Cofnodion - Mis Ionawr 2019
YMDDIHEURIADAU
304. Y Cynghorwyr G Ashley, R Dalton a'r Cyng. M Griffiths. Cyflwynodd y Cyng. Phil Turner-Wright lythyr ymddiswyddo.
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
305. Dim.
CYFETHOL AELOD NEWYDD I'R CYNGOR
306. Estynnodd y Cyng. Bainbridge wahoddiad i Mr Dean Tweedy ymuno â'r Cyngor. Tyngodd lw'r Datganiad Derbyn Swydd ac fe'i croesawyd yn aelod o Gyngor Cymuned y Borth. Rhoddwyd copi o God Ymddygiad y Cyngor i Mr Tweedy. Bydd copi o'r Rheolau Sefydlog newydd ar gael yn electronig.
DATGAN BUDDIANNAU
307. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
308. Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2018 yn gywir, ar yr amod y caiff cofnod 296 ei ddiwygio ar gais y Cyng. Hughes. Bydd cofnod 296/2018 yn cael ei gadarnhau pan fydd y Cyngor yn cwrdd ym mis Chwefror.
MATERION YN CODI
309. Maes Chwarae i Blant. Cofnod 271. Cafwyd adroddiad dan Faterion y Cadeirydd.
310. Tir Comin. Cofnod 296. Cafwyd adroddiad gan y Cynghorydd Sir, y Cyng. Quant, a dywedodd y bydd yn gofyn am gyngor cyfreithiol priodol.
311. Maes Parcio ar dir yr Hen Neuadd Cofnod 297. Dangosodd y Clerc ddau fap ynghyd ag adroddiad a baratôdd y Cyng. Quant ynglŷn â'r maes parcio.
GOHEBIAETH
312. Llywodraeth Cymru. Diweddariad mis Rhagfyr 2018 i Gynghorau Tref a Chymuned.
313. Llywodraeth Cymru. Cylchlythyr Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Rhagfyr 2018.
314. Un Llais Cymru. Manylion pecyn cymorth a ddatblygwyd gan Grŵp Llywio Gwerth Cymdeithasol Caerdydd a'r Fro i gynorthwyo unrhyw unigolyn neu dîm sy'n ymwneud â chomisiynu, caffael neu ddarparu gwasanaethau sy'n creu gwerth cymdeithasol.
315. Llywodraeth Cymru. Rhifyn mis Rhagfyr 2018 o fwletin Cyfoeth Naturiol Cymru.
316. Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth. Llythyr i ddiolch am y grant diweddar o £6000.
317. Llywodraeth Cymru. Manylion yr ymgynghoriadau diweddaraf sydd ar gael i'w gweld ar-lein, gan gynnwys briff ynghylch trafnidiaeth a'r economi.
318. Un Llais Cymru. Cylchlythyr mis Tachwedd Comisiynydd Heddlu a Throseddu
319. Un Llais Cymru. Manylion y modd y gall Llywodraeth Leol wneud rhagor i ddatblygu diwylliant cryf o ran data.
320. Cyngor Sir Ceredigion. Manylion ymgynghoriad ynghylch y ddarpariaeth cyfleusterau cyhoeddus bresennol yng Ngheredigion.
321. HCC Solicitors. Cais am fanylion yswiriant y Cyngor parthed hawliad anaf personol. Gofynnwyd i'r Clerc anfon yr ohebiaeth at gwmni yswiriant y Cyngor.
322. Un Llais Cymru. Cais i gwblhau arolwg ynghylch defnyddio'r Gymraeg.
323. Un Llais Cymru. Cylchgrawn Clerk and Councils Direct.
324. Swyddog Monitro Gwahoddiad i glercod pob Cyngor Tref a Chymuned gwrdd â'r Swyddog Monitro i drafod materion cyffredinol ac unrhyw faterion o bwys.
325. Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020. Llythyr yn gofyn i Gynghorau gefnogi'r Eisteddfod drwy gyfrannu i'w choffrau.
