• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Mai 2021

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, Y 10FED O FAI 2021 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:         Cadeirydd:                    H Hughes                                                                                                                                                                                   R Dalton
                                                                 R Davies
               M Griffiths
                                                                 J James                                                
               G B Jones
                                                                 A J Morris
                                                                 D Pryce Jones
                                                                 A Thomas
                                                                  D Tweedy                                                        
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:             R P Quant
            Clerc:                                M Walker            
                4 aelod o'r cyhoedd.
 
YMDDIHEURIADAU
 
1.  Y Cyng. Bainbridge.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
2.  Dim.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
3.  Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
4. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar y 12fed o Ebrill 2021. Y cynigydd oedd y Cyng. Griffiths a'r eilydd oedd y Cyng. Dalton. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
MATERION YN CODI
 
5.  Dim.
 
GOHEBIAETH
 
6.    Y Coronafeirws.  Diweddariadau rheolaidd gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
 
7.  Un Llais Cymru Llywodraeth Cymru.  Mae'r holl ohebiaeth a ddaeth i law yn ystod y mis wedi'i hanfon at bob Cynghorydd dros e-bost. 
 
8.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion Cronfa Adnewyddu Cymunedol.
Ymgynghoriad ar waredu â ffonau talu BT. Ymatebodd Cyngor Cymuned y Borth i'r ymgynghoriad yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2020. Mae'r Clerc wedi datgan unwaith eto bod y Cyngor yn gwrthwynebu'r bwriad i waredu â'r ffonau talu yn Ynyslas ac ar stryd fawr y Borth.
Bydd y praesept yn cael ei dalu mewn tri thaliad ar wahân.
 
9.  Ecodyfi.  Manylion swydd wag Swyddog Hinsawdd.
 
10. Ceisiadau am roddion ariannol. Tenovus.  Bydd y ceisiadau i gyd yn cael eu hystyried yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth 2022.
 
11. Gwelyau blodau.  Llythyr sy'n gofyn am gymorth ariannol i wella'r cynwysyddion sy'n dal planhigion gyferbyn â siop Premier. Hefyd, cais am £20 yr un ar gyfer Hwb Cymunedol y Borth ac 2il Grwp Sgowtiaid y Borth i dalu am blanhigion ar gyfer y ddau wely blodau. Cynigiodd y Cyng. Jones bod y Cyngor yn cyfrannu £300 er mwyn adfer y cynhwysyddion sy'n dal blodau ym mhen gogleddol y pentref. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. James. Cynigiodd y Cyng. Morris fod £20 yr un cael eu rhoi i Hwb Cymunedol y Borth ac 2il Grwp y Sgowtiaid. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Davies. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
12.  Parthau Diogel.   E-bost oddi wrth berchennog Eltham sy'n poeni am y rhwystrau. Yn hytrach na chaniatáu i bobl symud drwy'r ardal yn ddiogel a chadw pellter diogel ar yr un pryd, ymddengys bod iddynt oblygiadau "nas dymunwyd ac anfwriadol" am fod pobl yn cerdded o gwmpas y rhwystrau ac ar y ffordd. Mynegodd yr Aelodau bryderon nad oedd modd gweithredu'r llwybr diogel y bwriadwyd ei greu rhwng Wesley Cottage a Brittania yn llawn am fod cerbydau wedi'u parcio yno, yn arbennig ger y cyrbiau isel. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anos i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phramiau gyrraedd y parthau diogel. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n gofyn am gyngor ynghylch y blychau H gwynion. Mae'r Cyng. Jones yn poeni nad yw lled y palmant ar hyd y stryd fawr yn cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.
 
13.  Tir ar safle'r Hen Neuadd.  Cais i rentu neu brynu darn o dir lle safai hen neuadd y pentref gynt. Gofynnwyd i'r Clerc ateb gan ddweud bod y tir dan sylw dan berchnogaeth breifat.
 
14.  ROSPA.  Rhybudd y bydd y maes chwarae yn cael ei archwilio ym mis Mehefin.
 
15.  Maes Parcio'r Clwb Golff.  Pryderon ynghylch nifer y cerbydau gwersylla a faniau bychain ar faes parcio'r Clwb Golff.  Roedd eitem ar yr agenda wedi'i neilltuo ar gyfer y mater hwn.
 
