• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Gorffennaf 2021

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, Y 5ED O ORFFENNAF 2021 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:   Cadeirydd:                     H Hughes
                                                                  C Bainbridge
                                                                  R Dalton
                                                                  M Griffiths
                                                                  G B Jones
                                                                  A J Morris
                                                                  D Pryce Jones
                                                                  A Thomas
                                                                  D Tweedy
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:      R P Quant
                                         Clerc:            M Walker            
                                                                 3 aelod o'r cyhoedd. 

YMDDIHEURIADAU

 64. Y Cynghorwyr R Davies a J James.

CYFLWYNIAD AM FAND EANG FFEIBR LLAWN

 65.  Cyflwynodd Mr Ellis o Broadway Partners (darparwr gwasanaethau rhyngrwyd lleol) ef ei hun i aelodau'r Cyngor. Esboniodd fod y cwmni yn cyflwyno band eang cyflym iawn yn yr ardal a bod ganddo £210 miliwn i wella band eang mewn ardaloedd gwledig. Ategodd fod Llywodraeth Cymru yn darparu arian cyfatebol. Mae'r cwmni ar hyn o bryd mewn trafodaethau â chynghorau lleol er mwyn hyrwyddo'r syniad fel prosiect a fydd yn cael ei arwain gan y gymuned. Bydd y prosiect o fudd i'r gymuned gyfan a bydd yn trawsnewid cysylltedd mewn ardaloedd gwledig yn llwyr. Er mwyn bwrw 'mlaen â'r fenter, gofynnodd Mr Ellis i'r Cyngor am ei gefnogaeth. Cynigiodd y Cyng. Hughes fod y Cyngor yn cefnogi'r fenter mewn egwyddor, ac eiliwyd hyn gan y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd yr Aelod yn unfrydol o blaid y cynnig.

CYFRANOGIAD Y CYHOEDD

 66.  Gofynnodd Mrs Andrea Hughes pryd y byddai'r llinellau melyn rhwng adeilad Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a Cliff Road yn dychwelyd ar ôl y gwaith ffordd diweddar. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n ymchwilio i'r mater.

DATGAN BUDDIANNAU

  1. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

68. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar y 7fed o Fehefin 2021. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.

MATERION YN CODI

  1. Cofnod 48. Cafwyd pryderon ynglŷn â'r nifer o geir sy'n parcio ar y llinellau melyn dwbl ac ar balmentydd yn ogystal â cheir sy'n anwybyddu'r rheolau'n llwyr. Cytunwyd y byddai presenoldeb warden traffig o fudd i'r pentref. Bydd y Cyng. Quant yn ymchwilio i hyn. 

GOHEBIAETH

70.  Y Coronafeirws.  Diweddariadau rheolaidd gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

71.  Un Llais Cymru a Llywodraeth Cymru.  Mae'r holl ohebiaeth a ddaeth i law yn ystod y mis wedi'i hanfon at bob Cynghorydd dros e-bost. 

72.  Gwelyau blodau.  Y diweddaraf ynglŷn â phlannu'r gwelyau blodau ym mhen gogleddol y pentref a chais am ddau gan dŵr. Dywedodd y Cyng. Griffiths fod ganddi hi ganiau dŵr y bydd yn eu rhoi i helpu â'r gwaith hwn. Hefyd, cais oddi wrth Helen Williams a'i theulu am £20 ar gyfer planhigion i'r gwely blodau y maen nhw'n gyfrifol amdano. Cynigiodd y Cyng.

Hughes fod y Cyngor yn cyfrannu £20 tuag at gynnal a chadw'r gwely blodau. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Pryce Jones a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o'i blaid.

73.  Gwelyau blodau.  E-bost oddi wrth Hwb Cymunedol y Borth sy'n awgrymu cael tap allanol ym mhen deheuol y pentref er mwyn dyfrhau'r blodau sydd wedi'u plannu. Cynigiodd y Cyng. Pryce Jones fod Cyngor Cymuned y Borth yn gofyn i Gyngor Sir Ceredigion am dap dŵr allanol sy'n diffodd yn awtomatig fel nad yw dŵr yn cael ei wastraffu. Dewis arall fyddai cael casgen ddŵr. Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cyng. Jones a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o'i blaid. 

74.  Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw (yr RNID).  Hysbyseb sy'n gofyn i wirfoddolwyr ddod yn gyfaill i rywun.

75.  Maes Parcio'r Clwb Golff.  Llythyr sy'n sôn am sbwriel a diffyg biniau a thai bach ar y safle.

76.  Cynllun Plannu a Thyfu Hygyrch i'r Gymuned.  Llythyr sy'n gofyn am fanylion cyswllt er mwyn cael caniatâd i ddatblygu mannau gwyrdd cymunedol yn y Borth ar y cyd ag aelodau o'r gymuned a Gerddi Cymunedol y Borth.  Gofynnwyd i'r Clerc anfon llythyr i gefnogi'r syniad.

