Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Mehefin 2021
COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, MEHEFIN Y 7FED 2021 AM 19.00 O'R GLOCH
Presennol: Cadeirydd: H Hughes
C Bainbridge
R Dalton
R Davies
M Griffiths
G B Jones
A J Morris
D Pryce Jones
A Thomas
Yn bresennol: Cynghorydd Sir: R P Quant
Clerc: M Walker
3 aelod o'r cyhoedd.
YMDDIHEURIADAU
36. Y Cynghorwyr J James a D Tweedy.
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
37. Dim.
DATGAN BUDDIANNAU
- Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.
COFNODION Y CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL
39. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 10 Mai 2021. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
40. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar y 10fed o Fai 2021. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Bryn Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
MATERION YN CODI
- Cofnod 29. Hysbysodd y Cyng. Bainbridge yr Aelodau fod yr ail ddarn o gyfarpar a brynwyd â chyllid grant yn cael ei osod yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn ar y 7fed o Fehefin.
GOHEBIAETH
42. Y Coronafeirws. Diweddariadau rheolaidd gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
43. Un Llais Cymru Llywodraeth Cymru. Mae'r holl ohebiaeth a ddaeth i law yn ystod y mis wedi'i hanfon at bob Cynghorydd dros e-bost.
44. Clwb Rhwyfo'r Borth. E-bost sy'n hysbysu'r Cyngor bod y Clwb Rhwyfo wedi dechrau rhwyfo eto ar ôl y pandemig.
45. Cyngor Tref Nefyn. Gwahoddiad i fod ymuno â chyfarfod Zoom ar y 27ain o Fai ac ar y 24ain o Fehefin i drafod ail gartrefi.
46. Sight Cymru. Gwahoddiad i sesiwn sy'n codi ymwybyddiaeth ynghylch cyflyrau'r llygaid a'r rhwystrau y mae pobl sy'n colli'u golwg yn eu hwynebu wrth ddod yn rhan o'r gymuned.
47. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Arolwg i'w gwblhau ar wasanaethau fferyllol cymunedol a holiadur "Adeiladu dyfodol iachach yn dilyn COVID-19".
48. Parthau Diogel. Rhagor o ohebiaeth ynghylch y parthau diogel, y marciau 'H' a lonydd tai yn cael eu rhwystro. Hefyd, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi codi rhwystrau presennol y parthau diogel a gosod bolltiau breision yn eu lle. Roedd penwythnos Gŵyl y Banc yn eithriadol o brysur, a chafwyd pobl yn parcio'n anghyfreithlon a thagfeydd ar brydiau ar hyd y stryd fawr. Gofynnodd y Cyng. Pryce Jones a fyddai modd cael warden traffig yn y Borth o leiaf un diwrnod yr wythnos. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n ceisio trefnu hyn. Awgrymodd y Cyng. Jones y dylid cyflwyno cyfyngiad cyflymder 20m.y.a. drwy'r pentref. Bydd yr holl faterion hyn yn cael eu codi yn y cyfarfod PACT nesaf.
CYFRIFON
- Gweddill y Cyfrifon ar 13 Mai 2021
Nationwide 30229.71
Cyfrif Cymunedol 18980.30
Cyfrif Busnes Dim Rhybudd 15341.59
Cyfrif Adnau 3749.10
- Incwm
Dim.
- Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
Philip Dalton – gwaith ar 5 hysbysfwrdd 425.00
H Hughes – cost y tanysgrifiad blynyddol i ddefnyddio Zoom 143.88
Heledd Davies – cyfieithu cofnodion y 2 gyfarfod ym mis Mai 136.75
M Walker - cyflog y Clerc 522.20
Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
- Archwiliad 2021/22. Cynigiodd y Cyng. Jones y dylid ysgrifennu at Mrs Hilary Matthews i ofyn a yw'n barod i barhau i fod yn archwilydd mewnol i'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
CYNLLUNIO
- A210411. Annedd breswyl arfaethedig a gwaith cysylltiedig, gan gynnwys dymchwel adeilad presennol y Weinyddiaeth Amddiffyn. Tir i'r dwyrain o Renfrew Drive, Ynyslas, y Borth. Mae Cyngor Cymuned y Borth yn gwybod bod pobl yn y gymuned yn gwrthwynebu'r cais ac mae'n argymell y dylid cynnal ymweliad safle er mwyn ystyried y pryderon yn lleol. Awgrymwyd hefyd y gallai'r Gymdeithas Henebion fod â diddordeb yn hen adeilad y Weinyddiaeth Amddiffyn ac y dylid gofyn am ei barn hi ynglŷn â'r bwriad i'w ddymchwel.
