Cofnodion - Mis Mai 2019
COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, MAI 13 2019 AM 19.00 O'R GLOCH
Presennol: Cadeirydd: R Dalton
C Bainbridge
M Griffiths
H Hughes
D Pryce Jones
G B Jones
A J Morris
Yn bresennol: Cynghorydd Sir: R P Quant
Clerc: M Walker
5 aelod o'r cyhoedd.
YMDDIHEURIADAU
1. Y Cynghorwyr G Ashley, J James, D Tweedy ac M J Willcox.
DATGAN BUDDIANNAU
2. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
3. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2019. Cynigiwyd gan y Cyng. Bainbridge ac eiliwyd gan y Cyng. Jones.
MATERION YN CODI
4. Maes Chwarae i Blant. Cofnod 419. Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Bainbridge.
5. Tir Comin. Cofnod 420. Darllenwyd llythyr dan 'Gohebiaeth'.
6. Baner Cymru. Cofnod 423. Mae'r Cyng. Quant wedi trefnu, drwy Cliff Bates o Gyngor Sir Ceredigion, bod polyn baner wyth medr ei hyd â'r holl ffitiadau yn cael ei archebu. Gofynnwyd i'r Clerc archebu baner y Ddraig Goch.
7. Cŵn. Cofnod 445. Darllenwyd e-bost dan 'Gohebiaeth'.
GOHEBIAETH
8. Un Llais Cymru. Manylion ymgynghoriad, "Ystyried Cynigion i Ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013".
9. Llywodraeth Cymru. Rhestr o'r ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd, bwletin mis Mai Cyfoeth Naturiol Cymru a rhifyn mis Ebrill 2019 o gylchlythyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
10. Un Llais Cymru. Manylion digwyddiad a gynhelir mewn partneriaeth rhwng Un Llais Cymru a Chymorth Cynllunio Cymru. Gwirfoddolodd y Cynghorwyr Dalton a Jones i fynd i'r digwyddiad hwn.
11. Awdurdod Heddlu Dyfed Powys. Rhifyn Ceredigion o newyddlen yr Heddlu a Throseddu.
12. Un Llais Cymru. Gwahoddiad i gyflwyno hyd at ddau gynnig i'w trafod yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
13. Achubwyr Bywydau Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub 2019. Diweddariad ynglŷn â gwaith achub bywydau yn y sir.
14. Mynediad i Orsaf y Borth. Darllenwyd dau lythyr oddi wrth aelodau'r cyhoedd a oedd yn ymwneud â'r ffensio newydd. Cytunwyd i anfon llythyr at Network Rail.
15. Cyngor Sir Ceredigion. E-bost oddi wrth Adain Rheoli'r Amgylchedd y Cyngor Sir a oedd yn ymwneud â chwyn oddi wrth aelod o'r cyhoedd ynghylch tipio anghyfreithlon a chynnau coelcerthi ar dir comin y tu ôl i Lanwern. Yn dilyn archwiliad, mae Mr Evans wedi sylwi bod pontydd wedi'u hadeiladau y tu ôl i eiddo ac ymddengys bod perchnogion tai yn eu defnyddio fel estyniad i'w gerddi presennol. Bydd y Cynghorwyr Dalton a Hughes yn trefnu i gwrdd â Mr Evans ar y safle.
16. Un Llais Cymru. Bwletin mis Ebrill 2019.
17. Un Llais Cymru. Manylion digwyddiad ar y cyd rhwng Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol.
18. Tir nesaf at Gae Soar. Llythyr a ffotograffau oddi wrth ymddiriedolwyr Cae Soar. Maent yn mynegi pryder bod y tir wedi’i ddifrodi yn sgil gwaith gan Gyfoeth Naturiol Cymru i lanhau'r dyfrffos.
19. Ceisiadau am roddion ariannol. Age Cymru Ceredigion a Chanolfan Therapi Plant Cymru Bobath. Bydd y rhain yn cael eu hystyried yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth.
20. Borth Begins. Cais am £247 tuag at gostau premiwm yswiriant/atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer y digwyddiad. Datganodd y Cyng. Anthony Morris fuddiant ond arhosodd yn yr ystafell. Penderfynodd yr Aelodau dalu am yr yswiriant. Cynigiwyd gan y Cyng. Jones ac eiliwyd gan y Cyng. Pryce Jones. Pleidleisiodd 6 Aelod o blaid y cynnig ac ymatalodd 1 Aelod.
