• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Mai 2020

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, YR 11EG O FAI 2020 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:   Cadeirydd:                       R Dalton
                                                             C Bainbridge                                       
                                                             R Davies
                                                             H Hughes                                                                                
                                                             G B Jones
                                                             A J Morris                                                                                                       
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:          R P Quant
Clerc:              M Walker            
                                                            3 aelod o'r cyhoedd. 
 
YMDDIHEURIADAU
 
353.  Y Cynghorwyr M Griffiths, J James, D Pryce Jones a D Tweedy.
 
HELEN WILLIAMS - CANOLFAN DEULUOL Y BORTH
 
354.  Croesawodd y Cadeirydd Helen i'r cyfarfod. Clywyd am y diweddaraf ynglŷn â dau gais am grant a fu'n llwyddiannus, cyllid ar gyfer Sied Dynion a'r ffordd y mae Canolfan Deuluol y Borth yn cydlynu'r gwaith i gefnogi tîm o Wardeniaid Argyfwng i helpu pobl yn y gymuned sy'n agored i newid drwy fynd i siopa ar eu rhan ac ati yn ystod yr argyfwng COVID-19. Diolchodd y Cadeirydd i Helen am y diweddariad.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
355. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
356. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Davies. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
MATERION YN CODI
 
357.  Cyfeiriodd y Cyng. Jones at Gofnod 375 ac ategodd y gallai anfon lluniau o'r llifogydd yng Nghae Gwylan at Gyfoeth Naturiol Cymru petai angen.
 
GOHEBIAETH
 
358.  Coronafeirws. Diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth oddi wrth Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a Chyngor Sir Ceredigion. 
 
359. Un Llais Cymru.  Bwletinau newyddion Un Llais Cymru misoedd Mawrth, Ebrill a Mai 2020.
Gwybodaeth am y coronafeirws i gynghorau tref a chymuned.
Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020.
Cyflwyniadau ar gyllid Llefydd Lleol ar gyfer Natur.
Cais i gofrestru diffibriwlwyr y gymuned â'r Circuit, sef rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer diffibriwlwyr.
Gwobrau Cenedlaethol Un Llais Cymru 2020.
 
360.  Llywodraeth Cymru.  Manylion pob ymgynghoriad a gynhelir ar hyn o bryd.
Bwletin mis Ebrill a Mai 2020 Cyfoeth Naturiol Cymru a rheoliadau coronafeirws yn ystod y cyfyngiadau symud.
Cronfa Rhyddhau Tir 2020/21.
 
361.  Cyngor Sir Ceredigion.  Ateb oddi wrth y gwasanaethau technegol i ymholiadau ynghylch y llifogydd diweddar a'r arwydd Ynyslas sydd ar goll.
 
362.  Ceisiadau am roddion ariannol.  Llangollen 2020, CFfI Ceredigion a Chanolfan Deuluol y Borth. Hefyd, llythyron oddi wrth fynwent Capel y Garn, Ambiwlans Awyr Cymru a'r Tincer i ddiolch i'r Cyngor am y rhoddion ariannol diweddar.
 
363.  Amgueddfa Gorsaf y Borth.  Cadarnhad y byddai'r orsaf ar gau dros y Pasg oherwydd yr argyfwng presennol.
 
364.  Celf y Borth.  Gwybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd dros y flwyddyn ddiwethaf a'r digwyddiadau sydd ar y gweill.
 
365.  Parc Cychod y Borth. Llythyr sy'n gwrthwynebu'r bwriad i rentu'r parc cychod ar brydles yn ei gyfanrwydd. Penderfynwyd gohirio'r mater tan y cyfarfod ym mis Mehefin.
 
366.  Deddf GDPR/Diogelu Data 2018.  Y gost i adnewyddu'r ffi diogelu data ar gyfer 2020/21 yw £40. Penderfynodd yr Aelodau dalu'r ffi.
 
367.  Cymdeithas Adeiladu Nationwide.  Mae cyfradd llog y cyfrif busnes yn newid o 0.40% i 0.25% y flwyddyn.
 
368.  Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.  Fel y cafwyd mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Panel yn parhau i fandadu taliad o £150 fel cyfraniad tuag at gostau a threuliau aelodau pob cyngor tref a chymuned. Caiff unigolyn wrthod cyfran o'r taliad, neu'r taliad i gyd, os yw'n dymuno gwneud hynny. Rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig ac mae'n fater i'r unigolyn. Rhaid i aelod o gyngor tref neu gymuned sy'n dymuno gwrthod taliadau fynd ati ei hun i ysgrifennu at ei swyddog priodol i wneud hyn. Penderfynwyd gohirio'r mater tan y cyfarfod ym mis Mehefin.
 
369.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion cau ffordd dros dro yn Nolybont.
 
370.  Fields in Trust.  Bwletin mis Ebrill a manylion “Fields in Trust bringing Parks to you this spring”.
 
371.  Cymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol.  Newidiadau i Gyfraith Cyflogaeth 2020.
 
372.  Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Aberystwyth - Amwythig.  Ymgynghoriad ar feysydd parcio Trafnidiaeth Cymru.
 