16.  Cŵn.  E-bost oddi wrth breswylydd yn y Borth sy'n poeni'n gynyddol am gŵn sydd heb eu hyfforddi ac sydd allan o reolaeth yn sgil digwyddiad diweddar pan gnowyd ei wraig yn wael gan gi. Awgrymodd y Cyng. Hughes y dylid cerdded ar hyd y prom i weld a oedd angen rhagor o arwyddion i hysbysu perchnogion cŵn bod cŵn wedi'u gwahardd ar y traeth rhwng y 1af o Fai a'r 30ain o Fedi.
 
17.  Cyfrifiad 2021.  Manylion datganiad i'r wasg sy'n ymwneud â'r cyfrifiad.
 
18.  Ambiwlans Awyr Cymru.  Llythyr sy'n diolch i'r Cyngor am ei rodd ddiweddar.
 
19.  Côr Gobaith.  E-bost sy'n gofyn i'r Cyngor ystyried cynnwys y pabi gwyn yn nigwyddiadau Sul y Cofio.
 
CYFRIFON
 
20. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Ebrill 2021
      Nationwide                                                                                                             30,229.71
      Cyfrif Cymunedol                                                                                                 10,205.56
      Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                                                                15,341.59
      Cyfrif Adnau                                                                                                            3,749.10
 
21. Incwm 
      CSC – Praesept - taliad 1af                                                                                     6,682.50     
      
22. Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:
       W Doyle – Gwaith atgyweirio ar y meini copa ar y prom                                   1,280.00
       M Walker – Cyflog 522.00, costau swyddfa 9.99                                                    531.99
       Heledd Davies – Cyfieithu cofnodion mis Ebrill                                                      99.00
       D Tweedy – Tâl Cynghorwyr                                                                                   150.00
       Canolfan Deuluol y Borth – planhigion ar gyfer gwely blodan                               20.00
       2il Grŵp y Sgowtiaid – planhigion ar gyfer gwely blodau                                       20.00
       Cymdeithas Henoed y Borth - adfer 3 gwely blodau gyferbyn â siop Premier     300.00
     
Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Pryce Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
23.   Datganiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021.  Dosbarthwyd copïau o'r Datganiad Blynyddol i'r Cynghorwyr dros e-bost oherwydd y sefyllfa bresennol. Rhoddodd y Cyng. Quant adroddiad cynhwysfawr ynghylch y cyfrifon a'r Datganiad Blynyddol. Mae'r Cyngor yn cadarnhau bod y Datganiad Blynyddol wedi'i gyflwyno i'r Cyngor a phenderfynodd gymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2020/21. Mae'r Cyngor yn nodi cynnwys Adroddiad yr Archwiliad Mewnol Blynyddol a gynhaliwyd ac a ardystiwyd gan Mrs Hilary Matthews (Archwilydd Mewnol), a phenderfynwyd cymeradwyo Rhannau 1 a 2 o'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Awdurdodwyd y Cadeirydd a'r Clerc i lofnodi'r Datganiad ar ran y Cyngor. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris, yr eilydd oedd y Cyng. Griffiths a phleidleisiodd yr Aelodau'n unfrydol o blaid y cynnig. Trefnir bod y Cadeirydd yn llofnodi'r Datganiad.
 
Cynhaliodd Mrs Hilary Matthews yr Archwiliad Mewnol ar yr 28ain o Ebrill, ac fe'i llofnododd. Bydd y cyfrifon ar gael i'w harchwilio rhwng yr 20fed o Awst a'r 17eg o Fedi.
 
CYNLLUNIO
 
24.  Dim.
 
CERBYDAU GWERSYLLA
 
25.  Mae pryderon wedi'u codi ynglŷn â nifer y cerbydau gwersylla a faniau bychain ym maes parcio'r Clwb Golff yn Ynyslas. Mae'r Cyng. Pryce Jones wedi codi'r mater gydag aelod o Gyngor Sir Ceredigion ac mae'n dal i aros am ateb.   Dywedodd y Cyng. Griffiths y byddai'n cael gair â chapten y Clwb Golff ar ran y Cyngor. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n ymchwilio i'r gorchmynion "Dim Parcio Dros Nos" sy'n ymwneud â pharcio cerbydau gwersylla mewn rhai mannau ar hyd y stryd fawr a phryd y byddant yn cael eu hadolygu.
 
HYSBYSFYRDDAU
 
26.  Mae'r holl hysbysfyrddau wedi'u hatgyweirio a'u paentio a diolchodd y Cadeirydd i Phil a Rona Dalton am wneud y gwaith hwn.
 
