• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion Mis Tachwedd 2019

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, TACHWEDD 4 2019 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:   Cadeirydd:                       R Dalton
                                                         C Bainbridge
                                                         R Davies (Aelod newydd)
                                                         M Griffiths                                          
                                                         H Hughes
                                                         J James                                    
                                                         D Pryce Jones
                                                         G B Jones                                                        
                                                         A J Morris                                                                                                                   
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:          R P Quant
Clerc:                                                M Walker            
                                                            5 aelod o'r cyhoedd. 
 
YMDDIHEURIADAU
 
198.  Y Cyng. D Tweedy.
 
CYFETHOL AELOD NEWYDD I'R CYNGOR
 
199.  Estynnodd y Cadeirydd, y Cyng. Rona Dalton, wahoddiad i Mr Rhydian Davies ymuno â'r Cyngor. Tyngodd lw'r Datganiad Derbyn Swydd ac fe'i croesawyd yn Aelod o Gyngor Cymuned y Borth. Bydd copïau o'r Cod Ymddygiad a'r Rheolau Sefydlog yn cael eu hanfon at y Cyng. Davies dros e-bost.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
200.   Dim.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
201. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
CYNLLUN ARGYFYNGAU
 
202.  Croesawyd Jill Hulse i'r cyfarfod i drafod y cynllun argyfyngau yr oedd wedi'i gychwyn pan oedd yn Gynghorydd.  Rhoddodd Jill esboniad byr o gynnwys y cynllun ac awgrymodd y dylid ei adolygu'n llwyr. Awgrymodd y dylai’r cynllun fod yn fyrrach ac y dylid cael tri chydlynydd yn hytrach na dau. Bydd fersiwn byrrach o'r cynllun yn cael ei baratoi a bydd yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf. Soniwyd bod y llifogydd ar y ffordd ger y cwrs golff yn broblem barhaus ac awgrymwyd y dylai'r Cyngor ysgrifennu at y Clwb Golff i ofyn a fyddai modd dargyfeirio'r dŵr drwy eu tir nhw ac i ysgrifennu at y Cyngor Sir i leisio'u pryderon.
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
203. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2019. Y cynigydd oedd y Cyng. Hughes a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn.
 
MATERION YN CODI
 
204.  Tir Comin.  Cofnod 162. Mae Mr Beech o Marsh Bank wedi ysgrifennu at Ben Lake AS ynglŷn â’r dŵr sy'n gorlifo o'r ddyfrffos yng Nglanwern i mewn i'w eiddo. Rhoddodd y Cyng. Hughes ddiweddariad byr ar y gwaith y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud ar y ddyfrffos. Fodd bynnag, dywedodd y Cyng. Morris nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gallu gwneud cymaint ag yr oeddent wedi dymuno'i wneud am nad oedd ganddynt drwydded llygod y dŵr.
Goryrru.  Cofnod 189. Hysbysodd y Cyng. Bainbridge yr Aelodau ei bod wrthi'n ailgofrestru pobl sy'n awyddus i fod yn rhan o'r Cynllun Gwylio Cyflymder unwaith eto.
 
GOHEBIAETH
 
205.  Un Llais Cymru.  Arolwg i ddod i wybod rhagor am y modd y mae'r sector yn defnyddio dulliau digidol i gwrdd â chymunedau ac i rannu gwybodaeth â nhw.
Adroddiad Cyflwr y Genedl ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn.
Llythyr at Gynghorau Plwyf a Thref ynglŷn â gwahanol ddigwyddiadau i nodi Buddugoliaeth yn Ewrop. 
Manylion digwyddiad a gynhelir yng Nghaerdydd o'r enw, "Y Tu Hwnt i Ddyfodol Diwastraff - Creu Economi Wirioneddol Gylchol".
Deall Lleoedd Cymru.
Cyhoeddi tri ymgynghoriad cynllunio.
Manylion gweithdai 'Amrywiaeth mewn Democratiaeth' i'w cynnal ar draws Cymru.
Ymgyrch "Everyday Ageism".
Mae Sefydliad Bevan yn cynnal cynhadledd ym mis Tachwedd o'r enw, "Y Tu Hwnt i'r Dinasoedd: Economïau a Chymunedau Cryf."
Bwletin newyddion Un Llais Cymru.
Manylion swydd wag newydd gydag Un Llais Cymru, sef Swyddog Datblygu Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Adroddiad gan Gyngor Tref Caerfyrddin ar "Reoli Mannau Gwyrdd ar gyfer Bioamrywiaeth".
Canllaw ar gyfer sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth mewn cynigion datblygu.
Manylion 2il ran cwrs hyfforddi ar Ymgysylltu Cymunedol.
 
206.  Llywodraeth Cymru.  Manylion yr ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd.
Bwletin mis Hydref Cyfoeth Naturiol Cymru.
Newyddion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
 
207.  Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Gwahoddiad i fynegi barn am y cynigion gwella yng Nghynllun Corfforaethol Drafft 2020-2025 y Gwasanaeth.
 
208.  O'r Mynydd i'r Môr.  Cais i gwrdd â'r Cynghorwyr i drafod y prosiect yn fanylach. Cytunwyd i wahodd y Cydlynydd Ymgysylltu â Chymunedau i’r cyfarfod ym mis Rhagfyr.
 
209.  Cyngor Sir Ceredigion.  Gwasanaeth casglu sbwriel newydd Llwybr 179.
 
210.  Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.  Adroddiad blynyddol drafft 2020.
 
211.  Cyngor Sir Ceredigion.  Mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad o'r dosbarthiadau etholiadol ac o'r gorsafoedd pleidleisio. Ategwyd y bydd y newidiadau yn dod i rym yn Ionawr 2020.
 
