• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Medi 2019

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, MEDI 2 2019 AM 19.00 O'R GLOCH

 

Presennol:                  Cadeirydd:                    R Dalton
                                                                     C Bainbridge
                                                                     M Griffiths                                          
                                                                     H Hughes
                                                                     J James
                                                                     D Pryce Jones
                                                                     G B Jones                                                        
                                                                     A J Morris
                                                                     M J Willcox                                                                 
Yn bresennol:            Cynghorydd Sir:            R P Quant
Clerc:                        M Walker            
                                                                        7 aelod o'r cyhoedd. 

 

YMDDIHEURIADAU

114.  Y Cyng. D Tweedy.

CYFRANOGIAD Y CYHOEDD

115.   Mynegodd Mr Terry Davies bryderon ynglŷn â'r hawl tramwy rhwng Pengoitan a Castle Stores, y bwriad i brydlesu'r parc cychod er mwyn sefydlu ysgol hwylio, Clwb Golff y Borth yn codi ffi ar bobl i fynd ar flaen y traeth yn Ynyslas a phreswylwyr yn hawlio stribedi o dir gyferbyn â'u heiddo.

DATGAN BUDDIANNAU

116. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

117. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2019 ar yr amod y gwneir y newid canlynol i Gofnod

113. Pleidleisiodd 3 Aelod o blaid hyn, pleidleisiodd 1 yn ei erbyn ac ymatalodd 2. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Darllenai'r cofnod fel a ganlyn:

Gofynnodd y Cyng. Hughes i'r Cyng. Quant adael yr ystafell. Cynigiodd y Cyng. Morris ac eiliodd y Cyng. Hughes y dylai'r Cyng. Quant adael yr ystafell gyfarfod. Gwrthwynebodd y Cyng. James y cynnig ac, ar ôl cynnal pleidlais, cafwyd bod 2 Aelod o blaid y cynnig, 4 Aelod yn ei erbyn ac ymatalodd 1 Aelod. Yn dilyn trafodaeth fer, cytunwyd i drefnu cyfarfod â Mr Huw Bates o Morris & Bates i drafod y pryderon ac i ddod i ddeall yn well beth o'r jargon cyfreithiol sy'n ymwneud â'r brydles. Gofynnwyd i'r Clerc fod yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, ynghyd â'r Cynghorwyr Dalton, Bainbridge, Morris a Hughes.

MATERION YN CODI

118.  Tir Comin.  Cofnod 478.  Darllenwyd llythyr dan 'Gohebiaeth'.

GOHEBIAETH

119.  Un Llais Cymru.

Manylion digwyddiadau ymgynghori ar "Y Strategaeth ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol".

Cymorth Ariannol i Eglwysi.

Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2018/19 a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hyn Cymru.

Bwletin mis Gorffennaf 2019.

Gwybodaeth ar gyfer Cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Un Llais Cymru sy'n digwydd ar y 5ed o Hydref ynghyd â ffurflen archebu.

Rhaglen Cyfnewid Arfer Da, Swyddfa Archwilio Cymru, 2019/20.

Manylion prosiect y Goedwig Hir.

Manylion sesiynau hyfforddi a gynhelir rhwng nawr a mis Rhagfyr.

Bwletin mis Awst Un Llais Cymru.

Nodyn atgoffa ynglŷn â'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhelir ar y 5ed o Hydref 2019 ym Mhafiliwn Bont.

120.  Llywodraeth Cymru.

Manylion yr ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd.

Bwletin Cyfoeth Naturiol Cymru Awst 2019.

Cylchlythyr mis Awst 2019 y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a manylion y cynllun datblygu newydd sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol drwy'r system gynllunio. 

121.  Cyngor Sir Ceredigion.  Ateb i lythyr oddi wrth Gyngor Cymuned y Borth ynglŷn â goryrru. Bydd y Cyng. Hughes yn ymchwilio rhagor i'r pryderon a godwyd.

122.  Mini Meadows.  E-bost oddi wrth Kate Doubleday a oedd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd hyd yma.

