y Cyng. Dalton ddiweddariad cryno ynglŷn â’r cyfarfod PACT diweddar a dywedodd fod goryrru’n bryder mawr. Mae’r Cyng. Ashley yn trefnu sesiwn Ymwybyddiaeth Cyflymder unwaith yn rhagor.
Mae arolwg o’r dyfrffosydd wedi’i gynnal.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
228.  Trafodwyd y materion a gododd y Cyng. Quant yn ystod y cyfarfod.
 
 
Y CYFARFOD NESAF A’R EITEMAU I’W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
229.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 8.10pm.  Ymhlith yr eitemau ar Agenda’r cyfarfod nesaf ar nos Lun, y 5ed o Dachwedd 2018 fydd Cyfranogiad y Cyhoedd a’r Rheolau Sefydlog.  Dylid rhoi gwybod i’r Clerc am eitemau eraill.                       
  • Hits: 2810