373.  Tarian Cymru.  Cais am gefnogaeth ariannol tuag at fenter i brynu Cyfarpar Diogelu Personol i'w ddosbarthu lle bo'i angen yng Nghymru.
 
374.  Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Rhifyn Gwanwyn 2020 o'u cylchgrawn.
 
375.  Llifogydd yn Nghae Gwylan. Ateb oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru.
 
376.  Gohebiaeth Arall  Clerks & Councils Direct a Creative Play.
 
CYFRIFON
 
377. Balans y cyfrifon ar 13 Ebrill 2020
        Nationwide                                                                               30,148.85
        Cyfrif Cymunedol                                                                 9,873.40
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                              14,138.07
        Cyfrif Adnau                                                                              3,667.12
 
378. Incwm
        Cyfrif Cymunedol – Fforddfraint Scottish Power                          34.51
        Cyfrif Cymunedol – Grant Meysydd Chwarae CCC                 5,000.00
        Cyfrif Adnau – llog gros hyd 5/3/20                                                1.79
        Cyfrif Adnau – trosglwyddiad o’r Cyfrif Cymunedol                    80.00
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd – llog gros hyd 5/3/20                        7.05
        Nationwide – llog gros hyd 31/3/20                                              269.65 
        CSC – praesept – taliad 1af                                                         7,290.00               
                  
379. Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:  
        Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
- Cynllun Talu Wrth Ennill Ionawr, Chwefror a Mawrth                      381.00
        CSC – costau isetholiad 2019                                                    1.999.36
        Y Comisiynydd Gwybodaeth - Ffi Diogelu Data                           40.00
        J H Matthews – archwiliad mewnol 2019/20                               100.00
        M Walker- Cyflog Ebrill a Mai £1016,
costau swyddfa 31.29                                                                        1,047.29
 
Cynigiodd y Cyng. Hughes y dylid cymeradwyo'r gwariant uchod ac eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
                                                                                                
CYNLLUNIO
 
380.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.
A200259.  Cadw arwydd. Maes Carafanau Cambrian Coast, Ynyslas, y Borth. 
A200273.  Codi tŷ allan un llawr i'w ddefnyddio fel Ystafell Hobïau. 16 Clos Winifred, y Borth.
Oherwydd y coronafeirws, anfonwyd y ddau gais dros e-bost at bob cynghorydd a chofnodwyd nad oedd ganddynt DDIM GWRTHWYNEBIAD.
A200189.  Gofynnir am ganiatâd cynllunio ôl-weithredol am safle gwersylla i 30 o bebyll, 10 o garafanau teithiol, 5 caban glampio arfaethedig, 1 garafán statig (Caban Tŷ Gwyn) i'w defnyddio fel llety gwyliau ac un swyddfa i wasanaethu'r safle (a fydd yn disodli Carafán Tŷ Gwyn) ynghyd ag un tŷ bach ac uned gawod hygyrch. Fferm Tŷ Gwyn, Ynyslas, y Borth. 
DIM GWRTHWYNEBIAD.
                                                           
MATERION Y CADEIRYDD
 
381.  Diolchodd y Cyng. Dalton i bawb am fod yn rhan o'r cyfarfod Zoom.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
382.  Mae'r Cyng. Hughes wedi ymchwilio i'r posibilrwydd o brynu Zoom Professional er mwyn cynnal cyfarfodydd o bell heb gyfyngiad amser. Cynigiodd y Cyng. Hughes y dylid talu'r ffi flynyddol o £119.90 + TAW. Eiliwyd hyn gan y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
Roedd cais y Cyng. Bainbridge am grant £5000 tuag at y maes chwarae yn llwyddiannus. Galwyd yr heddlu i ddigwyddiad a oedd yn ymwneud â gwersyllwyr yn Ynyslas dros y Sul.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
383.  Rhoddodd y Cyng. Quant ddiweddariad ynglŷn â'r coronafeirws. Bydd Cymru yn parhau dan gyfyngiadau symud am y tair wythnos nesaf. Serch hyn, roedd nifer o ymwelwyr i'w gweld yn yr ardal dros benwythnos gŵyl y banc. Ni chafwyd dim achosion o'r feirws yng nghartrefi gofal Ceredigion hyd yma a dim ond 38 o achosion positif sydd wedi bod yn y sir i gyd. Mae tri ysbyty maes ac un corffdy wedi'u creu yn y sir. Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Quant ynglŷn â Chyfarpar Diogelu Personol a phobl ar y rhestr warchod. Mae cefnogaeth ariannol ar gael i fusnesau ar ffurf grant. Ni fydd Haven yn agor eu maes carafanau fel yr hysbysebwyd, ac ni fydd Ystâd Ddiwydiannol Glanryafon yn agor ei safle amwynder dinesig er bod rhai safleoedd mewn ardaloedd eraill yn agor ar y 18fed o Fai.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
384.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 7.40pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, Mehefin y 1af 2020 fydd Prydles y Parc Cychod a Chydnabyddiaethau Ariannol i'r Cynghorwyr. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda.                                                                                        
 
  • Hits: 1317