Cofnodion - Mis Gorffennaf 2019
COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, GORFFENNAF 1 2019 AM 19.00 O'R GLOCH
Presennol: Cadeirydd: R Dalton
C Bainbridge
H Hughes
J James
D Pryce Jones
A J Morris
D Tweedy
Yn bresennol: Cynghorydd Sir: R P Quant
Clerc: M Walker
3 aelod o'r cyhoedd.
YMDDIHEURIADAU
72. Y Cynghorwyr M Griffiths, G B Jones ac M J Willcox.
YMWELIAD GAN MARK WILLIAMS, CADEIRYDD FFORWM GOGLEDD CEREDIGION AR GYFER GOFAL YR HENOED
73. Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i Mr Mark Williams i'r cyfarfod i drafod y bwriad i roi statws cymuned dementia cyfeillgar i'r Borth. Ei nod yw codi proffil dementia yn y gymuned drwy greu grŵp llywio a threfnu cyfarfod agored ym mis Medi/Hydref. Cytunodd yr Aelodau i gefnogi Mark yn llawn.
YMWELIAD GAN SAM HENLY - CYSYLLTYDD PORTH Y GYMUNED
74. Croesawyd Mr Henly i'r cyfarfod. Esboniodd ei waith fel Cysylltydd Porth y Gymuned, sef esbonio'r holl wasanaethau a'r gweithgareddau sydd ar gael yn yr ardal ac i wella llesiant.
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
75. Dim.
DATGAN BUDDIANNAU
76. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
77. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 3 Fehefin 2019. Y cynigydd oedd y Cyng. Hughes a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Roedd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn.
MATERION YN CODI
78. Tir Comin. Cofnod 42. Mae'r Clerc wedi cysylltu â Carol Fielding o Gyfoeth Naturiol Cymru i drefnu cyfarfod.
79. Cŵn. Cofnod 67. Mae'r mater yn parhau.
GOHEBIAETH
80. Un Llais Cymru. Diweddariad yn sgil sesiwn ddiweddar dan arweiniad cynrychiolydd o Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cylchlythyr y Comisiynydd Pobl Hŷn - Gwanwyn 2019.
Manylion gwobr newydd sy'n cydnabod gweithwyr gofal yng Nghymru. Dyddiad cau - 3 Gorffennaf.
Agenda cyfarfod Pwyllgor Ardal Ceredigion Un Llais Cymru a gynhelir ar y 26ain o Fehefin.
Modiwlau dysgu ar-lein sylfaenol.
Diweddariad ynglŷn â rhaglen Diwygio'r Cynulliad.
Bwletin mis Mehefin 2019.
Arolwg Gofalwyr, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Manylion cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn (Cymru). Dyddiad cau - 19 Gorffennaf.
Cynhadledd Arfer Arloesol Un Llais Cymru, 10 Gorffennaf 2019.
Llythyr oddi wrth Paul Egan at y Cynghorwyr Bryn Jones a Rona Dalton i ddiolch iddynt am eu cyflwyniad diweddar mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Un Llais Cymru a Chymorth Cynllunio Cymru.
81. Llywodraeth Cymru. Manylion yr ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd.
Cylchlythyr Cyfoeth Naturiol Cymru, Mehefin 2019.
Cylchlythyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mehefin 2019.
Rhyddhad ardrethi annomestig i dai bach cyhoeddus.
82. Coeden. Manylion datganiad i'r wasg a gylchredwyd.
83. Cyngor Sir Ceredigion. Dolen i'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a gyhoeddwyd gan y Cyngor.
84. Ecodyfi. Y digwyddiadau diweddaraf.
85. Rheoli Fforestydd. Gwahoddiad i gynnig sylwadau ynghylch gwaith rheoli fforestydd a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Safon yr FSC a ddefnyddir.
86. Dyfrffos ger Cae Soar. Cytunodd Cyfoeth Naturiol Cymru i glirio'r gweddillion a adawyd ar ôl wrth lanhau'r ddyfrffos.