MEINCIAU
 
27.  Cadarnhaodd y Clerc ei bod wedi anfon yr archwiliad diweddar o'r meinciau at Gyngor Sir Ceredigion. Yn sgil ymholiad ynghylch gosod placiau ar feinciau, cadarnhawyd nad yw Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud y gwaith cymeradwyo hwn mwyach. Nid yw Aelodau'r Cyngor wedi cyfarfod eto i drafod y gwaith y mae ei angen ar y meinciau picnic ger y maes chwarae (gweler Cofnod 309).
 
LLIFOGYDD A FFOSYDD
 
28.  Nid oes is-bwyllgor wedi'i greu i drafod llifogydd ac yn y blaen. Serch hynny, mae'r Cyng. Jones wedi ysgrifennu llythyr at wahanol awdurdodau.
 
Y MAES CHWARAE
 
29.   Mae'r maes chwarae yn awr ar agor i'r cyhoedd ac mae'r holl arwyddion gorfodol bellach wedi'u gosod.
 
Y PARC CYCHOD
 
30.  Mae'r mater yn parhau.
 
CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR STRYD FAWR Y BORTH
 
31.  Trafodwyd y mater hwn dan 'Gohebiaeth'.  
                         
MATERION Y CADEIRYDD
 
32.  Cyflwynodd y Cadeirydd ei adroddiad yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
33.   Gofynnodd y Cyng. Dalton a allai Cyngor Sir Ceredigion roi bin gwastraff arall ar y ffordd tuag at yr eglwys.
Cyfeiriodd y Cyng. Griffiths ar cerbydau’n goryrru ar y brif stryd, yn enwedig yn hwyr yn y nos. Bydd y mater hwn yn cael ei godi yn y cyfarfod PACT nesaf. Mae'r Cyng. Jones ar ddeall fod cyfyngiad cyflymder 20 milltir yr awr mewn grym yn Aberaeron a gofynnodd a allai'r Borth wneud yr un peth.
Holodd y Cyng. Pryce Jones ynglŷn â'r pren a brynwyd ar gyfer y fainc yn Heol Aberwennol nad oedd yn ddigon addas i'w hatgyweirio ac sydd bellach yn cael ei storio yn ei garej. Awgrymwyd y gellid defnyddio'r pren i atgyweirio'r meinciau picnic ger y maes chwarae. Mae perchnogion Benfleet wedi gofyn a fyddai modd gwaredu â'r arwydd sy'n ymwneud ag amddiffyn yr arfordir a godwyd ar eu tir lawer o flynyddoedd yn ôl. Mae'r Cyng. Quant wedi siarad â Chyngor Sir Ceredigion a fydd yn trefnu bod y arwydd yn cael ei symud o'r safle.
Gofynnodd y Cyng. Morris ynglŷn â'r gwaith nad oedd wedi'i gwblhau eto ar Gaeau Chwarae Uppingham. Yn sgil trafodaethau ag asiantiaid Dŵr Cymru, cadarnhaodd y Cyng. Quant ei fod wedi llwyddo i gytuno ar £1,000 i gwblhau'r gwaith ac y gellid trosglwyddo'r swm i naill ai Cyngor Cymuned y Borth neu'n uniongyrchol i Glwb Pêl-droed Unedig y Borth. 
Soniodd y Cyng. James am y problemau parhaus â goryrru ar Ffordd Clarach ac at y ffaith bod ceir wedi'u parcio'n barhaol ar y groesffordd yng Nghlarach. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n sôn am y mater wrth y Cyng. Paul Hinge.
Soniodd y Cyng. Jones am gyfarfod y bu'n bresennol ynddo'n ddiweddar gyda'r Bwrdd Iechyd.
Gofynnodd y Cyng. Davies pwy oedd yn clirio'r cerrig ar y llithrfa ger Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. Cadarnhawyd mai Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub ei hunan sydd fel rheol yn gwneud y gwaith hwn.  Cyfarfu Borth 2030 yn ddiweddar a dywedodd y Cyng. Davies y byddai'n rhoi diweddariad ynglŷn â hyn yn y cyfarfod nesaf.
Dywedodd y Cyng. Tweedy fod mochyn yn crwydro'n rhydd yn y Borth.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
34.  Ni chafwyd diweddariad ynglŷn â COVID-19. Bydd y Cyng. Quant yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion a godwyd yn ystod y cyfarfod.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
35.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 20.55pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, y 7fed o Fehefin 2021 fydd Cyfrifoldebau'r Cynghorwyr, Llifogydd a Ffosydd, y Maes Chwarae, Meinciau, y Parc Cychod a Chadw Pellter Cymdeithasol ar Stryd Fawrth y Borth. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu unrhyw eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.                                                                                        
 
  • Hits: 928