• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Rhagfyr 2020

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, 7 RHAGFYR 2020 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:       Cadeirydd:             H Hughes
                                                        C Bainbridge                                                      
                                                        R Dalton                                 
                   J James            
                   G B Jones
                                                        A J Morris
                                                        D Pryce Jones
                                                        D Tweedy                                                        
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:   R P Quant
        Clerc:                         M Walker            
                                                      3 aelod o'r cyhoedd. 
 
YMDDIHEURIADAU
 
169. Y Cynghorwyr R Davies ac M Griffiths.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
170.  Diolchodd Mrs Andrea Hughes i Gyngor y Borth am drefnu bod y goeden Nadolig yn cael ei gosod ger gorsaf y Bad Achub.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
171. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
172. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar 2 Dachwedd 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
COFNODION Y CYFARFOD ABRENNIG A GYNHALIWYD AR Y 13EG O DACHWEDD 2020
 
173.  Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod arbennig ar 13 Tachwedd 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Pryce Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
MATERION YN CODI
 
174. Cau'r ffordd yn Nôl-y-bont.  Cofnod 148.  Gofynnodd y Cyng. Jones i'r Cyngor ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion ac at Network Rail i ofyn pam na chafodd Cyngor Cymuned y Borth wybod am y bwriad i gau'r ffordd yn Nôl-y-bont er mwyn cynnal gwaith ar y bont.
 
175. Y fainc sydd wedi torri yn Heol Aberwennol.  Cofnod 167.  Roedd y Clerc wedi sôn wrth Gyngor Sir Ceredigion am y fainc. Mae'r Cyngor Sir ers hynny wedi cadarnhau nad yw'r cofnod o'r meinciau sydd dan ei berchnogaeth yn ardal y Borth yn cynnwys mainc yn y fan hon. Awgrymodd y Cyng. Jones y dylid holi Tai Ceredigion am gyllid drwy eu Cronfa Gymunedol i gael mainc newydd. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n holi Cyngor Sir Ceredigion ynghylch y mater.
 
         GOHEBIAETH
 
176.  Y Coronafeirws.  Diweddariadau rheolaidd gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
 
177.  Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.  Mae'r holl ohebiaeth a ddaeth i law yn ystod y mis wedi'i hanfon at bob Cynghorydd dros e-bost. Ni chodwyd dim materion.
 
178.  Gohebiaeth Arall. Daeth gohebiaeth i law oddi wrth Fwrdd Iechyd Hywel Dda, Ben Lake AS, Refill Wales, y Wefan Gymunedol, y Parthau Diogel, Ecodyfi, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, O'r Mynydd i'r Môr, Calonnau Cymru a Thai Fforddiadwy. Daeth copi i law o'r cylchgrawn Clerks and Councils Direct hefyd. Ni chodwyd dim materion yn sgil yr ohebiaeth a ddaeth i law.
 
179.  Diffibriliwr ar gyfer yr Hwb Cymunedol.  Cais am gyfraniad ariannol fel y gellir prynu diffibriliwr i'w roi y tu allan i adeilad yr Hwb Cymunedol. Cynigiodd y Cyng. Jones bod y Cyngor yn cyfrannu £500. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. James a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
180.  Mynediad i bobl anabl i'r traeth.  E-bost at y Cyngor i holi a oedd grant neu gyllid loteri ar gael i greu mynediad i'r traeth i bobl anabl ger y Clwb Golff. Roedd eitem ar yr agenda wedi'i neilltuo ar gyfer y mater hwn.
 
181.  Llifogydd ger y Clwb Golff.  Copi o lythyr at Gyngor Sir Ceredigion sy'n gofyn i'r ffordd gael ei gwyro pan fo llifogydd.
 
182.  Y maes parcio gyferbyn â Brynowen.  Yn sgil digwyddiad diweddar pan dorrwyd y clo ar gât y maes parcio, ac wedi i'r Clerc wneud ymholiadau, cafwyd cadarnhad mai'r Heddlu a dorrodd y clo er mwyn i'r ambiwlans gael mynd i mewn i'r safle i drin gŵr a oedd yn sâl.
 
183.  Cais am Rodd Ariannol  Bydd y cais oddi wrth Fanciau Gwaed Cymru am gymorth ariannol yn cael ei ystyried ym mis Mawrth, ynghyd â phob cais arall am rodd ariannol.
 
CYFRIFON
 
184. Balans y Cyfrifon ar 13 Tachwedd 2020
        Nationwide                                                                                 30,148.85
        Cyfrif Cymunedol                                                                      24,019.35
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                                    15,340.83
        Cyfrif Adnau                                                                                3,668.92
 
185. Incwm 
 Rhent y safle tirlenwi a’r Safle Amwynderau Dinesig
 (2il daliad)                                                                                        4,616.50
 
186. GwariantPenderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol: 
        Seren Signs – arwyddion y maes chwarae                                     77.52
        Dyfed Alarms – gwaith cynnal a chadw blynyddol ar
     gamerâu cylch cyfyng y Neuadd Gymunedol                                 192.00
        R W Jones – Torchau Sul y Cofio                                                   71.00
        Robert Hunt - atgyweirio 2 fainc                                                   350.00
        Robert Griffiths – torri porfa                                                       1,872.00
        Wendy Jones – Coed Nadolig 2019 a 2020                                  160.00
        M Walker - cyflog £522.00, costau swyddfa £7.99                       529.99                                  
        Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Tachwedd                   117.05
 
Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
 187.   Archwiliad o'r Flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020.  Ardystiwyd y Datganiad Blynyddol gan Grant Thornton ac mae'r Hysbysiad o Ardystio Cwblhau Archwiliad i'w weld ar yr hysbysfwrdd yn unol â'r gofyniad. Cafwyd y datganiad hwn yng nghorff yr adroddiad: “Ar sail ein hadolygiad, ac yn ein barn ni, mae'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y Datganiad Blynyddol yn cydymffurfio â'r arferion cywir ac ni thynnwyd dim materion i'n sylw a allai beri inni bryderu na chafodd y gofynion deddfwriaethol a rheolaethol eu bodloni”.
 
