Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Hydref 2020
COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, Y 5ED O HYDREF 2020 AM 19.00 O'R GLOCH
Presennol: Cadeirydd: H Hughes
C Bainbridge
R Dalton
R Davies
J James
G B Jones
A J Morris
D Pryce Jones
D Tweedy
Yn bresennol: Cynghorydd Sir: R P Quant
Clerc: M Walker
3 aelod o'r cyhoedd.
YMDDIHEURIADAU
97. Y Cyng. M Griffiths.
CYFETHOL AELOD I'R CYNGOR
98. Yn sgil cyfarwyddyd gan Un Llais Cymru a Chyngor Sir Ceredigion, cadarnhawyd y gellid cyfethol Mr John James i'r Cyngor. Estynnodd y Cadeirydd, y Cyng. Hugh Hughes, wahoddiad i Mr John James ailymuno â'r Cyngor. Tyngodd lw'r Datganiad Derbyn Swydd ac fe'i croesawyd yn Aelod o Gyngor Cymuned y Borth.
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
99. Gofynnodd Dr Andrea Hughes a oedd Cyngor Cymuned y Borth yn mynd i'r afael â'r problemau llifogydd yn y pentref. Mae hefyd yn poeni am y ffaith ei bod yn ymddangos nad yw preswylwyr lleol yn cefnogi Cyngor Cymuned y Borth, gan mai dim ond ychydig o bobl sydd wedi ymweld â'r wefan.
DATGAN BUDDIANNAU
100. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
101. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar 7 Medi 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Pryce Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
COFNODION Y CYFARFOD ARBENNIG
102. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd o bell ar 18 Medi 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
MATERION YN CODI
103. Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer y Ganolfan Deuluol. Cofnod 93. Mae'r mater yn parhau.
GOHEBIAETH
104. Y Coronafeirws. Diweddariadau rheolaidd gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
105. Un Llais Cymru. Manylion “Prosiect Fory”.
Taclo Tipio Cymru a sut i gael gafael ar bosteri printiadwy ac ati sy'n codi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r fenter.
Manylion e-byst twyll parcio sydd wedi effeithio ar breswylwyr yn ardal Awdurdod Heddlu Dyfed Powys.
Bwletin mis Medi 2020.
Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar Gam 2 y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth.
Gwahoddiad i ymuno â Llywodraeth Cymru a phartneriaid rhanbarthol Canolbarth Cymru a De-orllewin Cymru i lunio economi'r dyfodol.
Manylion gweminarau a gynhelir yn rhan o'r ŵyl dai ar-lein gyntaf a fydd yn cael ei harwain gan y gymuned.
Manylion sesiynau hyfforddi o bell ym mis Hydref.
106. Llywodraeth Cymru. Rhifyn mis Medi 2020 o fwletin Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ymgynghoriad ar adroddiad blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Chwefror 2021.
Gwybodaeth i drefnwyr ynglŷn â chynllunio gweithgarwch Sul y Cofio 2020 yng ngoleuni'r sefyllfa Covid-19 bresennol.
107. Cyngor Sir Ceredigion. Manylion ymgynghoriad ar Gynllun Amddiffyn yr Arfordir yn Aberaeron.
Llythyr oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion sy'n ymateb i gais am gyfarfod i drafod Parthau Diogel y Borth. Dim ond ymweliadau/cyfarfodydd hanfodol sy'n digwydd ar hyn o bryd, ond bydd y mater yn cael ei adolygu'n barhaus hyd nes y bydd modd cynnal cyfarfod unwaith eto.
Manylion Gwobrau Gŵyl Dewi 2021. Rhaid cyflwyno'r enwebiadau erbyn y 15fed o Hydref.
Manylion ymgyrch "Bydd Wych, Ailgylcha" sy'n ceisio sicrhau mai Cymru fydd y wlad orau am ailgylchu.
108. Fields in Trust. Y newyddion diweddaraf.
109. Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Aberystwyth - Amwythig. Manylion y cyfarfodydd sydd ar y gweill.
110. Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Manylion eu cynllun corfforaethol drafft ar gyfer 2021-2026.
111. Yr Hwb Cymunedol. Cais oddi wrth Helen Williams i annerch y Cyngor yn un o'i gyfarfodydd yn y dyfodol i drafod yr angen am hwb yn y Borth. Cytunwyd i wahodd Helen i gyfarfod mis Tachwedd.
112. Y Caeau Chwarae. E-bost oddi wrth Glwb Pêl-droed y Borth sy'n sôn am gyflwr y darn o dir yn y canol rhwng y ddau gae pêl-droed a'r darn o dir y tu ôl i ben gorllewinol yr 2il gae. Mae'r Cyng. Quant wedi gofyn i Ddŵr Cymru gwrdd ag ef ar y safle.
113. Ysbwriel ar draeth y Borth. E-bost oddi wrth ymwelydd â'r Borth a oedd yn mynegi llawenydd a boddhad â chyflwr arbennig o lân y traeth yn y Borth.
114. Llyfryn Cynllun Argyfyngau'r Borth. Mae'r Cyngor wedi cael dyfynbris am 250 o lyfrynnau. Y pris am lyfrynnau maint A4 â gorffeniad fyddai £171.25 a'r pris am lyfrynnau maint A5 â gorffeniad fyddai £121.25. Cafwyd cynnig gan y Cyng. Bryn Jones y dylid neilltuo hyd at £650 i argraffu digon o lyfrynnau ar gyfer holl gartrefi'r Borth ac Ynyslas. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Rhydian Davies. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
115. Lle Gwag ar y Cyngor. Mae'r Clerc wedi cael hysbysiadau i'w rhoi ar yr hysbysfyrddau sy'n rhoi gwybod i bobl bod lle gwag ar y Cyngor.
116. Cyngor Sir Ceredigion. Daeth y cytundeb lefel gwasanaeth blynyddol rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Cymuned y Borth i law'r Clerc ar gyfer gwaith glanhau'r bloc toiledau ger adeilad yr RNLI. Rhaid i Gadeirydd Cyngor Cymuned y Borth ei arwyddo. Cafwyd cynnig gan y Cyng. Bainbridge y dylai Cyngor Cymuned y Borth barhau â'r cytundeb lefel gwasanaeth. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. James. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
117. Copi o lythyr at Gyngor Sir Ceredigion. Manylion cwynion/ymholiadau ynghylch Priffyrdd a Gweithwyr Cyngor Sir Ceredigion.
118. Ynyslas. Copi o lythyr sy'n diolch i Gyngor Sir Ceredigion am osod cwter yn y ffordd sy'n dynesu at yr aber yn Ynyslas ac sy'n gofyn a fyddai modd asesu'r rhan honno o'r ffordd er mwyn ymchwilio i'r posibilrwydd o gynnal gwaith draenio. Cais hefyd am arwydd ffordd i'r dwyrain o groesfan y rheilffordd yn Ynyslas.
CYFRIFON
119. Balans y Cyfrifon ar 13 Medi 2020
Nationwide 30,148.85
Cyfrif Cymunedol 16,450.74
Cyfrif Busnes Dim Rhybudd 15,340.83
Cyfrif Adnau 3,668.92
120. Incwm
Cyfrif Adnau – Llog gros hyd 3/9/20 0.09
Cyfrif Busnes Dim Rhybudd – Llog gros hyd 3/9/20 0.37
121. Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:
Philip Dalton – Gwaith a wnaed ar y safle bws 225.00
R Dalton – prynu 6 arwydd cŵn 46.67
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Cynllun Talu wrth Ennill
Gorffennaf, Awst a Medi 402.00
M Walker-cyflog £522.00, costau swyddfa 7.99 529.99
Heledd Davies - cyfieithu cofnodion mis Medi a chofnodion y Cyfarfod Arbennig 119.80
Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Pryce Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o
blaid y cynnig.
CYNLLUNIO
122. Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.
