• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Medi 2021

 

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL NOS LUN, Y 6ED O FEDI 2021 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:         Cadeirydd:         H Hughes        
                                                            C Bainbridge                                                                                                                                                               R Dalton
                                                            R Davies
                                                            M Griffiths
                                                            J James                                                                                                                                                                          G B Jones
                                                            A J Morris
                                                            D Pryce Jones                                                  
                                                            D Tweedy                                                                                                        
Yn bresennol:   Cynghorydd Sir:R P Quant
                                          Clerc:       M Walker            
                                                             4 aelod o'r cyhoedd.

YMDDIHEURIADAU

 97. Y Cyng. A Thomas.

CYFRANOGIAD Y CYHOEDD

 98.  Dim.

DATGAN BUDDIANNAU

  1. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

100. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar y 5ed o Orffennaf 2021. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Bryn Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau i gyd o blaid y cynnig.

MATERION YN CODI

  1. Dim.

GOHEBIAETH

102.  Y Coronafeirws.  Diweddariadau rheolaidd gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

103.  Un Llais Cymru.

Ymgyrch Pont Llundain/Operation London Bridge.

Taflenni'r Cyngor Iechyd Cymuned a dolen i'w gwefan.

Cynulliad haf Rhwydwaith Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned Cymru.

Manylion cais Cyngor Cymuned Llanbadarn am statws Maes Pentref. 

Rhaglen Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan

Gweminar Llefydd Lleol ar gyfer Natur.

Cynhadledd Arfer Arloesol Un Llais Cymru, yr 22ain o Fedi dros Zoom.

Cais am enghreifftiau o arferion/mentrau da gan Gynghorau Tref a Chymuned o ran sbwriel a baw chŵn.  

Llefydd Lleol ar gyfer Natur: Rhaglen Grant Chwalu Rhwystrau.

Manylion sesiynau hyfforddi o bell a gynhelir ym misoedd Gorffennaf, Awst a Medi.

Y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf gan Cymorth Cynllunio Cymru.

Mae grŵp rhwydweithio newydd yn cael ei greu i drafod materion amgylcheddol.

Mae Un Llais Cymru yn cynnig oddeutu 23 o fodiwlau hyfforddi yn rhan o'i rhaglen hyfforddiant i Gynghorwyr, ac maent yn awyddus i recriwtio llawer o hyfforddwyr cyswllt ychwanegol.

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn awyddus i benodi Dirprwy Glerc/Clerc dan Hyfforddiant.

Gweminar byw: Rhan 2 - Eich Tref, Eich Dyfodol - Adfywio Canol Trefi.

Sefydlu Oergell Gymunedol.

Cylchlythyr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, Gorff. 2021.

Manylion y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Cyngor Cymuned Llanfihangel Rhos-y-corn - Lle gwag.

Y 3ydd diweddariad i'r canllaw sy'n ymwneud â chymryd rhan yn Ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, yr 2il o Fehefin 2022.

Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio a'i flaenoriaethau ar gyfer y chweched Senedd.

Cylchlythyr Gorffennaf 2021.

Galwad ar gymunedau yng Nghymru i fynegi diddordeb mewn gwella llwybrau a natur lleol.

Trywydd y Sector Cyhoeddus - cydweithio tuag at sicrhau bod y sector cyhoeddus yn sero net erbyn 2030.

Nodiadau briffio i gefnogi Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy'n ymwneud â chynnal cyfarfodydd ar draws llawer o leoliadau.

Bwletin mis Awst.

Ymunwch â Derek Brockway a Chymdeithas y Cerddwyr Cymru ar gyfer lansiad llyfr a thaith gerdded arbennig a fydd yn mynd â phobl drwy Fro Morgannwg ar y 14eg o Awst.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i benodi Swyddog Ystadegol.

Canllawiau a ddiweddarwyd i gefnogi Cod Ymddygiad Enghreifftiol 2016.

Cynhadledd Arfer Arloesol - ddydd Mercher, yr 22ain o Fedi.

Manylion Gweminarau Un Llais Cymru a Chadwch Gymru'n Daclus a gynhelir yn rhad ac am ddim.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - datganiad taliadau i aelodau ar gyfer 2020 - 2021.

Meysydd chwarae a mannau chwarae awyr agored i blant: canllawiau sy'n ymwneud â'r coronafeirws.