123.  Cofeb Ryfel.  Llythyr oddi wrth breswylydd sy'n poeni nad yw'r rhoden fellt wedi'i phrofi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gofynnwyd i'r Clerc drefnu bod y rhoden fellt yn cael ei phrofi bob blwyddyn gan drydanwr awdurdodedig.

124.  Yr Argyfwng Hinsawdd.  E-bost oddi wrth breswylydd a oedd yn gofyn i'r Cyngor gyhoeddi argyfwng hinsawdd. Bydd y mater yn cael ei roi ar agenda'r cyfarfod nesaf.

125.  Ecodyfi.  Manylion am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a'r prif bwyntiau.

126.  Rhoddion Jamborî'r Sgowtiaid.  Cardiau diolch oddi wrth Toohey ac Anna.

127.  Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed Powys.  Copïau o Adroddiad Blynyddol 2018-19.

128.  Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.  Copïau o "Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach".

129.  Lle Gwag ar y Cyngor.  Daeth cais i law yn sgil yr hysbyseb ddiweddar a oedd yn ymwneud â lle gwag ar y Cyngor.  Gofynnwyd i'r Clerc wahodd Dr Davies i gyfarfod mis Hydref i arsylwi ac i ddod i ddeall sut y mae'r cyfarfod yn cael ei redeg a'r materion sy'n cael eu trafod.

130.  Yr Iard Gychod a Materion Eraill.  Llythyr oddi wrth breswylydd pryderus sy'n gofyn am eglurhad ynghylch rhai materion ac sy'n gofyn pa gamau y bydd y Cyngor yn eu cymryd i sicrhau, "bod rhai ardaloedd yn y Borth yn parhau i fod dan reolaeth ei phreswylwyr ac i osgoi'r posibilrwydd ohonynt yn mynd i ddwylo preifat."

131.  Pont dros y ddyfrffos gerllaw'r Orsaf Dân a'r Capel.  Pryderon ynglŷn â chrac sylweddol ar y wal ar yr ochr ddwyreiniol ac e-bost oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion sy'n nodi bod peiriannydd strwythurol wedi'i ofyn i gynnal archwiliad o'r bont. Gofynnwyd i'r Clerc gydnabod iddi dderbyn y llythyr ac i gadarnhau bod y cynnwys wedi'i nodi.

132.  Goleuadau stryd a'r maes parcio ger hen safle'r neuadd.  E-bost sy'n ymwneud â chyfethol Aelod. Mae hefyd yn holi a fodlonwyd y meini prawf sy'n ymwneud ag ymuno â'r Cyngor. Hefyd, mae'n chwe mis ers i'r maes parcio ger safle'r hen neuadd a'r newidiadau i'r goleuadau stryd gael eu trafod. Dylid codi'r materion hyn unwaith yn rhagor. Gofynnwyd i'r Clerc gydnabod iddi dderbyn y llythyr ac i gadarnhau bod y cynnwys wedi'i nodi.

133.  Eisteddfod Genedlaethol 2020.  Cafodd y Clerc alwad ffôn oddi wrth y Tîm Troseddau Economaidd yn sgil cwyn oddi wrth aelod o'r cyhoedd. Mae'r gŵyn yn honni i'r Borth addo rhoi £5000 i'r Eisteddfod. Eglurodd y Clerc y sefyllfa gan nodi bod y Borth (nid Cyngor y Borth) wedi addo CODI £5000 a bod y Borth wedi cytuno i gyfrannu unrhyw swm sy'n fyr o'r targed.  Sefydlwyd pwyllgor codi arian ac nid yw'r Cyngor yn rhan o'r pwyllgor hwnnw. Mae'r heddlu yn gwbl fodlon ag esboniad y Clerc. Mae'r cofnodion yn cadarnhau'r esboniad hwn a gellir eu darllen ar-lein.

134.  Prydles y Parc Cychod.  E-bost oddi wrth Emma Heathcote at Gadeirydd y Cyngor i'w drafod dan 'Gohebiaeth'. Mae'r e-bost yn ymwneud â gosod y parc cychod ar brydles. 