A200772. Erwau Glas, Princess Street, y Borth. Codi garej. Datganodd y Cyng. Morris fuddiant.
Ni chafwyd dim sylwadau ac ni wrthwynebodd neb.
Cŵn
123. Deliwyd â'r mater hwn yn y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar y 18fed o Fedi (Cofnod 92). Tynnwyd y baneri i gyd i lawr ac maent wedi'u storio tan y flwyddyn nesaf. Mae'r arwyddion i gyd wedi'u gosod o gwmpas y caeau chwarae.
Maes Chwarae
124. Mae gan bobl bryderon ynglŷn ag ailagor y maes chwarae oherwydd Covid-19. Nodwyd hefyd bod angen trwsio peth o'r cyfarpar a phrynu cyfarpar newydd. Cytunodd yr aelodau i beidio ag ailagor y maes chwarae hyd nes bod yr holl waith atgyweirio wedi'i gwblhau a bod mesurau rhesymol ar waith i sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol.
Y PARC CYCHOD
125. Mae'r fframiau rhydlyd a'r hen deiars i gyd wedi'u symud o'r safle.
CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR STRYD FAWR Y BORTH
126. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi caniatâd i Gyngor Cymuned y Borth osod sticeri 2 fetr ar yr arwyddion glas o gwmpas y pentref. Bydd hyn yn digwydd cyn y gwyliau hanner tymor. Penderfynwyd neilltuo £50 i wneud hyn. Y cynigydd oedd y Cyng. Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Davies. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
MATERION Y CADEIRYDD
127. Hysbysodd y Cyng. Hughes yr Aelodau bod y gwaith i atgyweirio glan afon Leri bellach wedi cychwyn.
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
128. Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Bainbridge ynglŷn â chyfarfod diweddar y Cyngor Iechyd Cymuned i drafod Gorwelion. Bydd Ysgol Craig yr Wylfa yn hysbysebu am gynorthwywyr dosbarth yn fuan. Bydd cyfanswm o £5000 o gronfeydd y carnifal yn cael ei ddosbarthu i grwpiau lleol eleni.
Mae'r Cyng. Dalton yn poeni am y ffaith nad oes meini copa newydd wedi'u gosod gyferbyn â Pebbles a bod rhai ohonynt ger y toiledau wedi dod yn rhydd. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n codi'r mater â Chyngor Sir Ceredigion.
Dywedodd y Cyng. James fod rhan o lwybr yr arfordir bellach wedi ailagor yn dilyn tirlithriad yn Wallog.
Bydd y Cyng. Pryce Jones yn cadarnhau faint o arian a godwyd tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol yng nghyfarfod nesaf y Cyngor. Rhoddodd y Borth addewid y byddai'n codi £5000 drwy weithgareddau codi arian a phenderfynodd Cyngor Cymuned y Borth gyfrannu unrhyw arian a oedd yn brin o'r targed hwnnw.
Hysbysodd y Cyng. Davies yr Aelodau fod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth wedi'i ohirio am y tro.
Dywedodd y Cyng. Jones fod y llythyron ynglŷn â'r brechlyn ffliw yn cael eu hanfon at bobl gymwys ar hyn o bryd.
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
129. Dywedodd y Cyng. Quant fod goryrru yn dal i beri problemau ar Ffordd Clarach ac ategodd fod y traffig yn drymach yn y fan hon ar hyn o bryd oherwydd y goleuadau traffig yn Bow Street. Mae'r Clwb Golff wedi gwneud cais i waith gael ei wneud ar amddiffynfeydd y môr ond nid oes ateb wedi dod i law eto oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru. Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Quant ynglŷn â'r llifogydd sylweddol yng Ngheredigion ac ynglŷn â Covid-19.
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
130. Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 8.55pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir ar 2 Tachwedd 2020 fydd Hwb Cymunedol y Borth, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Maes Chwarae, y Parc Cychod a Chadw Pellter Cymdeithasol ar hyd Stryd Fawr y Borth. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.
- Hits: 1324