• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Ebril 2019

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, EBRILL 1af, 2019 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:   Cadeirydd:                           C Bainbridge
                                                            G Ashley
                                                            R Dalton
                                                            J James
                                                            G B Jones
                                                            A J Morris
                                                            D Tweedy
                                                            M J Willcox    
Yn bresennol: Cynghorydd Sir:               R P Quant
            Clerc:                                       M Walker            
                 4 aelod o'r cyhoedd.
 
 
YMDDIHEURIADAU
 
414.  Y Cynghorwyr M Griffiths a H Hughes.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
415.  Dim.
 
YMWELIAD GAN BEN LAKE AS
 
416.  Canslwyd yr ymweliad oherwydd pwysau gwaith.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
417. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
418.  Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2019. Cynigiwyd gan y Cyng. R Dalton ac eiliwyd gan y Cyng. G Ashley.
 
MATERION YN CODI
 
419.  Maes Chwarae i Blant.  Cofnod 382.  Hysbysodd y Cyng. Bainbridge yr Aelodau fod y gwaith draenio yn y maes chwarae wedi cychwyn.
 
420.  Tir Comin.  Cofnod 383.  Gweler yr ohebiaeth.
 
421.  Maes Parcio ar dir yr Hen Neuadd  Cofnod 384.  Mae'r mater yn parhau.
 
422.  Yr Eisteddfod Genedlaethol.  Cofnod 385. Mae'r mater yn parhau.
 
423.  Baner Cymru.  Cofnod 409.  Bydd y Cyng. Quant yn gwneud holi Cyngor Sir Ceredigion ymhellach ynglŷn â’r mater hwn.
 
GOHEBIAETH
 
424.  Cyngor Sir Ceredigion.  Rhybudd ynghylch y bwriad i gau Ffordd Clarach.
 
425.  Llywodraeth Cymru.  Rhestr o'r holl ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd.
 
426.  Un Llais Cymru.  Rhifyn mis Mawrth 2019 o fwletin newyddion Un Llais Cymru.
 
427.  Ecodyfi.  Digwyddiad yn y Caffi Trwsio ar yr 16eg o Fawrth.
 
428.  Un Llais Cymru.  E-bost yn cadarnhau bod Cyngor Cymuned y Borth wedi'i enwebu am Wobr Arfer Arloesol yn y Seremoni yn Llanfair ym Muallt ar yr 28ain o Fawrth. Bu'r Cynghorwyr Bainbridge a Dalton yn bresennol yn y seremoni a derbyniodd y Cyngor glod yn y categori Ymgysylltu Cymunedol.
 
429.  Signal teledu.  Llythyr oddi wrth Ben Lake AS sy'n sôn am golli sianeli teledu yn sgil newid y signalau Freeview yn yr ardal.
 
430.  Rhoddion ariannol.  Cais oddi wrth Gyngor Ar Bopeth a llythyron diolch oddi wrth fynwent y Garn, Ambiwlans Awyr Cymru a'r Tincer.
 
431.  Torri gwair.  E-bost yn holi a oedd tendr newydd yn cael ei lunio eleni ar gyfer y gwaith torri gwair.
 
432.  Hawlio ar y polisi yswiriant.  Llythyr dilynol oddi wrth gwmni Aviva sy'n ymwneud ag aelod o'r cyhoedd yn hawlio ar y polisi yn ddiweddar.
 
433.  Camerâu y gellir eu gosod mewn mwy nag un man. Llythyr oddi wrth gwmni yng Ngogledd Cymru sy'n arbenigo mewn camerâu a systemau cylch cyfyng.
 
434.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion cynllun Porth Cymunedol newydd. Penderfynwyd gwahodd un o'r Cysylltwyr Cymunedol i gyfarfod mis Mehefin.
 
435.  Un Llais Cymru.  Cais am gyfraniad y Cyngor tuag at wefan Deall Enwau Lleoedd Cymru.
 
436.  Tir Comin.  E-bost oddi wrth aelod o'r cyhoedd sy'n honni bod Cyngor Cymuned y Borth wedi codi maes parcio anghyfreithlon ar dir comin. Dywedodd y Cyng. Willcox y byddai'n ymweld â'r achwynydd i ddatrys y sefyllfa.
 
437.  Llywodraeth Cymru.  Cylchlythyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
 
438.  Diwrnod y Llynges Fasnachol.  Gwahoddiad i gefnogi ymgyrch eleni.
 
CYFRIFON
 
439. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Mawrth 2019
        Nationwide                                                                                         29,637.15
        Cyfri Cymunedol                                                                                     500.28
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                                 11,454.76
        Cyfri Adnau                                                                                         3,579.83
 
440. Incwm   
        Cyfri Adnau - llog gros hyd 28 Chwefror                                                      1.60
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd - llog gros hyd 28 Chwefror                               9.30
        Cyngor Sir Ceredigion - grant meysydd chwarae                                     4,500.00                
    
441. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
        Cyfri Cymunedol - tâl am rwystro siec rhif 201683 a aeth ar goll                  10.00
        Robert Griffiths - gwaith draenio ar y maes chwarae                               2,040.00
        Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi - Cynllun Talu Wrth Ennill Ionawr,
Chwefror a Mawrth                                   364.20
        M Walker - cyflog 508.00, costau swyddfa 7.99                                       515.99
        Heledd Davies – Gwaith cyfieithu                                                              77.10
 
442.  Grant Thornton UK LLP.  Rhybudd ynghylch yr archwiliad blynyddol o'r flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2019.  Rhaid arddangos y rhybudd ynghylch y dyddiad y gall etholwyr arfer eu hawliau archwilio am 14 diwrnod o'r 16eg o Fehefin 2019. Yna, rhaid sicrhau bod y cyfrifon a dogfennau eraill ar gael i'w harchwilio am 20 diwrnod gwaith o'r 1af o Orffennaf 2019 tan y 26ain o Orffennaf 2019. Mae'n ddyletswydd ar Gyngor Cymuned y Borth i anfon copi o'r ffurflen flynyddol a dogfennau cysylltiedig at yr archwilwyr erbyn y 24ain o Fehefin 2019. Gall y cyhoedd arfer eu hawliau archwilio ar ddydd Iau, yr 20fed o Fehefin 2019 rhwng 5pm a 7pm yn y Neuadd Gymunedol.
 
