Cyfarfod Anarferol (Anghysbell) Mis Medi 2020
YMDDIHEURIADAU
1. Y Cynghorwyr M Griffiths, D Tweedy a'r Clerc, M Walker. Bu'r Cyng. Dalton yn cofnodi yn ystod y cyfarfod.
GORCHMYNION DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS
2. Mae Cyngor Ceredigion yn adolygu'r rhain bob 3 blynedd. Dyma'r ddau orchymyn sydd ar fin cael eu hadolygu:
A. Dim cŵn yn rhan ddeheuol y traeth, o orsaf y bad achub i'r clogwyn, rhwng y 1af o Fawrth a'r 30ain Fedi.
B. Rhaid cadw cŵn ar dennyn ar y prom yn rhan ogleddol y pentref bob amser.
Penderfynwyd bod Cyngor Cymuned y Borth yn cytuno bod Cyngor Sir Ceredigion yn adnewyddu'r ddau orchymyn. Y cynigydd oedd y Cyng. Pryce Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Davies. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
CYFARPAR DIOGELU PERSONOL AR GYFER Y GANOLFAN DEULUOL
3. Yn ystod y cyfnod COVID hwn, ac os bydd angen symud pobl i fan diogel, bydd hwn yn gynllun a fydd yn esblygu. Gellir defnyddio'r neuadd, ond y Ganolfan Deuluol yw'r dewis cyntaf. Fodd bynnag, dim ond nifer gyfyngedig o bobl y gall y Ganolfan ei derbyn.
Er mwyn bod yn barod am argyfwng, penderfynwyd:
A. Prynu cyflenwad o 50 o fasgiau, 50 o fenig a hylif diheintio i'w defnyddio petai angen symud pobl i fan diogel.
B. Bydd angen cronfa o £20 i weini de a choffi, ac ati.
CYNLLUNIO
4. Cais i Ddileu/Amrywio amodau.
A200691. Maes Carafanau Cambrian Coast, Ynyslas, y Borth. SY24 5JU. Amrywio'r amod sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio 142/5, D1.1573.78, D1.979.82, D1.79.92 a CSDA21/049297 er mwyn i gartrefi gwyliau gael eu meddiannu rhwng y 1af o Fawrth a'r 28ain o Chwefror bob blwyddyn.
Mynegodd Aelodau'r Cyngor bryderon na fyddai'r lle yn barc gwyliau mwyach ac y byddai'n cael ei droi'n safle preswyl. Penderfynwyd gofyn am ragor o eglurder ynglŷn â'r ffordd y gellid gwarchod rhag troi'r lle yn safle preswyl. Hefyd, mae problemau llifogydd ar y ffyrdd sy'n arwain i mewn i'r Borth, a gallai hyn roi straen ychwanegol ar ein cynllun i symud pobl i fan diogel mewn argyfwng. Y cynigydd oedd y Cyng. Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Davies. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
DIWEDDARIAD GAN Y CYNGHORYDD SIR
5. Cafwyd diweddariad gan y Cyng. Quant ynglŷn â'r sefyllfa COVID yn ysbytai ac ysgolion Ceredigion. Os bydd achos o'r firws, bydd yn rhaid i'r Cyngor Sir lanhau'r safle'n drylwyr. Soniodd am y sefyllfa barhaus ag afon Leri, a'r posibilrwydd o gefnen yr afon yn torri a'r dŵr yn llifo i'r busnes lleol Cwtch - mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn delio â'r sefyllfa.
CAU'R CYFARFOD
6. Am nad oedd rhagor o faterion i'w trafod, daeth y Cadeirydd â'r cyfarfod i ben am 19.53 o'r gloch.
- Hits: 1368