CYNLLUNIO
 
188.  Cais am Ganiatâd Cynllunio.
A200949.  Tynnu tŷ haf pren i lawr a chodi garej/estyniad en-suite un llawr. Driftwood, Ffordd y Fulfran, y Borth. 
Dim gwrthwynebiad.
 
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
 
189.  Mae'r mater yn parhau.
 
Y MAES CHWARAE
 
190.  Hysbysodd y Cyng. Bainbridge yr Aelodau fod yr arwyddion newydd ar gyfer y maes chwarae wedi'u casglu. Bydd yn cwrdd â Rob Griffiths i drafod y gwaith atgyweirio y mae angen ei wneud ar beth o'r cyfarpar. Penderfynodd yr Aelodau fynd at i gyflwyno cais am grant o £10,000 am siglen i blentyn a siglen fasged newydd. Bydd y Cyngor yn ystyried dichonolrwydd agor y maes chwarae ym mis Ionawr ar ôl cwblhau'r gwaith atgyweirio.
 
Y PARC CYCHOD
 
191.  Mae'r mater yn parhau. 
 
CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR STRYD FAWR Y BORTH
 
192.  Mae'r mater yn parhau.
 
MYNEDIAD I BOBL ANABL I'R TRAETH
 
193.  Roedd y Cyng. Bryn Jones wedi anfon lluniau o'r lleoliad y cyfeiriai'r llythyr ato at bob Cynghorydd. Yn dilyn trafodaeth fer, gofynnwyd i'r Clerc anfon yr e-bost at Gyngor Sir Ceredigion er mwyn iddyn nhw ystyried y mater. 
                                        
MATERION Y CADEIRYDD
 
194.  Anfonwyd yr e-bost oddi wrth aelod o'r cyhoedd at yr aelodau ymlaen at Swyddog Monitro Cyngor Sir Ceredigion. Mae hi wedi penderfynu peidio â gweithredu ac ni fydd yn ymchwilio rhagor i'r gŵyn. Fodd bynnag, mae wedi awgrymu y dylai'r Cyngor gyfeirio'r mater ei hun at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac ategodd, "y gallai hyn fod yn ffordd ragweithiol a thryloyw o fynd i'r afael â'r ohebiaeth ac i achub y blaen ar ragor o broblemau a allai godi yn y dyfodol."  Cytunodd yr Aelodau i wneud hyn. Dywedodd y Cyng. Hughes fod ganddo berffaith ffydd yn uniondeb ac yn ymddygiad y Clerc. Soniodd y Cyng. Hughes am arwerthiant defaid diweddar a drefnwyd gan Aled Ellis a ddenodd tyrfa fawr. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n sôn wrth yr awdurdodau am y mater. Dymunodd Nadolig diogel a hapus i bawb a diolchodd i'r Aelodau am eu hymdrechion i wasanaethu'r gymuned yn ystod y flwyddyn anodd hon.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
195.   Hysbysodd y Cyng. Dalton yr Aelodau fod y bin yn y lle chwarae wedi mynd.
Clywyd gan y Cyng. Bainbridge am gyfarfod diweddar i drafod Gorwelion ac ategodd fod y lle bellach yn fan diogel 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Nid yw'r Cyng. Pryce Jones wedi cael dyfynbris eto am y gwaith i atgyweirio'r meini copa gyferbyn â Siop Premier. Cafodd wybod bod ymwelwyr o ardal yn Haen 3 yn aros ym Mrynowen. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n sôn wrth Grŵp Rheoli Aur COVID-19 am y mater.
Soniodd y Cyng. James am draffig trwm ar Ffordd Clarach oherwydd y goleuadau traffig yn Bow Street ac yn sgil cau’r ffordd yn Nôl-y-bont ar benwythnosau.
Soniodd y Cyng. Jones fod cyfle i fanteisio ar gyllid Grant Adfer Gwirfoddoli i gynghorau tref a chymuned. Awgrymodd y Cyng. Jones hefyd y dylid anfon cerdyn cydymdeimlo at deulu Muriel de la Haye a fu farw’n ddiweddar.
Gofynnodd y Cyng. Morris i'r Cyngor ystyried ychwanegu'r cae pêl-droed at y contract torri porfa pan fydd y gyllideb yn cael ei gosod y flwyddyn nesaf.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
196.  Cyflwynodd y Cyng. Quant yr wybodaeth a'r ystadegau diweddaraf o ran y pandemig. Bydd gorsaf drenau Bow Street yn agor ar y 14eg o Chwefror 2021 a bydd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn ei hagor yn swyddogol ar y 1af o Fawrth 2021. Bu'r Cyng. Quant yn bresennol mewn cyfarfod diweddar i drafod amddiffynfeydd y môr. Bwriedir cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Chwefror. Cynhelir cyfarfod nesaf PACT ar yr 11eg o Chwefror 2021.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
197.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 9.15pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir ar 4 Ionawr 2021 fydd y Gyllideb a'r Praesept, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Maes Chwarae, y Parc Cychod a Chadw Pellter Cymdeithasol ar hyd Stryd Fawr y Borth. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu unrhyw eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.  
  • Hits: 1344