Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Medi 2020
YMDDIHEURIADAU
58. Y Cynghorwyr C Bainbridge, M Griffiths a D Tweedy. Mae'r Cyng. M Griffiths wedi gofyn i'r Cyngor gymeradwyo ei habsenoldeb am 6 mis arall wrth iddi wella o'i salwch diweddar. Y cynigydd oedd y Cyng. Hughes a'r eilydd oedd y Cyng. Bryn Jones. Pleidleisiodd pob aelod a oedd yn bresennol o blaid estyn ei habsenoldeb yn unol â'r cais. Ni chaiff y Cyng. J James wasanaethu fel Cynghorydd mwyach am nad yw wedi bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Cyngor ers chwe mis.
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
59. Roedd yn destun siom i Mrs Andrea Hughes nad oedd yr arwyddion a osodwyd gan Gyngor Sir Ceredigion i groesawu ymwelwyr yn ôl i'r Sir yn sôn dim am y rheol 2 fetr. Awgrymodd fod pob awdurdod yn cydweithio i sicrhau cysondeb. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n ymchwilio i gael sticeri sy'n sôn am gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr i'w rhoi ar yr arwyddion presennol.
DATGAN BUDDIANNAU
60. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
61. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 3 Awst 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Pryce Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
MATERION YN CODI
62. SAFLEOEDD BWS. Cofnod 50. Mae Phil Dalton wedi cwblhau'r gwaith i atgyweirio'r safle bws ger Cambrian Terrace.
63. CAMERÂU CYLCH CYFYNG - Y Prif Faes Parcio. Cofnod 53. Cadarnhaodd y Cyng. Hughes ei fod wedi gosod camera dros dro yn y maes parcio.
GOHEBIAETH
64. Y Coronafeirws. Diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth oddi wrth Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
65. Un Llais Cymru. Cynghorau Tref a Chymuned yn colli incwm.
Yr arwyddion meysydd chwarae sydd eisoes yn cael eu defnyddio gan Gyngor Cymuned Castell Caereinion.
Y canllawiau Arferion Gorau y mae Un Llais Cymru yn bwriadu eu defnyddio dros y misoedd nesaf.
Manylion a dyddiadau cyrsiau hyfforddi drwy gyfrwng gweminarau.
Cylchlythyr Datgarboneiddio mis Awst 2020.
Rhybuddion Heddlu Dyfed Powys ynglŷn â thwyll a sut i'ch amddiffyn eich hun rhag gwe-rwydo.
Canllawiau i Gynghorau ar gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Cefnogaeth i'r sector treftadaeth yng Nghymru.
66. Llywodraeth Cymru. Manylion yr ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd a rhifyn mis Awst o fwletin Cyfoeth Naturiol Cymru.
67. Cyngor Sir Ceredigion. Manylion enillydd Cystadleuaeth Ffotograffiaeth - Bywyd yn ystod y cyfyngiadau symud yng Nghymru.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i geisio denu prentisiaid.
Mae Ceredigion wedi'i dewis ar gyfer cynllun peilot band eang ffeibr.
Mae Amgueddfa Ceredigion wedi derbyn grant drwy Art Fund i gynnal arddangosfa gwiltiau.
Mae'r Hwb ym Mhenparcau wedi'i goroni'n Bencampwyr Bwganod Brain Cymru.
Llongyfarchwyd disgyblion Ceredigion ar eu canlyniadau TGAU.
68. Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae rhifyn haf 2020 o'u cylchgrawn ar gael ar-lein.
69. Llinell Amser Morglawdd y Borth. Cynnig gan Robert Davies i gael llinell amser newid hinsawdd ar darmac eithaf newydd y morglawdd. Nid oedd gan y Cynghorwyr wrthwynebiad ac roeddent yn llawn gefnogol o'r prosiect. Cynigiodd y Cyng. Bryn Jones bod y Cyngor yn anfon llythyr ato i'w gefnogi. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
70. Safle Amwynder Dinesig. Cais oddi wrth adeiladwr lleol a oedd yn gofyn a oedd y safle amwynder dinesig ar gael i'w rentu/ei rentu ar brydles neu efallai ei brynu er mwyn storio cyfarpar a deunyddiau. Datganodd y Cyng. Bryn Jones fuddiant a chytunwyd i ohirio'r eitem tan ddiwedd y cyfarfod ar ôl i'r Cyng. Bryn Jones adael. Gofynnwyd i'r Clerc ymateb i'r cais drwy nodi fod ganddynt brydles dymor hir â Chyngor Sir Ceredigion ar hyn o bryd.
