• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Chwefror 2020

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, CHWEFROR 3 2020 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:   Cadeirydd:                       R Dalton
                                                            C Bainbridge                                       
                                                            R Davies
                                                            M Griffiths                                          
                                                            H Hughes
                                                            J James            
                                                           G B Jones
                                                           D Pryce Jones  
                                                           A J Morris
                                                           D Tweedy                                                          
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:         R P Quant
Clerc:                                                M Walker            
                                                            5 aelod o'r cyhoedd. 
 
YMDDIHEURIADAU
 
288.  Dim.
 
CYFLWYNIAD GAN O'R MYNYDD I'R MÔR
 
289.  Daeth Ms Siân Stacey i'r cyfarfod i drafod y prosiect O'r Mynydd i'r Môr. Hi yw Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol y prosiect hwnnw sy’n ceisio sicrhau amgylchedd ac economi iach ymhob cwr o Gymru drwy siarad â chymunedau a chydweithio â nhw. Yn dilyn sesiwn cwestiwn ac ateb, diolchodd y Cadeirydd i Siân am ei chyflwyniad.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
290.   Gofynnodd Mrs Andrea Hughes a oedd yr agenda ar gael ar y wefan gymunedol.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
291. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
292. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Bryn Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
MATERION YN CODI
 
293.  Dim.
 
GOHEBIAETH
 
294.  Llywodraeth Cymru.
Yr ymgynghoriadau diweddaraf.
Bwletin Cymru Iachach mis Ionawr 2020.
Bwletin Cyfoeth Naturiol Cymru mis Ionawr 2020.
 
295.  Un Llais Cymru.
Manylion newidiadau arfaethedig i ddau orchymyn sy'n ymwneud â Draenio Cynaliadwy.
Ymateb i ymgynghoriad Un Llais Cymru ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).
Manylion Pwyllgor Ardal Ceredigion Un Llais Cymru a gynhaliwyd ddydd Mercher, y 5ed o Chwefror.
Amserlen Ariannol Flynyddol y Camau Gweithredu ar gyfer Cynghorau Bach a Chanolig eu Maint.
 
296.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion a dyddiadau sesiynau galw i mewn sy'n agored i fusnesau Ceredigion. Y testun dan sylw fydd Strategaeth Economaidd Ceredigion (2020-2035).
 
297.  Y maes parcio gyferbyn â Haven.  Llythyr oddi wrth breswylydd lleol sy'n sôn am y tipio anghyfreithlon sy'n hagru'r safle a'r gwydr sydd wedi torri a allai fod yn berygl. Mae'r llythyr hefyd yn sôn am y llifogydd ar ffordd yr aber yn Ynyslas.   Cytunwyd i anfon y llythyr ymlaen at Gyngor Sir Ceredigion a gofyn iddo am ymateb.
 
298.  Ecodyfi.  Y diweddaraf.
 
299.  Ceisiadau am roddion ariannol.  Ambiwlans Awyr Cymru a Threialon Cŵn Defaid Rhyngwladol Ceredigion 2020.
 
300.  Fields in Trust Cymru.  Dolen i ragor o wybodaeth am y ffordd y gall y Cyngor Cymuned ddiogelu'i fannau gwyrdd er budd cenedlaethau'r dyfodol.
 
301.  Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth.  Cais i dynnu £4000 i lawr, sef y cyllid sy'n weddill y flwyddyn ariannol hon.
 
302.  Chwarae dros Gymru.  Rhifyn gaeaf 2019 o'r cylchgrawn.
 
303.  Y Ffordd Tuag at y Gwaith Trin Carthion.  Llythyr sy'n sôn am garafanau ar y ffordd tuag at y gwaith trin carthion.
 
CYFRIFON
 
304. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Ionawr 2020
        Nationwide                                                                                             29,879.20
        Cyfri Cymunedol                                                                                     11,657.01
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                                     14,131.02
        Cyfri Adnau                                                                                               3.585.33
 
305. Incwm 
        Cyfri Cymunedol - Rhent am y tir ger Ger y Don                                          100.00                           
          
306. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
        Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth                                     4.000.00                                   
        M Walker - cyflog 508, costau swyddfa 10.99                                                518.99
        Heledd Davies - cyfieithu cofnodion mis Ionawr                                              60.35
 
307.  Mae'r Cyng. Dalton wedi cysylltu â HSBC i holi ynghylch ychwanegu llofnodwyr at y cyfri. Mae modd gwneud hyn ar-lein bellach a chytunwyd y byddai'r Cynghorwyr Dalton a Bainbridge yn gosod 4 Aelod arall ar y system, sef y Cynghorwyr Davies, Griffiths, Hughes a Pryce Jones.
                                               
CYNLLUNIO
 
308.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn
A200016.  Codi annedd 3 ystafell wely newydd ar dir gerllaw Silver Ridge, Ffordd y Fulfran. Plot gerllaw Silver Ridge, Ffordd y Fulfran, y Borth.  Datganodd y Cyng. Bryn Jones fuddiant a gadawodd yr ystafell. Dim gwrthwynebiad.
 
PRYDLES Y PARC CYCHOD
 
309.  Datganodd y Cyng.  Morris fuddiant ond arhosodd yn yr ystafell. Nid yw'r Cyngor wedi cael prydles ddiwygiedig oddi wrth y cyfreithwyr eto. Gofynnwyd i'r Clerc gysylltu â chwmni yswiriant y Cyngor i ofyn am eglurhad ynghylch sefyllfa'r Cyngor o ran gosod y tir ar brydles i Emma Heathcote. 
 