CYNLLUNIO
 
443.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn
A190110.  Codi estyniad i'r sinema bresennol er mwyn creu cyntedd newydd. Libanus 1877, y Borth. Dim gwrthwynebiad.
A190156.  Codi estyniad a gwaith altro. Argoed, Ffordd y Fulfran, y Borth. Datganodd y Cyng. Bryn Jones fuddiant a gadawodd yr ystafell. Dim gwrthwynebiad.
 
TENDR Y PARC CYCHOD
 
444.  Daeth un cais i law yn sgil hysbysebu tendr y parc cychod. Rhoddwyd copïau o gynigion manwl Emma Heathcote i'r Aelodau. Yn dilyn sgwrs, cynigiodd y Cyng. Morris y dylid derbyn y tendr a ddaeth i law oddi wrth Emma Heathcote ar yr amod bod y brydles yn cael ei chyfnewid yn gywir. Eiliodd y Cyng. Bryn Jones y cynnig hwn. Pleidleisiodd 7 o'r Aelodau o blaid y cynnig ac ymatalodd 1 Aelod.
Penderfynodd y Cyng. Morris gyflwyno'r brydles ddrafft i gyfreithwyr y Cyngor, sef Morris & Bates, i'w chymeradwyo neu ei diwygio fel bo angen. Byddai Emma Heathcote yn talu costau cyfreithiol y Cyngor. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Ashley. Roedd 7 Aelod o blaid hyn ac ymatalodd 1 Aelod.
 
CŴN
 
445.  Daeth dyfynbris i law am £240 + TAW oddi wrth Luke Griffiths o Redesign UK am 5 o arwyddion 'Dim Cŵn yn Baeddu' cyfansawdd â chlipiau a chyfarpar gosod wedi'u cynnwys. Cynigiodd y Cyng. Ashley y dylid derbyn y dyfynbris ac eiliwyd hynny gan y Cyng. Jones. Roedd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn. 
 
MATERION Y CADEIRYDD
 
446.  Mae'r gwaith ar Restr y Gwroniaid yn parhau. Cafwyd diweddariad gan y Cyng. Bainbridge ynglŷn â chyfarfod diweddar 
y Cyngor Iechyd Cymuned y bu'n bresennol ynddo. Mynegwyd pryderon lu ynghylch proffil y traeth. Bu'n rhaid i Ysgol Craig 
yr Wylfa leihau oriau un aelod amser llawn o'r staff i gontract rhan-amser.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
447. Dywedodd y Cyng. Dalton y cafwyd peth dryswch ynglŷn â'r cyfyngiadau parcio newydd a'r llinellau melyn sydd wedi'u paentio'n ddiweddar.
Mae'r Cyng. James yn pryderu nad oedd gwaith yn cael ei wneud ar y tyllau yn y ffordd ar hyd Ffordd Clarach a bod llawer mwy o waith atgyweirio wedi’i wneud ar ffordd sy'n cael ei defnyddio dipyn llai.
Gofynnodd y Cyng. Willcox am gyngor ynglŷn â'r byrddau amddiffyn rhag stormydd. Roedd am wybod a ddylid eu symud neu eu gadael yn eu safle presennol tan ar ôl y Pasg. Cytunwyd i'w symud ar ôl y gwyliau.
Mae'r Cyng. Ashley hefyd wedi cael cwynion ynghylch y llinellau melyn sydd wedi'u paentio'n ddiweddar ac ynghylch proffil y traeth.
Gofynnodd y Cyng. Jones a oedd bwriad i osod sglodion ar hyd Ffordd Clarach gan fod tar moel mewn rhai mannau ar hyd y ffordd.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
448.  Dywedodd y Cyng. Quant fod amddiffyn yr arfordir yn broblem ac nad yw Cam 3 y cynllun yn flaenoriaeth. Mae'n ymdrechu i sicrhau bod y traeth yn cael ei broffilio unwaith eto. Mae'r llinellau melyn sydd wedi'u paentio ar rannau o'r Stryd Fawr wedi'u cwblhau ond nid yw'r arwyddion sy'n gysylltiedig â hynny wedi'u codi eto. Cynhelir cyfarfod i drafod yr Eisteddfod Genedlaethol ar yr 16eg o Ebrill a chynhelir digwyddiad i godi arian yn Boulders ar yr 21ain o Ebrill yn ogystal â phrynhawn i'r teulu ar y 15fed o Fehefin. Cynhelir cinio Anzac y Lleng Brydeinig ar y 27ain o Ebrill a chynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Biosffer Dyfi ar yr 16eg o Fai. Rhoddodd y Cyng. Quant ddiweddariad byr ynglŷn â chyfarfod y bu'n bresennol ynddo rhwng Network Rail a chynrychiolwyr Cyngor Sir Ceredigion i drafod gosod ffens er mwyn amgáu'r llwybr sy'n rhedeg o gyfeiriad y de tuag at blatfform yr orsaf.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
449.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 8.55pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf nos Lun, y 13eg o Fai 2019 fydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Datganiad Derbyn Swydd Cynghorydd sydd newydd ei ethol. Dylid rhoi gwybod i’r Clerc am eitemau eraill.                                                                
 
 
 
  • Hits: 1846