Cofnodion - Mis Ionawr 2020
COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, IONAWR 6 2020 AM 19.00 O'R GLOCH
Presennol: Cadeirydd: R Dalton
C Bainbridge
R Davies
H Hughes
J James
G B Jones
Yn bresennol: Cynghorydd Sir: R P Quant
Clerc: M Walker
3 aelod o'r cyhoedd.
YMDDIHEURIADAU
256. Y Cynghorwyr M Griffiths, D Pryce Jones, A J Morris a D Tweedy.
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
257. Dymunai Mr Graham Taylor ddiolch i bawb am eu consyrn wedi iddo dreulio cyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar.
DATGAN BUDDIANNAU
258. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
259. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2019. Y cynigydd oedd y Cyng. Davies a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
MATERION YN CODI
260. Dim.
GOHEBIAETH
261. Un Llais Cymru. Manylion ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ffioedd cynllunio.
Cynhadledd Arfer Arloesol a Gwobrau Cenedlaethol Un Llais Cymru 2020.
262. Llywodraeth Cymru. Manylion canllawiau statudol sy'n ymwneud â Rheoliadau Caeau Chwarae 2015.
Bwletin Cyfoeth Naturiol Cymru mis Rhagfyr 2019.
Cylchlythyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
263. Cyngor Sir Ceredigion. Ymgynghoriad ar waredu â ffonau talu BT - rhan 3. Cytunwyd i anfon ymateb i'r ymgynghoriad a oedd yn nodi ein bod yn gwrthwynebu gwaredu â'r ffôn talu yn Ynyslas a'r ffôn ar safle hen neuadd y pentref.
264. Ecodyfi. Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2018 a'r adroddiad ar Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a fforwm Ecodyfi.
265. Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed Powys. Ymgynghoriad ar Braesept yr Heddlu 2020/21.
266. Ysgol Graig yr Wylfa. Gweler cofnod 241. Llythyr sy’n manylu ar y cyllid a ddaeth i law drwy wahanol ffynonellau.
267. Rhoddion ariannol. Cais oddi wrth Fynwent Capel y Garn, Y Tincer a Chlwb Pêl-droed Llanilar am gymorth ariannol.
268. Cyngor Sir Ceredigion. Manylion y ffyrdd sy'n mynd i fod ynghau, gan gynnwys Ffordd Clarach, rhwng y 13 Ionawr a 7 Chwefror.
269. Cyngor Sir Ceredigion. Manylion ymgynghoriad ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Ceredigion - Ceredigion Deg a Chyfartal 2020-24
270. Heather Strange. Copi o ymateb oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion ynghylch y materion a godwyd yn ddiweddar.
271. Cwyn. E-bost er sylw'r Clerc a oedd yn herio cynnwys gohebiaeth flaenorol ynghylch amserau cynnau/diffodd y goleuadau stryd.
272. Clerks & Councils Direct. Cylchlythyr misol.
CYFRIFON
273. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Rhagfyr 2019
Nationwide 29879.20
Cyfri Cymunedol 12970.99
Cyfri Busnes Dim Rhybudd 14131.02
Cyfri Adnau 3585.33
274. Incwm
Cyfri cymunedol - Rhent Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol
y Badau Achub (yr RNLI) 500.00
Cyfri Adnau - llog gros hyd 5/12/19 1.79
Cyfri Busnes Dim Rhybudd - llog gros hyd 5/12/19 7.04
275. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
Heledd Davies - cyfieithu cofnodion mis Rhagfyr 59.00
M Walker - cyflog 508, costau swyddfa 8.99 516.99
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi - Cynllun Talu Wrth Ennill 381.00
CYNLLUNIO
276. Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn
Dim.
CYLLIDEB A PHRAESEPT
277. Dosbarthodd y Clerc y ffigurau gwariant a'r balans diweddaraf hyd at 31 Rhagfyr 2019, ynghyd â'r cynllun ariannol ar gyfer 2020/21 a gyflwynodd y Cyng. Quant mewn manylder. Penderfynwyd cymeradwyo'r gyllideb ganlynol ar gyfer 2020/21:
Cyflog y Clerc 7770.00
Costau Swyddfa 200.00
Cronfa Arian Rhodd y Clerc 80.00
Yswiriant 1750.00
Lwfans y Cadeirydd 200.00
Cynnal a Chadw 3600.00
Cynnal a Chadw dros y Gaeaf 400.00
Amwynderau – Refeniw’r Neuadd 8000.00
Cyfleusterau Cymunedol
a Chelfyddydol 2400.00
Rhoddion 2500.00
Amrywiol 500.00
Arian wrth gefn 1000.00
Ffi Archwilio 350.00
Cyfieithu 1200.00
Cadw'r toiledau wrth ymyl yr RNLI
yn agored dros y gaeaf 4500.00
Ysgol Craig yr Wylfa 2000.00
Cyfanswm: £36450.00
278. Penderfynwyd cymeradwyo'r gyllideb ac i osod y braesept ar 60%, sy'n gyfystyr â £21870.00. Y cynigydd oedd y Cyng. Bryn Jones a'r eilydd oedd y Cyng. John James. Pleidleisiodd pob aelod o blaid y cynnig.