212.  Amddiffynfeydd y Môr yn y Borth.  Ar ôl i'r Cadeirydd anfon llythyr at Rhodri Llwyd ynghylch pryderon sy'n ymwneud â phroffil traeth y Borth, mae Mr Llwyd wedi cytuno i gwrdd ag Aelodau'r Cyngor i gerdded y traeth. Bydd pawb yn cwrdd ar ddyddiad cyfleus.
 
213.  Dolau Bach.  Cais i roi hysbysiad ar y wefan er mwyn rhoi gwybod i’r cyhoedd bod anifeiliaid yn pori ar gae Dolau Bach ar hyn o bryd er mwyn adfer y cae.
 
214.  Cyngor Sir Ceredigion.  Y Cytundeb Lefel Gwasanaeth blynyddol ar gyfer gwaith glanhau yn y toiledau ger yr RNLI i'w arwyddo gan Gadeirydd y Cyngor. Cyfnod y Cytundeb yw'r 1af o Dachwedd 2019 tan yr 31ain o Fawrth 2020, a'r gost fydd £4500 + TAW. Cynigiodd y Cyng. Morris y dylid derbyn y Cytundeb. Eiliwyd hyn gan y Cyng. Bryn Jones a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
215.  Eglwys Fair, Seren y Môr.  E-bost sy'n gofyn i'r Cyngor gadarnhau a yw'n "bartner allweddol" yn y prosiect. Er bod pryderon na ofynnodd neb i Gyngor Cymuned y Borth fod yn "bartner allweddol", mae'n llawn gefnogol o'r prosiect.
 
216.  Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Rhifyn yr hydref o gylchgrawn yr Awdurdod.
 
CYFRIFON
 
217. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Hydref 2019
        Nationwide                                                                         29,879.20
        Cyfri Cymunedol                                                                  47,77.30
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                 14,123.98
        Cyfri Adnau                                                                         3,583.54
 
218. Incwm 
        Cyfri Cymunedol – Rhent tirlenwi ac amwynder dinesig         4,616.50
        Fforddfreintiau Scottish Power                                                  78.83
           
219. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
        Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Hydref                        89.45
        M Walker - cyflog 508.00, costau swyddfa 7.99                        515.99
  
CYNLLUNIO
 
220.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn
Dim.
 
PRYDLES Y PARC CYCHOD
 
221.  Datganodd y Cyng. Morris fuddiant ond arhosodd yn yr ystafell. Rhoddodd y Cyng. Hughes ddiweddariad byr ar y mater a dywedodd wrth yr Aelodau ei fod ef a'i gyd-Gynghorwyr yn dal i geisio dod i wybod pwy sy'n berchen ar y cychod.  Pleidleisiodd yr Aelodau o blaid gosod rhybuddion ar bob cwch a threlar sy'n gofyn i'r perchnogion gysylltu â'r Clerc i'w cofrestru nhw. Gadawodd y Cyng. Morris yr ystafell ar yr adeg hon. Penderfynwyd ysgrifennu at Emma i gadarnhau bod Cyngor Cymuned y Borth yn dal i geisio dod i wybod pwy sy'n berchen ar y cychod yn y parc a'i fod wedi cael cyngor oddi wrth ei gyfreithiwr ynglŷn â hawliau hanesyddol a chymal diweddu a fydd yn cael ei gynnwys yn y brydles. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn.
 
LLWYBRAU TROED
 
222.  Mae'r Cyng. Jones a'r Cynghorydd Sir, y Cyng. Quant, wedi cael dyfynbrisiau oddi wrth ddau gwmni tarmac. Roeddent oddeutu £9000 + TAW. Yn seiliedig ar y pris, awgrymwyd y dylai'r Cyngor ystyried mynd i'r afael yn benodol â'r mannau sydd wedi'u difrodi. Cytunodd y Cyng. Hughes i gael dyfynbris am y gwaith. Awgrymwyd y dylai'r Cyngor ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd hwn yn llwybr troed cofrestredig.
 
MATERION Y CADEIRYDD
 
223.  Gofynnodd y Cyng. Dalton am dynnu'r baneri gyferbyn â siop Premier i lawr. Cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar y 4ydd o Ragfyr.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
224.  Y Cyng. James - nid yw'r tyllau ar hyd Ffordd Clarach yn dal wedi'u llenwi.
Y Cyng. Pryce Jones - hyd yma, codwyd £3800 tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd y Tincer yn gofyn am ragor o newyddion o'r Borth.
Y Cyng. Bainbridge - diweddariad byr ar y Cyngor Iechyd Cymuned. Mae Ysgol Craig yr Wylfa yn disgwyl ymweliad gan Estyn.
Y Cyng. Hughes - cyfarfod dementia, ddydd Mercher, y 6ed o Dachwedd.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
225.  Cytunodd y Cyng. James i archebu coeden Nadolig. Cynhelir gwasanaeth Sul y Cofio ar ddydd Sul, y 10fed o Dachwedd. Bydd gât dalu yn cael ei gosod wrth y fynedfa i'r bloc toiledau ar ben gogleddol y pentref. Nid yw'r llinellau melyn gyferbyn â Pebbles yn dal wedi'u hailbeintio. Cynhelir cyfarfod Biosffer Dyfi ar yr 28ain o Dachwedd.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
226.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 9.35pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir ar yr 2il Ragfyr 2019 fydd cyflwyniad gan O'r Mynydd i'r Môr, Prydles y Parc Cychod, Tir Comin a Llwybrau Troed. Dylid hysbysu'r Clerc ynglŷn ag eitemau eraill.                                                                   
  • Hits: 1577