• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Chwefror 2021

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, Y 1AF O CHWEFROR 2021 AM 19.00 O'R GLOCH

 

Presennol:        Cadeirydd:                 H Hughes
                                                            C Bainbridge                                                               
    R Dalton
                                                            R Davies                                                                                  
    J James            
    G B Jones
                                                            A J Morris
                                                            D Pryce Jones
                                                            D Tweedy                                                        
Yn bresennol:   Cynghorydd Sir:        R P Quant
                         Clerc:                          M Walker            
                                                            5 aelod o'r cyhoedd. 
 

YMDDIHEURIADAU

229. Y Cyng. M Griffiths.

CYFRANOGIAD Y CYHOEDD

230.  Mae Andrea Hughes yn dal i boeni am ddiogelwch cerddwyr wrth iddynt gamu i'r ffordd i geisio glynu wrth y rheol 2 fetr ac am fod ceir yn dal i oryrru drwy'r stryd fawr. 

DATGAN BUDDIANNAU

231. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

232. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar 4 Ionawr 2021. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.

COFNODION Y CYFARFOD ABRENNIG A GYNHALIWYD AR Y 25EG O IONAWR 2021

233.  Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd o bell ar 25 Ionawr 2021. Y cynigydd oedd y Cyng. Pryce Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.

MATERION YN CODI

234. Cau'r ffordd yn Nôl-y-bont.  Cofnod 202.  Nid oes dim ateb wedi dod i law hyd yn hyn.

235. Mainc wedi torri yn Heol Aberwennol.  Cofnod 203. Cadarnhaodd y Cyng. Pryce Jones fod Mr Rob Hunt yn barod i atgyweirio'r fainc. 

GOHEBIAETH

236.  Y Coronafeirws.  Diweddariadau rheolaidd gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

237.  Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.  Mae'r holl ohebiaeth a ddaeth i law yn ystod y mis wedi'i hanfon at bob Cynghorydd dros e-bost. Ni chodwyd dim materion.

238.  Gohebiaeth Arall   Gwasanaeth Gwaed Cymru, Edodyfi. Ni chodwyd dim materion.

239.  Ceisiadau am roddion ariannol.  Mynwent y Garn, Ambiwlans Awyr Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru.

240.  Ysgol Craig yr Wylfa.  Llythyr sy'n diolch i'r Cyngor am ei rodd ddiweddar.

241.  Therapi Iaith a Lleferydd Pediatrig Ceredigion.  Cais i osod bwrdd cyfathrebu yn y maes chwarae.

242.  Peidio â graeanu ffyrdd rhewllyd a materion eraill.   Ymateb i lythyr oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion ynglŷn â'r ffaith nad yw Ffordd Clarach yn cael ei graeanu yn ystod tywydd rhewllyd.

243.  Brechu Rhag Covid-19. Llythyr oddi wrth breswylydd pryderus sy'n sôn bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dweud y bydd pobl sydd dros 75 oed yn cael cynnig apwyntiad i gael y brechlyn yn Llyfrgell Thomas Parry. Mae'r preswylydd yn pryderu y bydd yn rhaid i bobl nad ydynt yn gyrru ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu drefnu tacsi.

CYFRIFON

244. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Ionawr 2021
        Nationwide                                                                            30,148.85
        Cyfrif Cymunedol                                                                  16,880.11
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                                 15.341.21
        Cyfrif Adnau                                                                            3,669.01
 
245. Incwm 
        Cyfrif Cymunedol – y rhent am y tir ger Ger y Don                   100.00
        Cyfrif Cymunedol – grant y maes chwarae                            10,350.00
        Fforddfreintiau Scottish Power                                                       79.41     
 
246. Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:
        Swyddfa Archwilio Cymru – archwiliad 2019/20                        262.25
        M Walker-cyflog £522.20,  costau swyddfa £9.99                       532.19  
        Cyngor Cymuned Genau’r Glyn – estyll ar gyfer y fainc                18.00                                           
        Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Ionawr a chofnodion
 y cyfarfod arbennig                                                             95.90       

Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.

 CYNLLUNIO

 
247.  Cais am Ganiatâd Cynllunio.
A201076.  Estyniad arfaethedig i gefn yr eiddo a balconi yn y blaen, ynghyd â newidiadau. Seren y Môr, Stryd Fawr, y Borth.
Trafododd Cyngor Cymuned y Borth y cais hwn am gryn amser a gofynnodd am ymweliad safle. Codwyd pryderon ynglŷn â'r ffaith y gallai'r estyniad yn y cefn leihau'r golau sy'n cyrraedd yr adeiladau gerllaw ac y gallai'r balconi blaen arfaethedig rwystro golau rhag cyrraedd yr adeiladau ar yr ochr arall i'r ffordd, gan y byddai'n edrych drostynt. Bydd hyn yn amharu ar eu preifatrwydd.
 