77.  Rhoddion ariannol.  Cais am rodd ariannol oddi wrth Gyngor yr Henoed Ceredigion.

78.  Un Llais Cymru.  Manylion ymgynghoriad ar gymwysterau Clercod yn Rheoliadau Cymru.

79.  Chwarae Cymru.   Rhifyn mis Mehefin 2021 o'u cyhoeddiad.

80.  ROSPA.  Adroddiad sy'n deillio o'r archwiliad blynyddol ar y maes chwarae.

81.  Bro360.  Gwybodaeth am sut i ddathlu'r gymuned drwy ddod â phobl ynghyd am y tro cyntaf mewn dros flwyddyn.

82.  Cered.  Gwybodaeth am waith y sefydliad a pha gyngor technegol y gall Cered ei roi ar gyfer gweithgareddau rhithwir neu weithgareddau dwyieithog rhithwir neu awyr agored.

83.  Y maes parcio gyferbyn â Brynowen.  Mae'r Cyngor wedi cael e-bost oddi wrth berchennog It's a Gift sy'n nodi bod arwydd alwminiwm newydd wedi'i gosod ar y gât. Ar yr arwydd mae rhif ffôn un o'u gweithwyr. Mae'r Cyng. Hughes bellach wedi cuddio'r rhif ffôn gan mai hwn oedd rhif un o gyn-gynghorwyr Cyngor Cymuned y Borth.

84.  Gorsaf Reilffordd y Borth.  Llythyr ynghyd â thystiolaeth ffotograffig sy'n gofyn i'r Cyngor gysylltu â Chyngor Sir Ceredigion, Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru i gymryd camau i wella golwg yr orsaf. Mae'r Cyng. Quant wedi gofyn i'r pryderon hyn gael eu codi mewn cyfarfod ar yr 16eg o Orffennaf, a chadarnhaodd fod archwiliad ar orsafoedd trenau yn un o'r eitemau ar agenda'r cyfarfod hwnnw.

85.  Scottish Power.  Manylion gwaith cynnal a chadw arfaethedig ar y llinell uwchddaearol presennol sydd ar dir Cyngor Cymuned y Borth i'r de o Ynys Fergi. Cynigiodd y Cyng. Morris fod y Cyngor yn llofnodi'r cytundeb. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Jones a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o'i blaid.

CYFRIFON

  1. Balans y cyfrifon ar 13 Mehefin 2021

      Nationwide                                                                         30229.71

      Cyfrif Cymunedol                                                               15528.23

      Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                                 18836.00

      Cyfrif Adnau                                                                             3749.19

 

  1. Incwm

      Cyfrif Adnau – llog gros hyd 3 Mehefin                                        0.09

      Cyfrif Busnes Dim Rhybudd – Ad-daliad TAW Cyllid a Thollau

                                                                        Ei Mawrhydi       3494.01

      Cyfrif Busnes Dim Rhybudd – llog gros hyd 3 Mehefin                 0.40

  1. Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:

      Playsafety Limited – adroddiad am y maes chwarae                  107.40

      Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi – Cynllun Talu Wrth Ennill

Ebrill, Mai a Mehefin                                                       391.40

      M Walker – cyflog y Clerc £522.00, costau swyddfa £9.99       531.99          

      Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Mehefin                       88.65

      Helen Williams – planhigion                                                     20.00

Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Pryce Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.

CYNLLUNIO

  1. Nid oedd dim materion cynllunio i’w trafod.

MEINCIAU

  1. Mae Mr Glyn wedi cytuno i baentio'r fainc olaf ar y prom. Hoffai'r Cyngor ddiolch i Mr Rob Hunt am atgyweirio'r meinciau yn yr ardal bicnic ger y maes chwarae yn rhad ac am ddim.

Y PARC CYCHOD

  1. Soniodd y Cyng. Hughes yn fyr am ei gyfarfod â'r Cynghorwyr Bainbridge, Dalton a Pryce Jones yn y parc cychod.

CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR STRYD FAWR Y BORTH

  1. Mae llawer o’r arwyddion sy'n atgoffa'r cyhoedd i lynu wrth y rheol 2 fetr wedi'u tynnu i lawr. Mae'r Cyng. Hughes wedi archwilio pob arwyddo ar hyd y prom. Mae'n awgrymu y dylid cael arwyddion newydd i atgoffa beicwyr ynglŷn â'r rheol dim beicio ar hyd y morglawdd, ac arwyddion i atgoffa ynglŷn â'r angen i gadw cŵn ar dennyn a DIM CŴN ar y traeth rhwng Mai a Medi. Gofynnodd y Cyng. Hughes i'r Clerc neilltuo eitem ar agenda cyfarfod mis Tachwedd i drafod arwyddion.