PRYDLES Y PARC CYCHOD
279. Anfonwyd copi o e-bost oddi wrth Emma a ddaeth i law yn sgil y penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod diwethaf at y Cynghorwyr cyn y cyfarfod. Mae Emma wedi cytuno i dderbyn y brydles a bydd yn gyfrifol am ganfod pwy sy'n berchen ar y cychod/trelars ac ati. Cytunodd Cyngor Cymuned y Borth y dylai unrhyw daliadau sy'n gysylltiedig â "gwaredu â chychod/trelars a chyfarpar nad ydynt wedi'u hawlio gael eu cydnabod yn y brydles fel cost un-tro y sy'n daladwy gan y Cyngor yn lle clirio'r safle cyn i'r brydles gael ei throsglwyddo." Soniodd y Cyng. Bainbridge am y diwrnod y cyfarfu ag Emma i dynnu ffotograffau o'r holl gychod ac ati. Penderfynodd yr Aelodau dderbyn yr amodau a gynigiodd Emma. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. James. Pleidleisiodd pob aelod yn unfrydol o blaid y cynnig. Gwyntyllwyd a chymeradwywyd hawliau diamwys, Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus a'r cymal Dirwyn Busnes i Ben dan gofnod 247/19. Gofynnwyd i'r Clerc ysgrifennu at Gwmni Cyfreithwyr Huw Bates i ddiwygio'r Brydles Ddrafft i'w hystyried yng nghyfarfod mis Chwefror.
LLWYBRAU TROED
280. Mae'r mater yn parhau.
CYNLLUN ARGYFYNGAU
281. Mae'r mater yn parhau.
LOGO CYNGOR CYMUNED Y BORTH
282. Cynigiodd y Cyng. Davies y dylai logo Cyngor Cymuned y Borth fod yr un fath â'r cynllun presennol ar gadwyn y Maer. Eiliwyd hynny gan y Cyng. Jones. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n cysylltu ag Adran Reprograffeg Cyngor Sir Ceredigion i drafod hyn.
CINIO BLYNYDDOL Y CYNGOR
283. Yn dilyn trafodaeth fer, cytunwyd i gynnal y cinio blynyddol yn y Railway Hotel nos Iau, 13 Chwefror.
MATERION Y CADEIRYDD
284. Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Dalton ynglŷn â'r cyfarfod PACT diweddar. Y prif fater dan sylw oedd goryrru yng Nglanwern.
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
285. Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Bainbridge ynglŷn ag ymweliad Siôn Corn â'r pentref a fu'n llwyddiant ysgubol. Mae hefyd ar hyn o bryd yn holi am ddyfynbrisiau er mwyn cael cyfarpar newydd ar gyfer y maes chwarae yn rhan o grant y loteri. Soniodd y Cyng. Bainbridge hefyd fod angen golchi safle bws Ynyslas unwaith eto. Roedd llai o fysus yn gwasanaethau'r ardal dros y Nadolig a chrybwyllodd y byddai bellach yn mynychu cyfarfodydd Gorwelion fel aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned.
Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Davies ynghylch arwyddion ffyrdd yng Nglanwern.
Soniodd y Cyng. James am broblemau â'r casgliadau sbwriel dros gyfnod y gwyliau. Mae'r sietyn sy'n tyfu dros y llwybr troed i fyny Rhiw Clarach wedi'i thorri. Fodd bynnag, rhaid gwaredu â'r gwaddod gwyrdd llithrig ar y palmant.
Mae'r Cyng. Hughes yn bwriadu holi unwaith eto ynglŷn â'r hyfforddiant y mae Calonnau Cymru yn ei gynnal ar ddefnyddio diffibrilwyr.
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
286. Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Quant ynglŷn â'r neuadd gymunedol. Rhaid cael drws blaen newydd ac mae nam ar y lifft risiau.
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
287. Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 9pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf nos Lun 3 Chwefror 2020 fydd cyflwyniad gan O'r Mynydd i'r Môr, Prydles y Parc Cychod, Llwybrau Troed, y Cynllun Argyfyngau, Logo Cyngor Cymuned y Borth, Lle Gwag ar y Cyngor a Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda.
- Hits: 1808