135.  Cais am Rodd Ariannol  E-bost oddi wrth Dolau Bach y Borth sy'n gofyn am rodd ariannol tuag at gyfarpar. Bydd y cais yn cael ei ystyried yng nghyfarfod mis Mawrth ynghyd â phob cais arall.

136.  Gohebiaeth Arall  Clerks & Councils Direct a Creative Play.

137.  Cymru Oed-Gyfeillgar.  Cylchlythyr Haf 2019.

138.  Cyngor Sir Ceredigion.  Copi o hysbyseb sy'n ymwneud â chlirio eira a gwasanaethau argyfwng.

139.  Deall Lleoedd Cymru.  Manylion eu gwefan sy'n cael ei lansio ym mis Hydref.

140.  Tir Comin.  Cynhaliwyd cyfarfod rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Rhys Evans o Gyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorwyr Dalton a Hughes i drafod gwastraff y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru fod wedi'i adael wrth gynnal gwaith ar y ddyfrffos.

141.  Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth  E-bost sy'n gofyn am £4000 o gyllid refeniw eleni.

142.  Eluned Morgan AC.  Copïau o'i chylchlythyr diweddaraf.

143.  Ceri Ashley.  Cerdyn diolch oddi wrth Ceri am yr holl gefnogaeth a gafodd yn sgil marwolaeth y diweddar Gynghorydd Gwenllian Ashley.

144.  Came & Co.  Atodlen bolisi'r Cyngor ar gyfer 2019/20.

CYFRIFON

145. Balans y Cyfrifon ar 13 Awst 2019

        Nationwide                                                        29,879.20

        Cyfri Cymunedol                                                    12,387.24

        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                   14,116.94

        Cyfri Adnau                                                              3,581.75

 

146. Incwm   

        Cyfri Cymunedol – Praesept (2il daliad)                  6590.00

         

147. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol: 

        Kieran Doyle – paentio safle bws Ynyslas                                                      875.00

        G Davies – paentio'r sedd goffa                                                                      40.00  

        Keelin Hawker – planhigion i'r gwelyau blodau                                               12.05

        Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth – cyllid refeniw           4,000.00

        Came & Co – polisi yswiriant                                                                        1,507.97

        M Walker - cyflog 1016.00 (Awst a Medi), costau swyddfa 23.98               1,039.98

        Heledd Davies - cyfieithu cofnodion mis Gorffennaf                                        97.05

 

148.  Archwiliad o'r Flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019.  Ardystiwyd y Datganiad Blynyddol gan Grant Thornton ac mae modd gweld yr Hysbysiad o Ardystio Cwblhau Archwiliad ar yr hysbysfwrdd yn unol â'r gofyniad.

CYNLLUNIO

149.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn

Dim.

PRYDLES Y PARC CYCHOD

150.  Yn sgil cyfarfod diweddar â Mr Huw Bates i gael eglurhad ynghylch rhai materion a oedd yn ymwneud â phrydles y parc cychod, anfonodd grynodeb o'r drafodaeth rhwng y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod at y Clerc. Yna, anfonodd y Clerc y crynodeb hwnnw dros e-bost at bob Aelod. Anfonwyd yr ohebiaeth hefyd at y Cynghorydd Sir, y Cyng. Quant, ac at Emma Haethcote. Clywodd y Cynghorwyr yr ymateb oddi wrth Emma hefyd. Penderfynwyd llunio rhestr o'r cychod sydd yn y parc ar hyn o bryd er mwyn gwybod pwy sy'n berchen arnynt ac i ofyn a all perchnogion cychod lleol, sy'n dymuno parhau i storio'u cychod yn y parc cychod, barhau i wneud hynny'n ddi-dâl. Byddai'r amod hon yn cael ei hychwanegu at y brydles.