Twyll BT.

Ymgynghoriad ar drethi lleol ar ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar.

Gwahoddiad i gadw lle yn y Gynhadledd Economi Sylfaenol.

Sicrhau Llesiant ag Economeg Toesen/Delivering Well-being with Donut Economics.

Ymateb Un Llais Cymru i ymgynghoriad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar yr Adolygiad ar Fframwaith Cydnabyddiaethau Ariannol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.

Cylchlythyr Ein Llwybrau Byw.

Cyhoeddiad olaf Cymru'n Cofio.

Bydd y Cyngor yn cefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys ar y 9fed o Fedi.

Diweddariad mis Awst i'r canllaw sy'n ymwneud â chymryd rhan yn Ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines a gynhelir ar yr 2il o Fehefin 2022.

Gwella gwasanaethau iechyd yn eich ardal.

Cylchlythyr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, Awst. 2021.

Swydd wag: Clerc/Swyddog Ariannol Cyfrifol, Cyngor Cymuned Llanon.

Codi Rhagor o Gartrefi Carbon Isel.

Llunio Dyfodol Cymru: Defnyddio cerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd ein cenedl.

Holiadur Proses Sicrwydd Rheoli Asbestos Sector Cyhoeddus Cymru (WAMAP).

Diweddariad pwysig - newidiadau i system y Gwasanaeth Mapio Gwybodaeth Electronig.

Starting from scratch, Ceredigion resident gains confidence and lands his first ever job.

104.  Llywodraeth Cymru.

Yr ymgynghoriadau diweddaraf.

Gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau i'w hystyried ar gyfer Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2022.

Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru (YGLlC), Archwiliad Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig (UKWAS). Gan gychwyn ar yr wythnos y 9fed o Awst, bydd Cymdeithas y Pridd yn cynnal archwiliad ar Gyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Safonau Sicrwydd Coetiroedd y Deyrnas Unedig.

Adolygiad ar y Fframwaith Cydnabyddiaethau Ariannol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.

Ystyried ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - 'Cynnig i ostwng y terfyn cyflymder ar strydoedd preswyl i 20mya'.

Dogfennau ymgynghori ar Reolau Drafft Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Drafft Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021.

105.  Cyngor Sir Ceredigion.

Her Ddarllen yr Haf 2021.

Cefnogi preswylwyr Ceredigion i ddychwelyd i'r gweithle.

Climate Cymru.

Cyfleoedd i gerdded, beicio a marchogaeth yng Ngheredigion.

Awdurdodau Lleol yn dod ynghyd i gael rhagor o rieni maeth yng Nghymru.

Bydd Ras Feicio Tour of Britain yn teithio drwy'r Borth ar yr 8fed o Fedi.

Y Cyngor yn annog busnesau i baratoi at newidiadau mawr o ran labelu bwyd.

Cymunedau dros Waith a Mwy yn helpu preswylydd i ddychwelyd i'r gweithle ar ôl iddo golli'i swydd.

Mae angen syniadau arloesol er mwyn creu arfordir Bae Ceredigion cryfach.

Ymgyrch 'Eich Ci, Eich Cyfrifoldeb'

Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn dychwelyd.

Bydd y cyfleusterau hamdden yn ailagor yn yr hydref.

Bydd Amgueddfa Ceredigion yn agor ei drysau unwaith eto gydag arddangosfa newydd.

Bydd amgueddfeydd yn agor yn llawn.

Cau ffyrdd: 8 Medi 2021 - Ras Feicio Tour of Britain, Cymal 4, Ceredigion.

Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ceredigion ar ganlyniadau eu harholiadau.

Lefel Rhybudd 0 - Beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau a phreswylwyr Ceredigion, ac ymwelwyr â'r sir.

Mae'r gwaith ar fodel gwledig ar ofal a thai gwledig yn parhau.

Cynllun Datblygu Gweithgaredd Corfforol.

Asesiad Llesiant Lleol Ceredigion.

Dweud eich dweud ar sut y daw Ceredigion yn Sir Fwy Actif yn Gorfforol.

Y Cyngor yn annog preswylwyr i gael y cymorth a'r gefnogaeth ariannol y mae eu hangen arnynt.

Y lefel uchaf o achosion o'r coronafeirws ers mis Ionawr.