A210021.  Dileu/Amrywio amod 2 caniatâd cynllunio D1.227.86 - deiliadaeth drwy gydol y flwyddyn. Parc Carfanau Sea Rivers, Ynyslas, y Borth. Er bod Cyngor Cymuned y Borth yn hollol gefnogol i'r diwydiant twristiaeth, rydym yn poeni y bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i bobl fyw yma drwy gydol y flwyddyn ac mai hwn fyddai eu prif gartref. Pe cymeradwyid y cais hwn, byddai Cyngor Cymuned y Borth yn awyddus i gael sicrwydd y byddai'r sefyllfa'n cael ei rheoli.
 
Cynigiodd y Cyng. Jones y dylai'r Aelodau leisio'u pryderon ynghylch y mater hwn, eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Davies a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o'i blaid.
 
LLE GWAG AR Y CYNGOR.
 
248.  Cadarnhaodd y Clerc bod hysbysiadau wedi'u rhoi ar bob hysbysfwrdd ynglŷn â'r lle gwag ar y Cyngor. Ategodd ei bod wedi cael un cais hyd yma.
 
LLIFOGYDD
 
249.  Mynegwyd pryderon ynglŷn â’r llifogydd yng Nghae Gwylan a'r llifogydd sy'n dal i achosi problemau ar y ffordd ger y Cwrs Golff o ganlyniad i'r glaw trwm yr wythnos ddiwethaf. Dywedodd y Cyng. Jones fod angen i'r Cyngor gael strategaeth ar gyfer y Borth a bod angen iddo gydweithio â gwahanol awdurdodau i greu cynllun tymor hir i fynd i'r afael â'r broblem hon. Gofynnwyd i'r Cyng. Jones ddrafftio llythyr at Gyngor Sir Ceredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Awgrymwyd hefyd y dylai'r Cyngor greu is-grŵp er mwyn gweithredu ar y mater hwn.
 
FFOSYDD
 
250.  Bydd y gwaith i lanhau'r ffos o gwmpas y caeau chwarae yn cychwyn pan fydd trwydded llygod y dŵr wedi'i hadnewyddu.
 
Y MAES CHWARAE
 
251.  Daeth £10,350 o gyllid grant i law am ddarn ychwanegol o gyfarpar ac i gynnal y gwaith atgyweirio. Bydd y cyfarpar newydd yn cael ei osod cyn gynted ag y bydd hynny'n ddiogel.
 
Y PARC CYCHOD
 
252.  Mae'r holl arwyddion bellach wedi'u gosod.
 
CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR STRYD FAWR Y BORTH
 
253.  Bydd y Cyng. Quant codi'r mater eto â Chyngor Sir Ceredigion.
                                     
MATERION Y CADEIRYDD
 
254.  Diolchodd y Cadeirydd i Mr Mark Williams am ei gyfraniad at y llythyr a anfonwyd (fel y nodir yng nghofnod 230/21). Mae'r diffibrilwyr wedi cael batris newydd ac mae'r ddau ohonynt wedi'u cofrestru â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
255.  Mae'r Cyng. Bainbridge wedi cael e-bost oddi wrth Carol Fielding sy'n sôn am y cyfle i sefydliadau yng Ngheredigion i ymgeisio am Gronfa Grant Prosiect Partneriaeth Natur Ceredigion 2020/2021. Cynigiodd y Cyng. Dalton y dylai'r Cyngor ymgeisio am y grant, eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Bainbridge a phleidleisiodd pob Aelod o'i blaid. Hysbysodd y Cyng. Bainbridge yr Aelodau y cynhelir cyfarfod i drafod y carnifal ar ddydd Llun, y 15fed o Chwefror.
Atgoffodd y Cyng. Dalton yr Aelodau mai'r enw newydd ar Ganolfan Deuluol y Borth fydd 'Hwb Cymunedol y Borth'.  Mae'r arwyddion cŵn wrth y ddwy fynedfa i'r caeau pêl-droed wedi mynd.
Hysbysodd y Cyng. Pryce Jones yr Aelodau mai Louis de la Haye a Peter Davies Jones sydd bellach yn gyfrifol am gau'r llifddorau ger yr adeilad Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (yr RNLI). Nid yw'r gwaith i atgyweirio'r meini copa, a chael meini copa newydd, ym mhen deheuol y pentref wedi cychwyn eto.
Dywedodd y Cyng. Davies y dylai pawb osgoi campau peryglus a allai arwain at orfod galw’r RNLI a Gwylwyr y Glannau. Mae gwaith yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar y cyrtiau tenis.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
256.  Cafwyd diweddariad manwl gan y Cyng. Quant ynglŷn â'r coronafeirws a hysbysodd yr Aelodau fod Ben Lake AS ac Elin Jones AC wedi ymuno â'r diweddariadau coronafeirws wythnosol. Roedd yn bleser ganddo gyhoeddi bod y feirws dan reolaeth yng Ngheredigion ac ategodd fod 10.3% o bobl y Sir bellach wedi'u brechu.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
 
257.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 9.05pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, y 1af o Fawrth 2021 fydd y Lle Gwag ar y Cyngor/Cyfethol Aelod Newydd ar y Cyngor, Rhoddion Ariannol, Llifogydd a Ffosydd, y Maes Chwarae, y Parc Cychod a Chadw Pellter Cymdeithasol ar Stryd Fawrth y Borth. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu unrhyw eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.
  • Hits: 1268