Y STRATEGAETH AR GYFER RHEOLI RISG LLIFOGYDD AC ERYDU ARFORDIROL

151.  Manylion ymgynghoriad 12 wythnos ar y Strategaeth ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol newydd a lansiwyd ar 24 Mehefin 2019. Roedd y Cyng. Quant wedi paratoi ymateb i'r ymgynghoriad ac fe'i hanfonwyd at yr Aelodau cyn y cyfarfod. Cafwyd cynnig gan y Cyng. Morris i dderbyn yr ymatebion a baratôdd y Cyng. Quant ac eiliwyd hynny gan y Cyng. Hughes. Pleidleisiodd pob Aelod o'i blaid.

RHEOLIADAU ARIANNOL ENGHREIFFTIOL DIWYGIEDIG

152.  Gohiriwyd y mater tan y cyfarfod ym mis Hydref.

GWELYAU BLODAU

153.  Gohiriwyd y mater tan y cyfarfod ym mis Hydref.

MATERION Y CADEIRYDD

154. Yn sgil cais i Gyngor Sir Ceredigion, hysbysodd y Cyng. Dalton yr Aelodau fod pob mainc yn y pentref bellach wedi'i phaentio.  Cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar ddydd Iau, 5 Medi. Mae'r panel ar y safle bws yn Cambrian Terrace yn dal i aros am drim newydd, er y gofynnwyd i Gyngor Sir Ceredigion wneud hyn. Bydd y Clerc yn holi ynghylch y mater.

CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR

155.  Canmolodd y Cyng. Dalton Borth Begins a gofynnwyd i'r Clerc ysgrifennu at y trefnwyr i ddiolch iddynt am arddangosfa theatr stryd wych. Gofynnwyd i'r Clerc hefyd ysgrifennu at Bwyllgor y Carnifal i ddiolch iddo am ddigwyddiad hyfryd. Mae peryg i bobl faglu ar y llwybr concrit gyferbyn â York House. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n cysylltu â Kevin Standing i ofyn iddo am ddyfynbris am osod tarmac ar hyd y llwybr i gyd.

Dywedodd y Cyng. Bainbridge fod y carnifal wedi codi oddeutu £10,000 eleni ac y bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu i wahanol fudiadau lleol ar ddydd Sadwrn, yr 19eg o Hydref.

Soniodd y Cyng. James am y tyllau yn y ffordd ar hyd Ffordd Clarach.

Dywedodd y Cyng. Pryce Jones nad yw'r bin sbwriel ar y maes chwarae yn dal i gael ei wacau yn rheolaidd.

Nid yw'r Cyng. Hughes eto'n gwybod pryd yn union y bydd yr hyfforddiant diffibriliwr yn digwydd. Ategodd y bydd y Bartneriaeth Genomeg yn ymweld unwaith eto ag Ysbyty Bronglais ar y 24ain o Fedi ac awgrymodd y gallai'r Cyngor glywed cyflwyniad am y Prosiect Cynefinoedd. 

Gofynnwyd i'r Clerc ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion i sôn am y mieri sy'n gordyfu ar y ffordd gerllaw siop NISA.

ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR

156.  Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Quant ynglŷn â'r bwriad i fwrw 'mlaen â Cham 3 Cynllun Amddiffyn yr Arfordir a fyddai'n rhedeg o Glwb Golff y Borth i Ynyslas. Cynigiwyd bod y Cyngor yn gofyn i Tony Bates o Morris & Bates gysylltu â'r Gofrestrfa Dir er mwyn gweld pwy sy'n berchen ar yr ymyl laswelltog o'r gofeb i lawr tua'r pentref. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi'i ddewis i gymryd rhan mewn ymarfer gogyfer â'r cyfrifiad nesaf.

Mae Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ceredigion yn ymchwilio i'r posibilrwydd o roi wyneb newydd ar Ffordd Clarach.

Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA

157.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 10pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf  nos Lun, Hydref 7 2019 fydd goryrru, yr argyfwng hinsawdd, tir comin, y Rheoliadau Ariannol Enghreifftiol Diwygiedig a gwelyau blodau. Dylid hysbysu'r Clerc ynglŷn ag eitemau eraill.                                                                                        

 

 

  • Hits: 2079