Bydd Ceredigion yn rhan o'r gwaith i gartrefu ffoaduriaid o Affganistan a gyflogwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Asesiad Gweithgarwch Ymgysylltu Llesiant Lleol - Gogledd Ceredigion.

Bydd preswylwyr Ceredigion yn cael cyfle i fynegi barn am lwybrau cerdded a beicio'r dyfodol.

106.  Ecodyfi.  Manylion Gŵyl Goed, digwyddiad atgyweirio, pori yn ein coetiroedd brodorol a digwyddiad hinsawdd.

107.  Versus Arthritis.  Diweddariadau ynglŷn â Versus Arthritis a'r gwaith y mae'r sefydliad hwnnw'n ei wneud yng Ngheredigion.

108.  Cloudy IT.  Cynhadledd fechan - Canllaw i ddarlledu cyfarfodydd cynghorau.

109.  Ecodyfi.  Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Biosffer Dyfi ar yr 22ain o Orffennaf. Daeth cylchlythyr Newid Hinsawdd Machynlleth i law hefyd.

110.  Mynediad i'r traeth i bobl anabl .  Llythyr dilynol sy'n gofyn a ystyriwyd cais am fynediad i'r traeth i bobl anabl ym mhen gogleddol y pentref. Gofynnwyd i'r Clerc ateb yr e-bost gan gadarnhau bod yr ymholiad wedi'i drosglwyddo i Gyngor Sir Ceredigion.

111.  Came & Co.  Neges oddi wrth gwmni yswiriant y Cyngor i'n hatgoffa bod angen adnewyddu'r polisi presennol yn fuan.

112.  Network Rail.  Cais i gerdded ar hyd ffin y rheilffordd ar draws tir Cyngor Cymuned y Borth er mwyn cynnal arolygon ecolegol.

113.  Clymog Japan.   E-bost sy'n sôn bod llawer iawn o glymog Japan yn tyfu ar hyd y llwybr cerdded cŵn. Gofynnwyd i'r Clerc gysylltu â Rachel Mills yng Nghyngor Sir Ceredigion.

114.  Pine Centre.  E-bost sy'n hysbysu'r Cyngor bod y perchennog newydd yn bwriadu gwneud newidiadau i'r siop.

115.  Borth 2030.  Dogfen derfynol Cam 1 sy'n amlinellu cyfeiriad strategol a gweledigaeth hirdymor i'r pentref.

116.  Came & Co.  Cylchlythyr mis Awst.

117.  ElanCity.  Gohebiaeth oddi wrth y cwmni sy'n arbenigo mewn rheoli traffig a systemau cyfathrebu cyhoeddus.

118.  Elusennau 'Get to Know Ronald McDonald House'.  Cais oddi wrth berson lleol sy'n codi arian i godi ymwybyddiaeth ynghylch ei elusen yn yr ardal leol.

119.  Ffilm 'Borth Begins'.  Bydd y ffilm yn cael ei dangos ddydd Sadwrn, y 25ain o Fedi.

120.  Ben Lake AS.  Holiadur sy'n ymwneud â chyfrifon a gwasanaethau Banciau Cymunedol.

121.  HSBC.  Manylion newidiadau i'r Cyfrif Banc Cymunedol a ddaw i rym ar y 1af o Dachwedd 2021 a'r ffioedd arfaethedig.

122.  Clwb Pêl-droed Unedig y Borth.  Cais am £1500 tuag at waith cynnal a chadw ar Gaeau Chwarae Uppingham.  Cynigiodd y Cyng. Hughes fod y Clerc yn ysgrifennu at drysorydd Clwb Pêl-droed Unedig y Borth i ofyn am gopi o'u cyfrifon archwiliedig a chopi o anfoneb oddi wrth Rob Griffiths am dorri'r borfa. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Griffiths. Pleidleisiodd yr Aelodau i gyd o blaid y cynnig.

123. Gofal Cardi Care.  Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn awyddus i gynnal prosiect gwydnwch cymunedol a fydd yn treialu'r pecyn Gofal Solfach mewn cymuned arfordirol yng Ngheredigion, ac mae'r Borth wedi'i henwi'n un o'r pedair cymuned bosib yng Ngheredigion lle gellid cynnal y prosiect, a hynny am fod ei demograffeg yn debyg i ddemograffeg Solfach.