326. Cais am Rodd Ariannol Y Tincer. Bydd hwn yn cael sylw yng nghyfarfod mis Mawrth ynghyd â phob cais arall.
327. Llywodraeth Cymru. Dolen i'r ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd.
328. Un Llais Cymru. Gwybodaeth am y gofynion newydd sy’n ymwneud â phob datblygiad newydd.
329. Un Llais Cymru. Bwletin newyddion Blwyddyn Newydd 2019 a dyddiadau digwyddiadau hyfforddi yn Aberystwyth.
CYFRIFON
333. Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn
Dim
CYLLIDEB A PHRAESEPT 2019/20
334. Dosbarthodd y Clerc y ffigurau gwariant a'r balans diweddaraf hyd at y 31ain o Ragfyr 2018, ynghyd â chynllun ariannol 2019/20 a gyflwynwyd mewn manylder gan y Cyng. Quant. Penderfynwyd cymeradwyo'r gyllideb ganlynol ar gyfer 2019/20:
Cyfanswm: £32,950.00
335. Penderfynwyd cymeradwyo'r gyllideb a chytunwyd ar braesept o 60%, sy'n gyfystyr â £19,770.00. Cynigiwyd hyn gan y Cyng. Bryn Jones ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. Hugh Hughes. Pleidleisiodd yr holl aelodau a oedd yn bresennol o blaid y penderfyniad.
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
336. Cynhelir cyfarfod i drafod hyn ar ddydd Mercher, Ionawr y 9fed yn y Neuadd Gymuned
PRYDLES Y PARC CYCHOD
337. Mae'r mater yn parhau.
MATERION Y CADEIRYDD
338. Rhoddodd y Cyng. Bainbridge ddiweddariad byr ynghylch ei chais llwyddiannus am gyllid ar gyfer y maes chwarae. Awgrymodd y Cyng. Willcox y dylid ymchwilio i'r broblem â'r draeniau yn yr ardal honno. Bu'r Cyng. Bainbridge yn bresennol mewn cyfarfod i drafod y llifogydd ar y Cwrs Golff. Roedd Ben Lake AS hefyd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw. Codwyd £686.90 hyd yma drwy werthu llyfrynnau'r Rhyfel Mawr a fydd yn cael eu cynnwys yng Ngwobr Arfer Arloesol Un Llais Cymru.
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
339. Yn ei habsenoldeb, hysbysodd y Cyng. Dalton y Clerc y cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar yr 17eg o Ionawr.
Nododd y Cyng. Willcox y bydd Rob Davies yn dechrau gweithio ar yr ardal cerdded cŵn yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn ar y 14eg o Ionawr.
Soniodd y Cyng. Morris fod rhai cartrefi wedi bod heb ddarllediad teledu. Bydd Cyngor Cymuned y Borth yn ysgrifennu i fynegi pryder ynghylch hyn.
Mae'r Cyng. James wedi cael anawsterau â'r casgliadau biniau dros gyfnod y Nadolig. Damwain arall ger Brynbala.
Bu'r Cyng. Hughes mewn cyfarfod yn ddiweddar i drafod y "Goeden". Mae Adran Iechyd yr Amgylchedd wedi cael gwybod am y tipio anghyfreithlon sy'n digwydd ar safle'r banciau poteli. Dywedodd y Cyng. Hughes bod angen rhagor o arwyddion cŵn ar y polion lampau. Bydd yn cysylltu â'r Cynghorwyr Ashley a Dalton ynghylch hyn.
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
340. Mae'r Cyng. Quant wedi cytuno i gael cyngor cyfreithiol priodol ynghylch y darn o dir comin ger y sŵ.
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
341. Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 9.05pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf ar ddydd Llun, y 4ydd o Chwefror 2019 fydd ymweliad gan Ben Lake AS a'r Eisteddfod Genedlaethol. Dylid rhoi gwybod i’r Clerc am eitemau eraill.
- Hits: 2607