CERBYDAU GWERSYLLA
- Mae'r Cyng. Pryce Jones wedi cael llawer o gwynion oddi wrth breswylwyr Ynyslas ynglŷn â'r faniau gwersylla niferus a fu'n aros yn Ynyslas dros benwythnos gŵyl y banc. Roedd ceir hefyd yn parcio ar yr ymyl glaswelltog o'r fynedfa i faes parcio'r Clwb Golff yn Ynyslas a Renfrew Drive. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n sôn wrth y Cyngor Sir am y mater.
MEINCIAU
- Gofynnodd y Cyng. Quant i Mr Glyn Davies a fyddai'n fodlon paentio'r fainc a fabwysiadwyd ar ddiwedd y prom.
LLIFOGYDD A FFOSYDD
- Byddai'r mater hwn yn cael ei ohirio tan y cyfarfod ym mis Medi. Gofynnodd y Cyng. Morris i'r Clerc ddiolch i Mr Ben Byrne am gael defnyddio'i feic cwad a'i drelar ac am ei holl gymorth wrth symud a storio'r byrddau storm.
Y PARC CYCHOD
- Mae'r mater yn parhau.
CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR STRYD FAWR Y BORTH
- Trafodwyd y mater yn bennaf dan Eitem 48. Awgrymodd y Cyng. Jones y dylid prynu rhagor o arwyddon 2 fetr ond anghytunai rhai o'r Aelodau eraill gan mai'r farn oedd bod rhai yn anwybyddu'r arwyddion.
GRŴP LLYWIO'R BORTH
- Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Davies. Gofynnodd y Cyng. Bainbridge a oedd aelodau newydd wedi ymuno â'r grŵp. Mae'r holl aelodau presennol wedi bod yn rhan o'r grŵp ers y cychwyn, ond bydd cyfle i aelodau newydd i ymuno yn y dyfodol.
MATERION Y CADEIRYDD
60. Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Hughes ynglŷn â'i gyfarfod â'r Cyng. Quant i drafod y gwaith sy'n parhau ar y siambr falfiau yn y meysydd chwarae. Diolchodd i'r Cyng. Quant am egluro'r sefyllfa o ran y brydles rhwng Cyngor Cymuned y Borth a Chymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth, a mynegodd y farn nad mater i Gyngor Cymuned y Borth oedd hwn ac na ddylai fod yn rhan ohono. Roedd y Cyng. Quant wedi cytuno i drefnu bod y gwaith yn cael ei gwblhau. Mae'r Cyng. Hughes wedi cynnal archwiliad o'r arwyddion cŵn yn yr ardal lle gwaherddir cŵn. Bydd yr archwiliad yn cael ei drosglwyddo i'r Cyngor Sir a gofynnir am ragor o arwyddion ar yr un pryd.
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
61. Gwirfoddolodd y Cynghorwyr i ysgwyddo'r cyfrifoldebau canlynol:
C Bainbridge Y Parc Cychod, Ardal Chwarae'r Plant, Llywodraethwyr Ysgol Craig yr Wylfa, y Rhyfel Mawr, y Cyngor Iechyd Cymuned, y Celfyddydau, Ymddiriedolwr Hwb Cymunedol y Borth, Warden y Cynllun Argyfyngau.
R Dalton Y Parc Cychod, PACT, Ymddiriedolwr Hwb Cymunedol y Borth, Gwirfoddolwr yn Amgueddfa'r Orsaf Drenau, Goryrru, a Chydlynydd y Cynllun Argyfyngau.
R Davies Cynrychiolydd y Cyngor ar Bwyllgor y Neuadd, Goryrru a Chydlynydd y Cynllun Argyfyngau.
M Griffiths Un Llais Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a Warden y Cynllun Argyfyngau.
H Hughes Y Parc Cychod, Tir Comin, Goryrru, y 'Goeden', Tudalen We a Facebook y Cyngor, Goryrru, Ymddiriedolwr Hwb Cymunedol y Borth, Tân, Cydlynydd y Cynllun Argyfyngau.
J James PACT a Materion yr Heddlu.
Jones Y Parc Cychod, Sbwriel, Cŵn, yr Eisteddfod Genedlaethol, Facebook a Warden y Cynllun Argyfyngau.