CYFRIFON

  1. Gweddill y Cyfrifon ar y 13eg o Awst 2021
        Nationwide                                                                                   30229.71
        Cyfrif Cymunedol                                                                         20894.54
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                                             18836.00
        Cyfrif Adnau                                                                                       3749.19
 
  1. Incwm

        Praesept Cyngor Sir Ceredigion – 2il daliad                                       6682.50

  1. Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:

       Redlynch Leisure Installations Ltd – cyfarpar i’r maes chwarae         11977.20

       J H Matthews – archwiliad mewnol 2020/21                                         100.00

       G E Davies – tywod a phaent – sedd goffa                                              50.00

       Cyfoeth Naturiol Cymru – ardrethi draenio                                           290.88

       M Walker-cyflog £1044.20, costau swyddfa £27.90                            1072.10

       Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Gorffennaf                              91.80

Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.

CYNLLUNIO

  1. A210580. Addasu'r atig a chreu to ar oledd â goleuadau to. Tynnu'r heulfan bresennol i lawr a chodi feranda a chyntedd newydd. Rocklands, Cliff Drive, y Borth. Datganodd y Cynghorwyr Hugh Hughes, Bryn Jones

a Delyth Pryce Jones fuddiant wrth y Clerc yn ysgrifenedig. Er bod adeiladau sydd â mwy nag un llawr i'w cael rhwng Francis Road a'r ffordd i fyny tuag at y Gofeb Ryfel, byngalos glan môr isel a geir ar y cyfan yn yr ardal hon. Bydd lleoliad a maint y cais hwn yn amharu ar gymeriad yr ardal yn sylweddol. Gwendid arall y cais yw y bydd yn tra-awdurdodi dros Sandymount a leolir islaw, nesaf at ben gogleddol/gogledd-ddwyreiniol Rocklands.

A210650.  Estyniad llawr cyntaf ac estyniad un llawr a fydd yn disodli'r estyniad llawr cyntaf presennol. Mor Lan, Stryd Fawr, y Borth. Ni chafwyd dim sylwadau ac ni wrthwynebodd neb.

A210745.  Y bwriad i newid annedd bresennol a chodi estyniad iddi.  34, Cae Gwylan, y Borth. Ni chafwyd dim sylwadau ac ni wrthwynebodd neb.

MEINCIAU

  1. Mae'r mater yn parhau.

Y PARC CYCHOD

  1. Bydd y Clerc yn anfon holl fanylion y cychod sydd wedi'u cofrestru hyd yma at y Cyng. Hughes.

CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR STRYD FAWR Y BORTH

  1. Does dim i'w adrodd.

MATERION Y CADEIRYDD

 131.  Soniodd y Cyng. Hughes am ddwy gadair olwyn ger gorsaf Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a ddarparwyd drwy garedigrwydd Cyngor Sir Ceredigion am rai wythnosau. Nid oedd dim i'w adrodd ynghylch y posibilrwydd o gael band eang cyflym iawn i'r pentref. Roedd angen padiau newydd ar y ddau ddiffibriliwr, a'r gost oedd £89.00 am becyn o ddau bad. Cynigiodd y Cyng. Jones y dylid prynu'r padiau, yr eilydd oedd y Cyng. Griffiths a phleidleisiodd yr Aelodau i gyd o blaid y cynnig. Dywedodd y Cyng. Griffiths y byddai'n prynu pad ar gyfer un o'r diffibrilwyr. Achubodd y Cyng. Hughes ar y cyfle i ddiolch i'r Cyng. Quant am drefnu bod y Neuadd Gymunedol ar gael i'w defnyddio ar gyfer y rhai y bu'n rhai iddynt adael eu cartrefi yn ystod y tân ar y 3ydd o Fedi, ac i bawb a fu'n cynorthwyo y noson honno, yn arbennig y ddwy ferch ifanc a gynhigiodd helpu.

Roedd cefnogaeth y gymuned yn anhygoel. Mae'r Cyng. Hughes yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ynghylch yr angen am larymau tân dros yr ychydig fisoedd nesaf.

CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR

 132.  Bydd y Cyng. Bainbridge yn tynnu'r holl arwyddion sy'n ymwneud â'r coronafeirws i lawr yn y maes chwarae. Mae Hwb Cymunedol y Borth wedi cynnal sawl cwrs llwyddiannus yr haf hwn. Roedd y Cyng. Bainbridge yn fodlon iawn â llwyddiant digwyddiadau'r carnifal, a diolchodd i'r Cyng. Tweedy am gynorthwyo â'r Ŵyl Sialc ac i'r Cyng. Quant am ei gymorth a'i gyngor. Mae'n poeni am y sianel eang sydd ar y ffordd o dan bont Dôl-y-bont. Fodd bynnag, cadarnhaodd y Cyng. Quant bod llinellau gwynion wedi'u gosod ar y ffordd.

Roedd y Cyng. Jones yn ddiolchgar i Gyngor Sir Ceredigion am ddarparu cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth, a gobeithiodd y byddent ar gael y flwyddyn nesaf am gyfnod hwy. Rhoddodd ddiweddariad byr ynglŷn â Grŵp Iechyd a Gofal y Borth i'r Aelodau hynny nad oeddent yn bresennol yn y digwyddiad wyneb yn wyneb a gynhaliwyd yn y Neuadd Gymunedol.

Mae'r Cyng. Pryce Jones wedi mynd â llythyr at yr achubwyr bywyd i ddiolch iddynt am eu gwaith rhagorol ac am sicrhau bod perchnogion cŵn yn gwybod am y gwaharddiad cŵn ar y traeth.

Diolchodd y Cyng. Tweedy i bawb a fu'n rhan o'r Ŵyl Sialc ac a fu'n ei chefnogi.

Mae'r Cyng. Morris yn poeni am y ffordd ger yr Animalarium sydd wedi culhau'n fawr yn ddiweddar am fod cyrs wedi tyfu'n drwch ger y ffordd.

Hysbysodd y Cyng. Davies yr Aelodau fod y gwaith ar brosiect Borth 2030 yn dal i fynd rhagddo.

Mae llawer o gymdogion y Cyng. Dalton wedi dod ati i fynegi pryderon ynglŷn â'r ffaith bod y wal i'r cefn o Frynheulog wedi'i thynnu i lawr. Nodwyd i'r wal honno gael ei chodi'n wreiddiol i amddiffyn yr arfordir ymhell cyn codi'r eiddo o'i blaen. Cynigiodd y Cyng. Hughes bod Cyngor Cymuned y Borth yn ysgrifennu llythyr at Gyngor Sir Ceredigion ac at Gyfoeth Naturiol Cymru, gan mai mater iddynt hwy oedd hwn. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Griffiths. Cytunodd y Clerc i drefnu ei bod yn cwrdd â'r Cynghorwyr Dalton a Griffiths i fynd i gael golwg ar gefn yr eiddo.

 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR

 133. Rhoddodd y Cyng. Quant ddiweddariad byr ynglŷn â sefyllfa'r coronafeirws hyd at yr 31ain o Awst pan gafodd ei friffio ddiwethaf. Mae'r prif faes parcio gyferbyn â Brynowen wedi'i ddefnyddio'n ddiweddar i storio cerrig, ac mae rhai o'r cerrig hyn wedi'u defnyddio i lenwi'r tyllau yn y ffyrdd. Gofynnodd i'r Aelodau gwblhau'r arolwg sy'n ymwneud â'r cynigion i ostwng y terfyn cyflymder i 20m.y.a. ar strydoedd preswyl. Cynhelir cyfarfod nesaf PACT ar ddydd Iau, 16 Medi. Cyfeiriodd y Cyng. Quant at Gofnod 110 ac awgrymodd mai'r lle gorau i bobl anabl gael mynediad i'r traeth fyddai gyferbyn â Benfleet. Mae'r rhwystrau i faes parcio'r Clwb Golff wedi'u codi. Ni fydd Wardeniaid Traffig yn ymweld yn rheolaidd â'r Borth. Hysbysodd y Cyng. Quant yr Aelodau y byddai BBC Wales yn cyfweld â Mr James Davies gan mai ef gysylltodd â'r gwasanaethau brys i'w hysbysu ynglŷn â'r tân diweddar yn y Borth.

Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA

 134.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 9.25pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf nos Lun, y 4ydd o Hydref 2021 fydd Meinciau, y Parc Cychod a Chyfarfodydd Wyneb yn Wyneb.  Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.                                                                                        

  • Hits: 985