21. Maes Parcio'r Borth. Cais i storio dau gynhwysydd llong yn y maes parcio am bythefnos ar y mwyaf. Er nad oedd neb yn gwrthwynebu hyn, gofynnwyd i'r Clerc ofyn pryd yn union y byddant yn cyrraedd.
22. Cŵn. Cais oddi wrth y Cyng. Willcox, yn ei absenoldeb, i bostio rhybudd ar Facebook i ofyn i berchnogion cŵn beidio â mynd â'u cŵn am dro ar Feysydd Chwarae Uppingham, er bod rhybuddion yno sy'n dweud na chânt wneud hynny ar unrhyw amod. Bydd y mater hwn yn cael ei roi ar agenda'r cyfarfod nesaf.
23. Un Llais Cymru. Manylion swydd wag newydd, sef Swyddog Datblygu Canolbarth a Gorllewin Cymru.
24. Un Llais Cymru. Bwletin mis Mai 2019.
25. Ecodyfi. Manylion dwy swydd wag a gwahoddiad i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
26. Clwb Rhwyfo'r Borth. Diweddariad ynglŷn â chais y Clwb am barc cychod yn y Borth.
27. Gohebiaeth Arall Maes Chwarae.
CYFRIFON
28. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Ebrill 2019
Nationwide 29,879.20
Cyfri Cymunedol 1,552.99
Cyfri Busnes Dim Rhybudd 11,454.76
Cyfri Adnau 3,579.83
29. Incwm
Nationwide - llog gros rhwng 1/4/18 a 31/3/19 242.05
Cyfri cymunedol – Rhent ar gyfer y safle tirlenwi ac amwynder dinesig 4,616.50
Cyfri Cymunedol - grant draenio 1,700.00
Cyngor Sir Ceredigion - Praesept 2019/20 (rhandaliad cyntaf) 6,590.00
30. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
TME Electrical Contracting Ltd - Goleuadau Nadolig 594.00
Un Llais Cymru - Cynhadledd Wobrwyo 110.00
Y Comisiynydd Gwybodaeth - ffi diogelu data 40.00
M Walker - cyflog 508.00, costau swyddfa 23.48 531.48
Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Ebrill 77.35
Mike Willcox – tâl cydnabyddiaeth 150.00
Cyfoeth Naturiol Cymru - ardrethi draenio 269.67
Celfyddydau'r Borth - rhodd ariannol 247.00
CYNLLUNIO
31. Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn
A190256. Yn parhau. 2 falconi - y naill ar y llawr cyntaf a'r llall ar yr ail lawr. New Haven, Ffordd Clarach, y Borth. Dim gwrthwynebiad.
PRYDLES Y PARC CYCHOD
32. Mae'r mater yn parhau.
MATERION Y CADEIRYDD
33. Cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar y 23ain o Fai. Mae'r fainc a fabwysiadwyd ar y prom wedi'i phaentio ers y cyfarfod diwethaf. Soniodd y Cyng. Dalton bod angen côt o baent ar y rhan fwyaf o'r meinciau eraill hefyd. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n codi'r mater â Chyngor Sir Ceredigion. Roedd yn bleser gan y Cyng. Dalton weld bod y biniau ar y strydoedd wedi'u gwacau ddydd Sul Gŵyl y Banc. Mae'r arwydd wybodaeth ar y ffordd tuag at yr Orsaf Drenau wedi torri. Ategodd hefyd y byddai'n syniad da cynnal sesiwn arall i ddysgu sut mae defnyddio’r diffibriliwr. Mae gwaith paentio'r llinellau melyn newydd ar rannau o'r stryd bellach wedi dod i ben a bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu ymhen dwy flynedd a hanner.
