• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - CBC Mis Mai 2021

COFNODION CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL AR NOS LUN, 10 MAI 2021 AM 18.30 O'R GLOCH
 
Presennol:           Cadeirydd:                         H Hughes
                                                                        C Bainbridge
                      R Dalton
                                                                        R Davies
                      M Griffiths
                      J James
                      G B Jones
                                                                        A J Morris
                                                                        D Pryce Jones
                                                                        A Thomas
                                                                        D Tweedy
Yn bresennol:                Cynghorydd Sir:     R P Quant
                                    Clerc:                          M C Walker     
                                                                        4 aelod o'r cyhoedd
 
YMDDIHEURIADAU
 
1.  Dim.
 
ETHOL CADEIRYDD
 
2.  Cynigiodd y Cyng. Morris y dylai'r Cyngor ethol y Cyng. Hugh Hughes yn Gadeirydd am ail dymor yn 2021/22. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Bainbridge. Rhoddwyd ail enwebiad gerbron.
 
DATGANIAD DERBYN SWYDD
 
3. Tyngodd y Cyng. Hughes yn swyddogol ei fod yn derbyn y swydd a chychwynnodd ar ei gyfnod yn y gadair.
 
ETHOL IS-GADEIRYDD
 
4.  Enwebodd y Cyng. Hughes y Cyng. Delyth Pryce Jones i wasanaethu fel Is-Gadeirydd ar gyfer 2021/22. Eiliwyd yr enwebiad gan y Cyng. Davies. Ni ddaeth dim enwebiadau eraill i law.
 
Gadawodd y Cyng. Bainbridge y cyfarfod.
 
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF A'R MATERION YN CODI
 
5.  Anfonwyd copïau o Gofnodion y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2020 at bob Aelod drwy e-bost. Cadarnhawyd yn y cyfarfod ar 3 Awst 2020 bod y cofnodion yn gywir, Cofnod 32. 
 
ADRODDIAD Y CADEIRYDD AR GYFER 2020/21
 
6.   Mae 2020-21 wedi bod yn flwyddyn fythgofiadwy. Nodwyd 75 mlynedd ers diwrnodau Buddugoliaeth yn Ewrop a Buddugoliaeth yn Japan, digwyddodd Brexit, ac rydym ni oll wedi ein heffeithio i wahanol raddau gan COVID-19. Fel Cyngor, bu'n rhaid inni gyd ymgyfarwyddo â ffyrdd newydd o weithio. Bu un Aelod o'n plith yn absennol am sawl mis oherwydd salwch. Roedd yn hyfryd ei gweld yn dychwelyd at y Cyngor yn llawn. Croesawom aelod newydd i'n plith hefyd, sef y Cyng. Amy Pugh.
 
Lle bo hynny'n bosib, rydym wedi ceisio cefnogi, hwyluso a gwneud pethau i wella ein cymuned. Dyma rai o'r pethau yr ydym wedi'u cyflawni: rydym wedi trwsio ein safleoedd bws ac mae'r ffôn talu ynghanol y pentref wedi'i achub; cliriwyd sbwriel ac eitemau peryglus o'r parc cychod a chodwyd arwyddion a oedd yn ymwneud â chofrestru cychod. Cymerwyd camau hefyd i atal tipio anghyfreithlon yn y maes parcio. Rydym wedi codi pryderon dro ar ôl tro â Chyngor Sir Ceredigion ynglŷn â phobl yn ceisio cadw pellter cymdeithasol wrth iddynt gerdded drwy'r pentref. Mae meinciau a hysbysfyrddau'r Cyngor Cymunedol wedi'u hatgyweirio. Mae'r Cyng. Bainbridge wedi ymdrechu gydol y flwyddyn i sicrhau bod gwaith atgyweirio hanfodol yn cael ei wneud yn y parc chwarae, ac mae hefyd wedi llwyddo i sicrhau grantiau ar gyfer cyfarpar newydd. Er y bu'n rhaid aros i'r gweithwyr ddod i ymgymryd â'r gwaith oherwydd COVID-19, dyfalbarhau a wnaeth Carol ac ail-agorwyd y parc chwarae yn ddiweddar. Yn ogystal â hynny, llwyddodd i sicrhau grant er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch y cwtiaid torchog, a hynny mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru. O ganlyniad i bryderon a godwyd gan aelodau o'n cymuned, penderfynodd y Cyngor ofyn cwestiynau ynglŷn â'r modd yr oedd ein Bwrdd Iechyd yn rhoi'r rhaglen frechu ar waith. Mae'n dda gweld bod y rhaglen yn rhedeg yn hwylus iawn erbyn hyn yng Ngogledd Ceredigion yn gyffredinol. Rydym bellach wedi cynnal trafodaethau â'r Bwrdd Iechyd lleol ac edrychwn ymlaen at glywed am ddatblygiadau yn y dyfodol o ran ei weledigaeth ar gyfer gofal iechyd a gofal cymdeithasol integredig yma'n lleol. Er nad ydym wedi cytuno bob tro, credaf fod hyn yn dangos ein bod yn gallu cyflawni pethau fel Cyngor.
 