MATERION Y CADEIRYDD

 93.  Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Hughes ynglŷn ag ymweliad safle y bu ef a'r Cyng. Morris yn bresennol ynddo i drafod prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru sy'n dangos y gwaith adfer sydd wedi digwydd hyd yma. Mae coed sy'n tyfu dros y ffordd rhwng Llandre a'r Borth yn achosi problemau. Mae'r Cyng. Hughes wedi cael cwyn ynglŷn â chyflwr y maes parcio gyferbyn â Brynowen.

Roedd y Cyng. Dalton wedi ymweld â'r safle a chliriodd y gwydr, y poteli a'r llestri a oedd wedi malu a'u lluchio yn y maes parcio. Mae'r Cyng. Hughes wedi cael sylwadau cadarnhaol iawn ynglŷn â'r cyfarpar newydd yn y maes chwarae a diolchodd i'r Cyng. Bainbridge am ei holl waith.

CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR

 94.  Soniodd y Cyng. Bainbridge am adroddiad diweddar a luniwyd yn sgil archwiliad ROSPA ar y maes chwarae. Mae angen mân waith atgyweirio. Mae pwyllgor y carnifal wedi penderfynu peidio â chynnal gorymdaith eleni. Serch hynny, byddant yn trefnu rhai digwyddiadau. Dywedodd y Cyng. Bainbridge ei fod wedi cyflwyno cais i Gyngor Sir Ceredigion sy'n cynnwys manylion y digwyddiadau arfaethedig, ac ategodd ei fod yn cael peth trafferthion. Cynigiodd y Cyng. Hughes y dylai Cyngor Cymuned y Borth ysgrifennu llythyr at Gyngor Sir Ceredigion i gefnogi'r digwyddiadau arfaethedig sy'n ymwneud â'r carnifal. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Pryce Jones a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o'i blaid.

Dywedodd y Cyng. Dalton fod preswylwyr lleol yn poeni am y nifer o gŵn sydd ar y traeth, er bod cŵn wedi'u gwahardd yno.

Soniodd y Cyng. Jones am yr arwyddion parcio sydd i'w gweld ym maes parcio It's a Gift. Gofynnodd a allai Cyngor Cymuned y Borth gael cadair olwyn sy'n addas i'r traeth. Hysbysodd y Cyng. Quant yr Aelodau ei fod wedi gofyn i Gyngor Sir Ceredigion am un. Cafwyd diweddariad byr y Cyng. Jones am gyfarfod Grŵp Iechyd a Gofal y Borth. Fe'i hetholwyd yn Gadeirydd ar y grŵp.

Roedd y Cyng. Griffiths wedi gwylio perfformiad gan Arad Goch ar y prom ar y 5ed o Orffennaf.

Ymddiheurodd y Cyng. Thomas am ymuno â'r cyfarfod yn hwyr. Hysbysodd bawb fod mainc wedi torri gerllaw adeilad yr hen Ganolfan Dwristiaeth.

ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR

 95.  Darllenodd y Cyng. Quant e-byst ynglŷn â'r digwyddiadau arfaethedig sy'n ymwneud â'r carnifal. Mae wedi cael cwyn ynglŷn â'r parth diogel y tu allan i'r fferyllfa. Bydd Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth yn cwrdd ar yr 8fed o Orffennaf. Mae'r archwiliad ar yr arwyddion yn cael sylw ar hyn o bryd. Hysbysodd y Cyng. Quant yr Aelodau fod pecynnau clirio olew sydd wedi'i ollwng ar gael oddi wrth y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn rhad ac am ddim, ac ategodd y byddai'n codi un o'r pecynnau hyn ar ran y Cyngor. Soniodd y Cyng. Quant am e-bost a ddaeth i law oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion a ymatebai i gwynion diweddar ynglŷn â maes parcio'r Clwb Golff yn Ynyslas, a gofynnodd i'r Clerc am y llythyr y cyfeiriwyd ato yng Nghofnod 75.

Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA

 96.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 9.50pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, y 6 Medi 2021 fydd Meinciau, y Parc Cychod a Chadw Pellter Cymdeithasol ar hyd Stryd Fawr y Borth. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda. Bydd yr Aelodau yn penderfynu ym mis Awst a fydd y cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ailgychwyn yn y Neuadd Gymunedol fis Medi. Os nad yw hyn yn bosib, bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen i'r cyfarfod o bell ymlaen llaw.

  • Hits: 897