71. Came & Co. Rhaid adnewyddu polisi yswiriant y Cyngor ym mlwyddyn olaf y cytundeb tymor hir. Y premiwm ar gyfer 2020/21 yw £1551.70. Penderfynodd yr Aelodau dalu'r premiwm.
72. Y Gronfa Uwchraddio Band Eang. Mae Ceredigion wedi'i dewis i fod yn rhan o'r cynllun peilot band eang.
73. Cyfoeth Naturiol Cymru. Datganiad i'r wasg sy'n ymwneud â gwaith hanfodol ar gynefinoedd prin yng nghorsydd Ceredigion.
74. Parthau Diogel y Borth. Ateb oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion i'r e-bost a anfonodd y Clerc ato i fynegi siom y Cyngor nad oedd modd i Gyngor Sir Ceredigion gyflwyno Parthau Diogel yn y Borth. Cytunodd yr Aelodau y dylid cynnal cyfarfod i drafod mesurau diogelwch i'r dyfodol, a gofynnwyd i'r Clerc drefnu dyddiad ac amser addas i gwrdd â chynrychiolwyr Cyngor Sir Ceredigion.
75. Cymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol. Mae'r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol wedi cytuno i dalu graddfeydd cyflog newydd ar gyfer 2020-21. Byddant yn dod i rym am 1 Ebrill 2020. Mae Cyflog y Clerc, sy'n seiliedig ar Bwynt 5 ar y Golofn Gyflog (SCPF, a adwaenwyd gynt fel SCP15), wedi codi o £9.77 yr awr i £10.04 yw awr.
76. Clerk & Councils Direct. Rhifyn mis Medi o'r cylchgrawn.
77. Hysbysfyrddau. Rhaid trwsio hysbysfyrddau'r pentref neu gael rhai newydd am fod y pren yn dechrau pydru ac mae'r drws ar y bwrdd ger Cae Gwylan wedi dod yn rhydd yn llwyr o'i golynnau. Cytunwyd i ofyn i MR Rob Hunt roi dyfynbris am y gwaith atgyweirio.
CYFRIFON
78. Balans y Cyfrifon ar 13 Awst 2020
79. Incwm
Dim.
CYNLLUNIO
81. Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.
A200580. Balwster gwydr arfaethedig i greu balconi newydd dros do fflat presennol. 2 Beach Cottage, Ffordd Clarach, y Borth. Daeth copi o lythyr o wrthwynebiad oddi wrth eiddo cyfagos ar Lôn Brynowen i law'r Clerc ar gyfer sylw bob Aelod cyn y cyfarfod. Credwn fod awdurdod wedi'i ddirprwyo i'r Cyng. Ray Quant wrthod y cais.
Cais cynllunio amlinellol am ddatblygiadau preswyl ar gyfer 15 annedd. Cadwyd yr holl faterion yn ôl ac eithrio Mynediad a Chynllun ar dir yn Lôn Gwastad, y Borth. Croesawodd yr Aelodau y cais hwn. Fodd bynnag, roedd dŵr wyneb a gallu'r garthffos i ymdopi yn achosi pryder. Mae'r rhain, ynghyd â'r draenio, y fynedfa i'r eiddo a'r allanfa, oll yn faterion i Gyfoeth Naturiol Cymru.
A200589. Codi 2 gaban pren. Animalarium, Ynys Fergi, y Borth. Trafododd yr Aelodau y cais hwn am beth amser a chynhaliwyd pleidlais i weld pwy oedd o blaid y cynnig a phwy oedd yn ei erbyn. Pleidleisiodd un Aelod o'i blaid a 4 aelod yn ei erbyn. Cytunwyd i anfon y sylwadau canlynol: Mae gan Gyngor Cymuned y Borth bryderon difrifol ynglŷn â safle arfaethedig yr adeiladau. Bydd y datblygiad yn gweld cefn gwlad agored, sy'n ymylu ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a'r Biosffer, yn cael ei lyncu ymhellach gan waith adeiladu. Barn y Cyngor yw nad yw'r tir ei hun yn addas i ddatblygu tai arno.
- Hits: 1418