Mae Cyngor Cymuned y Borth wedi cydweithio'n agos â Hwb Cymunedol y Borth sydd, yn eu tro, wedi elwa ar gymorth cynllun Wardeniaid Argyfwng y Borth er mwyn cynnig cefnogaeth i aelodau o'n cymuned.  Rydym yn ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o hyn am ymdrechu i ddangos ysbryd cymunedol y Borth ar ei orau. Diolch yn fawr i gymuned y Borth.
 
O ran y dyfodol, ymddengys y byddwn yn gallu dychwelyd i gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn hwyrach eleni. Edrychaf ymlaen yn fawr at hyn. Bydd yn dal angen inni ystyried materion megis llifogydd mewn gwahanol rannau o'r pentref. Gobeithiaf y byddwn yn ddefnyddio ein dylanwad i wneud gwahaniaeth.  Mae goryrru drwy'r pentref yn destun pryder inni'n rheolaidd. Byddwn yn parhau i dynnu sylw'r awdurdodau sy'n gyfrifol am ddelio â'r materion at y broblem hon. Gwelaf ar agenda'r cyfarfod nesaf fod cerbydau gwersylla, a lle y dewisant barcio yn y pentref, wedi'u codi. Bydd angen inni ystyried y mater hwn yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen yn eiddgar hefyd at weld beth ddaw o grŵp Borth 2030 a sut y gallem ehangu ar hyn ymhellach drwy gynnal ymgynghoriad cyhoeddus a gweld prosiectau go iawn yn cael eu cynnal ymhen hir a hwyr er mwyn gwella ein cymuned.
 
Mae fy nyled yn fawr i Ray am gefnogi Cyngor Cymuned y Borth gydol y flwyddyn ac am ddiweddaru'r Cyngor yn rheolaidd ynghylch y datblygiadau sirol o ran y Coronfeirws. 
 
Diolchaf i James am sicrhau bod yr hysbysiadau yn cael eu gosod ar yr hysbysfyrddau'n brydlon.
 
Graham, diolch yn fawr ichi am barhau i weithio mor ddiwyd ar y wefan gymunedol.
 
Dylwn hefyd ddiolch i wahanol aelodau o'r gymuned sy'n mynychu cyfarfodydd Cyngor Cymuned y Borth yn rheolaidd ac sy’n craffu ar hyn a wnawn. 
 
Margaret, diolch am gadw trefn arnom ac am bopeth a wnewch ar ran Cyngor Cymuned y Borth.
 
Yn olaf, hoffwn ddiolch i'm cyd-Aelodau am ymdrechu i barhau i gefnogi'r gymuned yn un o'i blynyddoedd mwyaf heriol. Gobeithiaf y gall y Cyngor barhau i wella'r Borth hyd eithaf ei allu. Dyna, wedi'r cyfan, pam yr ydym ni gyd yma.
 
CWESTIYNAU A WAHODDWYD ODDI WRTH AELODAU'R CYHOEDD
 
7.  Dim cwestiynau.
 
GWIRIO'R RHESTR O WEITHREDOEDD Y CYNGOR
 
8.  Mae'r gweithredoedd ar gael i'w harchwilio drwy drefnu apwyntiad â'r Clerc.
 
CAU'R CYFARFOD
 
9.  Am nad oedd rhagor o faterion i'w trafod, daeth y Cadeirydd â'r cyfarfod i ben am 18.59 o'r gloch.
  • Hits: 1221