LLWYBRAU TROED
 
310.  Nid oedd y Cyng. Hughes wedi cael dyfynbris eto am y gwaith atgyweirio ar y llwybr troed ger y traeth gyferbyn â Pebbles.
 
CYNLLUN ARGYFYNGAU
 
311.  Cyn y cyfarfod, dosbarthodd y Clerc gopïau drafft o'r daflen am y warden cymunedol a baratôdd Jill Hulse i'r Cynghorwyr ei hystyried. Dylai'r Cynghorwyr gysylltu â Jill o fewn y 7 niwrnod nesaf os ydynt am newid cynnwys y daflen neu wneud unrhyw awgrymiadau.
 
LOGO CYNGOR CYMUNED Y BORTH
 
312.  Dangosodd y Cyng. Quant lun o logo Cyngor Cymuned y Borth ar gadwyn y Maer. Er i'r Aelodau gytuno i ddefnyddio'r logo, penderfynwyd hepgor y ddelwedd efydd ar y rhan allanol.
 
LLE GWAG AR Y CYNGOR.
 
313.  Ni chafwyd dim ymateb i'r hysbysiadau diweddar ynghylch lle gwag ar y Cyngor, felly gall y Cyngor gyfethol rhywun. Gall y rhai sydd â diddordeb yn y lle gwag gysylltu â'r Clerc drwy lythyr neu e-bost.
 
DIWRNOD BUDDUGOLIAETH YN EWROP - YR 8FED O FAI 2020.
314.  Rhoddodd y Cyng. Bainbridge beth gwybodaeth am y modd y gall cymunedau drwy Gymru ddathlu diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Mae wedi gwirfoddoli i gysylltu â thafarndai, bariau a meysydd carafanau i ofyn iddynt godi eu gwydrau am 3pm ar yr 8fed o Fai yn rhan o Lwnc Destun y Genedl i Arwyr yr Ail Ryfel Byd.
 
MATERION Y CADEIRYDD
 
315.  Cynhelir cinio blynyddol y Cyngor ar y 13eg o Chwefror yn Nhafarn y Railway. Mae darn o berspecs wedi diflannu o'r safle bws yn Cambrian Terrace. Dywedodd y Clerc y byddai'n cysylltu ag Adain Gynnal a Chadw Cyngor Sir Ceredigion.  Mae'r Cyng. Dalton yn poeni bod maint y banc cerrig mân gyferbyn â Pebbles bellach wedi lleihau i 3 metr ac nad oes dim wedi'i wneud am y peth ers y cyfarfod diweddar â Rhodri Llwyd o Gyngor Sir Ceredigion. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n holi ynghylch y mater.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
316.  Mae'r Cyng. Bainbrige wedi cyflwyno cais am £5,000 i gael cyfarpar newydd i'r maes chwarae. Mae'r Ganolfan Deuluol yn cynnal digwyddiad ar y 27ain o Fawrth i godi arian i brynu diffribriliwr. Nid oes dim newydd ynghylch y Cynllun Gwylio Cyflymder. Soniodd y Cyng. Bainbridge fod nifer o fagiau sbwriel duon wedi'u gadael yn y maes chwarae. Mae safle bws Ynyslas wedi'i lanhau ac mae rhagor o graffiti wedi ymddangos arno. Awgrymodd y Cyng. Bainbridge y dylai grŵp o bobl ddod ynghyd i baentio murlun ar y waliau. Dywedodd y Cyng. Tweedy y byddai'n cynorthwyo â hyn.
Mae'r Cyng. Jones wedi cael gohebiaeth sy'n gofyn i'r Cyngor gefnogi galwadau i gartref Bodlondeb weithredu fel cartref nyrsio i henoed bregus eu meddwl. Hysbysodd y Cyng. Quant yr Aelodau y bydd y Cabinet yn trafod papur ar gartref Bodlondeb ar y 25ain o Fawrth.
Dywedodd y Cyng. James fod peth gwaith atgyweirio wedi'i wneud ar Ffordd Clarach. Fodd bynnag, nid oedd y tyllau yn y ffordd yn dal wedi'u llenwi.
Mae'r Cyng. Hughes wedi cael cynnig i dacluso'r maes parcio gyferbyn â Haven. Dywedodd y Cynghorwyr Hughes a Dalton y byddent yn cynnig cymorth â hyn.
Bydd yr hyfforddiant i ddefnyddio'r diffibriliwr yn cychwyn yn fuan am fod Calonnau Cymru yn gallu darparu hyfforddwr newydd i gynnal yr hyfforddiant angenrheidiol.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
317.  Mae'r arwyddion cyflymder ar gyfer Glanwern bellach wedi'u cwblhau. Bydd y Cyng. Quant yn bresennol mewn cyfarfod i drafod 3ydd cam cynllun amddiffyn yr arfordir. Ategodd y cynhelir arolwg 10 mlynedd o Fiosffer Dyfi.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
318.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 9.15pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf nos Lun, 2 Mawrth 2020 fydd Prydles y Parc Cychod, Llwybrau Troed, y Cynllun Argyfyngau, Lle Gwag ar y Cyngor a Rhoddion Ariannol. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda.                                                                  
  • Hits: 1899