87. Cyngor Sir Ceredigion. Cais i bleidleisio dros Aberystwyth wedi i'r dref gael ei chynnwys ar restr o'r deg cymdogaeth orau i gerdded ynddynt ym Mhrydain.
88. Goryrru. Llythyr oddi wrth breswylydd sy'n poeni am oryrru yn y Borth.
89. Cyngor Sir Ceredigion. Ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth a Ffafrir parthed Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion 2018-2033 a'r Ymgynghoriad ynghylch Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol parthed Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl2).
90. Cyngor Sir Ceredigion. Manylion y gwasanaeth casglu gwastraff newydd ar Lwybr 174.
91. Cyngor y Celfyddydau. Manylion "Noson Allan".
92. Ben Lake AS. Ymateb i lythyr oddi wrth y Cyngor ynghylch y gwaith chwilio posib am nwy ac olew ym Mae Ceredigion.
93. ROSPA. Adroddiad yn sgil yr Archwiliad Diogelwch a wnaed ar Gaeau Chwarae Uppingham.
94. 2il Grŵp Sgowtiaid y Borth. Llythyr oddi wrth Gadeirydd Sgowtiaid y Borth sy'n gofyn am gymorth ariannol ar gyfer y tri pherson sy'n chwilio am antur a ddewiswyd i fynd i ail a deugain Jamborî Sgowtiaid y Byd yng Ngorllewin Virginia. Penderfynwyd rhoi £600. Y cynigydd oedd y Cyng. Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Pryce Jones. Roedd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn.
95. Ymddiriedolaeth Cinnamon. Manylion elusen sy'n defnyddio gwirfoddolwyr i helpu pobl sydd dros oedran ymddeol a'r rhai sy'n dod at ddiwedd salwch angheuol drwy gynnig pobl math o ofal i'w hanifeiliaid anwes.
96. Swyddfa Archwilio Cymru. Manylion gweminar sy'n ymwneud â chefnogi cynghorau â'u trefniadau archwilio mewnol.
97. Clwb Pêl-droed Unedig y Borth. Cais am gyfraniad tuag at gostau cynnal a chadw'r caeau chwarae. Cytunwyd i roi'r un swm â'r llynedd, sef £1,500. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Hughes. Pleidleisiodd pob aelod yn unfrydol o blaid y cynnig.
98. Cyngor Sir Ceredigion. Rhaglenni Cynnal a Chadw Cerbytffyrdd, 2019-2020.
99. Pwyllgor Moeseg a Safonau Ceredigion. Adroddiad sy'n sôn am 4 Cyngor Tref/Cymuned nad oeddent wedi cadw cofnodion cyfrifo.
100. Safle bws yn Ynyslas. Dyfynbris Kieran Doyle am baentio'r safle bws yw £875. Cynigiodd y Cyng. Bainbridge y dylid derbyn y dyfynbris. Eiliwyd hynny gan y Cyng. Tweedy. Roedd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn.
101. Mynwent Eglwys Sant Matthew. E-bost sy'n ymwneud ag adnabod Morwr o'r Ail Ryfel Byd y mae awdur yr e-bost yn credu iddo gael ei gladdu mewn bedd dienw yn y fynwent.
102. Cyngor Sir Ceredigion. Llythyr oddi wrth Rhys Evans ynghylch y garafán sydd wedi'i gadael at y trac y tu cefn i'r sŵ.