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
34. Gwirfoddolodd y Cynghorwyr i ysgwyddo'r cyfrifoldebau canlynol:
G Ashley Gwella Golwg yr Amgylchfyd a'r Celfyddydau, Cŵn, y Parc Cychod a Goryrru
C Bainbridge Lle Chwarae i Blant, Llywodraethwr Ysgol Craig yr Wylfa, y Rhyfel Mawr a Facebook
R Dalton PACT, Ymddiriedolwr y Ganolfan Deuluol, Gwirfoddolwr yn Amgueddfa'r Orsaf
M Griffiths Un Llais Cymru, Cynrychiolydd y Cyngor ar Bwyllgor Biosffer Dyfi, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Iechyd.
H Hughes Tir Comin, 'y Goeden', Facebook a'r Wefan
J James PACT a Materion yr Heddlu
D Jones Sbwriel a'r Eisteddfod Genedlaethol
G B Jones PACT, y Celfyddydau'r a'r Gymraeg, Archwiliwr Ariannol Allanol a Diffibrilwyr
A J Morris Biosffer Dyfi, Cydlynydd Llifogydd, Dyfrffosydd a Draenio Ffosydd Mewnol
D Tweedy Celf
M J Willcox Tân, Cynrychiolydd y Cyngor ar Bwyllgor y Neuadd, Cydlynydd Llifogydd ac Ystadau, Archwiliwr Ariannol Allanol.
Awgrymodd y Cyng. Hughes y dylid gwahodd y Sgowtiaid i'r hyfforddiant ar y diffibriliwr. Mae cerbydau sy'n parcio ar y darn glaswelltog ar y clogwyn yn peri problem ar hyn o bryd. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n holi pwy sy'n berchen ar yr ardal hon.
Gofynnodd y Cyng. Bainbridge a fyddai modd i'r Borth gael ei hystyried yn gymuned dementia gyfeillgar. Roedd yr Aelodau o blaid hyn ond byddai angen rhagor o wybodaeth am y peth arnynt. Cytunwyd i wahodd Mark Williams i'r cyfarfod nesaf am ei fod yn aelod o'r Fforwm Iechyd Meddwl. Bu'r Cyng. Bainbridge yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn ddiweddar.
Cyfeiriodd y Cyng. Griffiths at y sbwriel ger y fferm trin carthion. Ceir nifer o garafanau ar y safle. Cytunodd y Cyng. Dalton i siarad â Mr Dean Tweedy a gofynnodd i'r Clerc ysgrifennu at y Swyddog Gorfodi yng Nghyngor Sir Ceredigion i sôn am hen garafán sydd wedi'i gadael wedi i'w pherchennog symud o'r ardal.
Mae'r Cyng. Jones yn poeni am y dŵr sy'n cael ei gario mewn cynwysyddion plastig o gwt ym mhen uchaf yr orsaf drenau tuag at yr amgueddfa. Dywedodd y Cyng. Dalton wrtho y byddai'n costio dros £2000 i ddod â chyflenwad dwr i'r amgueddfa.
Mae Coedwig Ceredigion wedi cysylltu â'r Cyng. Pryce Jones i ofyn iddo am yr ardaloedd hynny yn y Borth a fyddai'n addas i blannu coed ynddynt. Mae sawl aelod o'r cyhoedd yn wedi mynegi pryder bod y llethr graenog yn serth iawn mewn mannau. Dywedodd y Cyng. Quant fod Mr Rhodri Llwyd o'r Cyngor Sir wedi cerdded y traeth a dywedodd nad oedd dim bwriad ailbroffilio'r traeth ar hyn o bryd.
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
35. Dywedodd y Cyng. Quant wrth yr Aelodau bod cyfarfod i drafod yr Eisteddfod yn cael ei gynnal ar y 14eg o Fai. Mae gwaith adeiladu ar hyn o bryd yn digwydd yn Ynys Wen ac mae'n bosib bod garej neu sied yn cael ei chodi ar hawl tramwy gyhoeddus. Mae'r Cyng. Quant wedi hysbysu'r adrannau perthnasol. Mae'r drefn ailgylchu gwydr yn cael ei chyflwyno ar draws y sir.
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
36. Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 9pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf ar ddydd Llun, 3 Mehefin fydd ymweliad gan Mark Williams, y Datganiad Blynyddol i'w gyflwyno i'r Cyngor, y Wefan a Chŵn. Dylid rhoi gwybod i’r Clerc am eitemau eraill.
- Hits: 2248