G B Jones Warden y Cynllun Argyfyngau, y Celfyddydau a'r Gymraeg, Archwiliwr Ariannol Mewnol, Diffibrilwyr a Chynrychiolydd Cyngor Cymuned y Borth ar brosiect Iechyd a Gofal y Borth.
A J Morris Y Parc Cychod, Biosffer Dyfi, Dyfrffosydd a Draenio Ffosydd Mewnol, Archwilydd Ariannol Mewnol a Warden y Cynllun Argyfyngau.
A Thomas Cynrychiolydd Busnes a Warden y Cynllun Argyfyngau.
D Tweedy Y Celfyddydau a Warden y Cynllun Argyfyngau.
Mae'r Cyng. Dalton yn poeni am gyflwr y cyntedd ar y ffordd i mewn i'r rheilffordd. Cynhigiodd ysgrifennu llythyr at Network Rail.
Nid oedd gan y Cyng. Bainbridge ddim i'w adrodd ynghylch y Cyngor Iechyd Cymuned na Gorwelion. Mae Ysgol Craig yr Wylfa yn mynd i fabwysiadu anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol.
Canmolodd y Cyng. Pryce Jones yr achubwyr bywyd am eu gwaith rhagorol yn hysbysu perchnogion cŵn ynglŷn â'r gwaharddiad ar gŵn.
Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Morris ynglŷn â Biosffer Dyfi. Gofynnodd am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r Biosffer i'w rhoi ar Facebook er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch y dynodiad.
Soniodd y Cyng. Jones am holiadur ar wasanaethau fferyllol yn y sir. Soniodd yn gryno am gyfarfod diweddar Grŵp Iechyd a Gofal y Borth y bu'n bresennol ynddo. Soniodd y Cyng. Jones bod angen tocio o gwmpas y ffens fetel ar waelod y clogwyn. Dywedodd y Cyng. Griffiths y byddai ei mab yn gwneud y gwaith. Cyfeiriodd y Cyng. Jones at ddigwyddiad ar drên pan aeth teithwyr ati gam-drin teithiwr arall yn hiliol ar ôl iddynt gamu ar y trên yng ngorsaf y Borth.
Hysbysodd y Cyng. Davies yr Aelodau fod y Neuadd Gymunedol wedi ailagor bellach ac y cafwyd digwyddiad yng Nglanwern pan darwyd ci gan gar a bu farw.
Mae'r Cyng. Griffiths wedi cael sgwrs â PC Westbury ynglŷn â goryrru yn y pentref. Cafwyd llawer o gwynion ynghylch y sbwriel y tu allan i'r Surrey Café a chŵn ar y traeth.
Awgrymodd y Cyng. Hughes y dylid cael cyfarfod anffurfiol ym mis Awst i roi cynnig ar gadw pellter cymdeithasol er mwyn ailgychwyn y cyfarfodydd wyneb yn wyneb ym mis Medi.
Gofynnwyd i'r Clerc anfon llythyr at Hwb Cymunedol y Borth i'w llongyfarch ar sicrhau arian yn loteri dros gyfnod o dair blynedd.
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
62. Ni chafwyd dim adroddiad am Cofid. Hysbysodd y Cyng. Quant yr Aelodau fod Cyngor Sir Ceredigion yn defnyddio'r maes parcio gyferbyn â Brynowen i storio cerrig i'w defnyddio i atgyweirio ffyrdd. Yn gyfnewid am hyn, byddai'r Cyngor yn llenwi'r tyllau yn y maes parcio ei hun. Cynhelir cyfarfod PACT ar yr 17eg o Fehefin. Cynhelir cyfarfod i drafod Cam 3 Cynllun Amddiffyn yr Arfordir yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn ar yr 17eg o Fehefin. Dywedodd y Cyng. Quant fod cyfrifon Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth wedi'u cymeradwyo ac y bydd yr arian grant yn cael ei ddefnyddio i wneud gwelliannau ac, o bosib, i uwchraddio'r system wresogi. Bydd Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth yn cynnal ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar yr 8fed o Orffennaf.
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
63. Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 9.12pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, y 5ed o Orffennaf 2021 fydd cyflwyniad am Fand Eang Ffeibr Llawn, Meinciau, y Parc Cychod a Chadw Pellter Cymdeithasol ar Stryd Fawrth y Borth. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu unrhyw eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.
- Hits: 1201