CYFRIFON
103. Balans y Cyfrifon ar 13 Fehefin 2019
Nationwide 29,879.20
Cyfri Cymunedol 10,783.48
Cyfri Busnes Dim Rhybudd 11,454.76
Cyfri Adnau 3,581.75
104. Incwm
Cyfri Adnau - llog gros hyd 6/6/19 1.92
Cyfri Busnes Dim Rhybudd - Ad-daliad TAW 2018/19 2.655.74
Cyfri Busnes Dim Rhybudd - llog gros hyd 6/6/19 6.44
105. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
HAUL - rhodd er cof am y Cyng. G Ashley 100.00
J H Matthews – archwiliad 2018/19 100.00
Playsafety Limited - archwiliad o'r maes chwarae 107.40
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi - Cynllun Talu Wrth Ennill Ebrill,
Mai a Mehefin 381.00
M Walker - cyflog 508.00, costau swyddfa 12.49 520.49
Robert Griffiths - tocio'r gordyfiant ar hyd Llwybr y Coroni 180.00
Heledd Davies – Cyfieithu cofnodion mis Mehefin 97.35
Dyfed Alarms Cyf. - gwaith cynnal a chadw blynyddol ar
y camerâu cylch cyfyng 192.00
2il Grŵp Sgowtiaid y Borth (Jamborî) 600.00
Clwb Pêl-droed Unedig y Borth - rhodd ariannol 1,500.00
Canolfan Arddio Newmans - y gwobrau yng nghystadleuaeth
y gwelyau blodau 45.00
106. Yn dilyn trafodaeth fer, ac am fod angen ail lofnodwr ar y cyfri banc, gwirfoddolodd y Cyng. Hughes i ymweld â'r banc a chwblhau'r ffurflenni angenrheidiol.
CYNLLUNIO
107. Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn
A190327. Codi dau gartref gwyliau. Bythynnod Tŷ Gwyn, Ynyslas, y Borth. DIM GWRTHWYNEBIAD.
PRYDLES Y PARC CYCHOD
108. Cynigiodd y Cyng. Hughes y dylid cynnal sesiwn gaeedig i drafod y brydles. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Morris.
MATERION Y CADEIRYDD
109. Yn sgil sawl cwyn oddi wrth aelodau'r cyhoedd a chan Gyngor Cymuned y Borth, roedd y Cyng. Dalton wedi cael cadarnhad oddi wrth Network Rail y byddant yn codi darn o'r ffens a oedd newydd ei gosod er mwyn atal pobl rhag defnyddio'r llwybr answyddogol tuag at yr orsaf drenau. Drwy hyn, bydd y drefn hanesyddol yn cael ei hadfer ond mae'n parhau i fod yn llwybr nad yw wedi'i ddynodi.
Mae gordyfiant yn broblem ar hyd y llwybr o'r Cwrs Golff tuag at Afon Leri. Fodd bynnag, roedd peth ansicrwydd a oedd hwn yn llwybr cofrestredig. Bydd y Cyng. Quant yn ymchwilio i hyn.
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
110. Gofynnodd y Cyng. Pryce Jones a fyddai'r banc poteli yn parhau i fod ar yr un safle ar ôl i'r gwasanaeth casglu gwydrau gychwyn. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n aros yno am oddeutu 3 mis. Bydd y Cyng. Quant yn gofyn am arwydd "Toiledau Cyhoeddus” ger adeilad Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub.
Bu'r Cyng. Bainbridge mewn cyfarfod diweddar o'r Cyngor Iechyd Cymuned ym Meddygfa'r Borth. Mae sôn am werthu'r feddygfa i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'i throi yn Feddygfa Hwb. Mae clymog yn tyfu y tu ôl i Savannah, ar hyd Lôn yr Eglwys. Mae'r Cynghorwyr Dalton a Pryce Jones wedi gwirfoddoli i siarad â'r perchennog. Hysbysodd y Cyng. Bainbridge yr Aelodau y bydd Ysgol Graig yr Wylfa yn colli 0.5 aelod o'i staff. Rhaid gwneud rhai gwelliannau i'r maes chwarae yn sgil yr archwiliad diweddar.
Rhoddodd y Cyng. Morris ddiweddariad byr ynglŷn â chyfarfod diweddar y bu'n bresennol ynddo i drafod Ardaloedd Draenio Mewnol. Cafwyd ymateb ffafriol i waith draenio a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Fodd bynnag, ceir rhagor o ardaloedd problemus.
Mae'r Cyng. James wedi derbyn cwyn oddi wrth aelod o'r cyhoedd ynghylch y maes parcio gyferbyn â Haven, yn arbennig felly yr ynys yn y canol. Mae'r clawdd wedi gordyfu o Droedyrhiw i fyny i gyfeiriad y de ar hyd Ffordd Clarach. Bydd y Cyng. Quant yn ceisio siarad â'r perchennog gan fod hwn yn dir sydd dan berchnogaeth breifat. Mae'r tyllau ar hyd Ffordd Clarach yn parhau i fod yn broblem.
Crybwyllodd y Cyng. Hughes y bu rhywun yn llosgi clymog ar hyd y llwybr cerdded cŵn. Gofynnwyd i'r Clerc gysylltu â Mike Willcox ynglŷn â'r chwyn sy'n tyfu drwy'r cerrig yn y maes parcio ar hyd y llwybr cerdded cŵn. Bydd y Cyngor hefyd yn cysylltu â Kate Doubleday i ofyn iddi am ddiweddariad ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yma â'r darn o dir comin y mae'n bwriadu'i droi'n ddôl unwaith eto. Bu'r Cyng. Hughes yn bresennol mewn cyfarfod i drafod y "Goeden". Mae'r diffibriliwr wedi cael padiau newydd. Mae Calonnau Cymru wedi cytuno i ddarparu hyfforddiant i'r Cyng. Hughes fel y gall hyfforddi eraill yn yr ardal. Cynhelir sesiwn hyfforddi i'r cyhoedd ar y 24ain o Orffennaf.
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
111. Rhoddodd y Cyng. Quant ddiweddariad byr ynghylch y bwriad i gau'r gât dros groesfan y rheilffordd ar hyd Lôn yr Eglwys. Mae'r gwaith ar Gam 3 yr amddiffynfa fôr rhwng y Borth ac Ynyslas yn parhau. Mae'r Cyng. Quant wedi cytuno i ofyn i Gyngor Sir Ceredigion ymchwilio i'r gwaith y mae angen ei wneud ar y maes chwarae yn sgil yr archwiliad diweddar. Mae'r gwaith ar Restr y Gwroniaid yn parhau. Bydd y Cyng. Quant yn siarad ag Adran y Priffyrdd ynghylch y llinellau melyn sydd wedi pylu gyferbyn â Lôn yr Eglwys.
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
112. Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 9.20pm. Dylid rhoi gwybod i'r Clerc am eitemau eraill i'w cynnwys ar agenda'r cyfarfod nesaf nos Lun, Medi 2, 2019.
SESIWN GAEEDIG - PRYDLES Y PARC CYCHOD
113. Gofynnodd y Cyng. Hughes i'r Cyng. Quant adael yr ystafell. Gwrthwynebai'r Cyng. James y syniad hwn a chynhaliwyd pleidlais ymhlith yr Aelodau i benderfynu a ddylid gofyn i'r Cyng. Quant adael. Cynigiodd y Cyng. Morris y dylai'r Cyng. Quant adael yr ystafell ac eiliwyd y cynnig hwn gan y Cyng. Hughes. Pleidleisiodd 2 Aelod o blaid y cynnig, 4 yn ei erbyn ac ymatalodd un Aelod. Rhoddodd y Cyng. Quant drosolwg o'r cynlluniau ar gyfer y parc cychod i'r Aelodau newydd ac aeth ati i olrhain y digwyddiadau hyd yma. Cododd y Cyng. Hughes bryderon ac amlinellodd y materion i'w hystyried o ran y brydles. Ategodd y Cyng. Morris rai o'r pryderon hynny. Yn dilyn trafodaeth fer, cytunwyd i drefnu cyfarfod â Mr Huw Bates o Morris & Bates i drafod y pryderon ac i ddod i ddeall yn well ychydig o'r jargon cyfreithiol sy'n ymwneud â'r brydles. Gofynnwyd i'r Clerc fod yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, ynghyd â'r Cynghorwyr Dalton, Bainbridge, Morris a Hughes.
- Hits: 1786