Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Hydref 2021
COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL DROS ZOOM NOS LUN, Y 4YDD O HYDREF 2021 AM 19.00 O'R GLOCH
Presennol: Cadeirydd: H Hughes
C Bainbridge
R Dalton
R Davies
M Griffiths
G B Jones
A J Morris
D Pryce Jones
D Tweedy
Yn bresennol: Cynghorydd Sir: R P Quant
Clerc: M Walker
3 aelod o'r cyhoedd
YMDDIHEURIADAU
135. Y Cynghorwyr J James ac A Thomas.
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
136. Dim.
DATGAN BUDDIANNAU
- Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
138. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar y 6ed o Fedi. Y cynigydd oedd y Cyng. Griffiths a'r eilydd oedd y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
MATERION YN CODI
- Dim.
GOHEBIAETH
140. Y Coronafeirws. Diweddariadau gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
141. Un Llais Cymru.
Pigion o'r wybodaeth ddiweddaraf - mis Medi.
Cylchlythyr Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Gweminarau gan Un Llais Cymru Gweminar a Chadwch Gymru'n Daclus.
Cynhadledd Dreth Llywodraeth Cymru.
Cadwch Gymru'n Daclus - does dim llawer o amser ar ôl i gael y pecynnau dechreuol.
Facebook Marketplace - Cynnydd yn y nifer o sgamiau sy'n digwydd.
Sesiynau hyfforddi o bell sy'n cael eu cynnal ym mis Medi/Hydref.
Ymgynghoriad agored ar Ganllawiau Arfaethedig "Egwyddorion Gweinyddu Da" a "Rheoli Cofnodion yn Dda".
Croesawu'r cyhoedd i gefn gwlad ac i'r arfordir - arolwg.
Ein Llwybrau Byw.
Uno Dros ein Planed / Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Cyfarfod Rhanbarth Ceredigion - Un Llais Cymru.
Ymgynghoriad ar drethi lleol ar ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar.
Cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol newydd (TAN 15) a Map Llifogydd at ddibenion cynllunio.
Rhwydwaith Canolfannau Cymunedol: Cyfle i ddenu cyllid.
Lansio Gwobrau Ystadau Cymru 2021.
Y canllawiau diweddaraf ar gymryd rhan yn Ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines - yr 2il o Fehefin 2022.
142. Llywodraeth Cymru.
Manylion a dolenni i'r ymgynghoriadau cyfredol.
Bwletin Newid Hinsawdd.
143. Cyngor Sir Ceredigion.
Peidiwch â cholli eich llais – annog trigolion Ceredigion i sicrhau bod eu manylion cofrestru i bleidleisio yn gyfredol.
Cyfle i ddenu cyllid i gefnogi gofalwyr.
Croeso i Geredigion - y 'Tour of Britain'.
Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol lleol dan bwysau sylweddol.
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyrraedd y camau olaf yn ei datblygiad.
Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg 2022-2032.
Lansio'r ymgynghoriad ar Gynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg.
Lansio ymgyrch i gynyddu'r nifer o ofalwyr maeth yng Ngheredigion.
Canlyniad trist yr aflonyddu a fu ar forlo a llo bach ar arfordir Cymru.
Portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyrraedd carreg filltir allweddol
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau amrywiaeth mewn democratiaeth.
Estynnwyd croeso diogel i fyfyrwyr yn ôl i Geredigion.
Cytunwyd ar gynnig i reoli carbon.
Asesiad Llesiant Ceredigion 2021.
Darparu ysbienddrychau er mwyn ceisio lleihau'r nifer o achosion o aflonyddu ar fywyd gwyllt.
Llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Cyfarfod rhwng cynrychiolwyr o'r Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned - y 24ain o Dachwedd, 2021.
144. Comisiwn Ffiniau Cymru. Cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn ar newidiadau cychwynnol arfaethedig i etholaethau Seneddol yng Nghymru.
145. Cloudy IT. Cynhadledd Rithwir a Darlledu Cyfarfodydd eich Cyngor.
146. Gwasanaeth Gwaed Cymru. Bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ymweld â'r Borth rhwng yr 11eg a'r 13eg o Hydref.
147. Cymdeithas yr Iaith. Cais i gefnogi'r alwad ar Lywodraeth Cymru i reoli'r farchnad dai.
148. Calon: Elusen Sgrinio Calonnau a Diffibrilwyr Cymru. Cylchlythyr.
149. Cyfoeth Naturiol Cymru. Gwahoddiad gan Brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru (LIFE) - ddydd Iau, y 7fed o Hydref 2021, 10am tan hanner dydd a 2pm tan 4pm.
150. Bwthyn Bronheulyn. Yn sgil archwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Ceredigion i fur amddiffyn yr arfordir a ddifrodwyd, canfuwyd nad oedd dim cofnod swyddogol o'r mur ac nad oedd yn rhan o gynlluniau amddiffyn yr arfordir 1930 na 1970.
151. Dyddiadau Clinigau'r Ffliw - yr 16eg a'r 30ain o Hydref - diweddariadau a gwybodaeth am bigiadau atgyfnerthu COVID-19.
152. Materion Llifogydd - diweddariadau defnyddiol a phethau i'w cofio i'n helpu ni i ymbaratoi ar gyfer y gaeaf.
153. Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Ymgynghoriad ar yr Adroddiad Blynyddol Drafft - Chwefror 2022.
154. SP Energy Networks - Cynllun Ailadeiladu Llinell Uwchddaearol i'r de o Ynys Fergi.
155. Ecodyfi. Gwybodaeth am ddigwyddiad "Ein Cymuned, Ein Hinsawdd".
156. Diffibriliwr. Cais oddi wrth Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i enwi "Ceidwad" dynodedig ar gyfer pob diffibriliwr.
157. Clwb Pêl-droed Unedig y Borth. Yn sgil cais am gopïau o'r cyfrifon (gweler Cofnod 122), a chopi o'r anfoneb am dorri'r borfa oddi wrth Rob Griffiths. Penderfynodd yr Aelodau gyfrannu £1,500 tuag at y clwb. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Davies. Pleidleisiodd pob aelod yn unfrydol o blaid y cynnig.
158. Came & Co. Mae angen adnewyddu polisi yswiriant y Cyngor. Mae opsiwn unwaith yn rhagor i gychwyn ar gytundeb 3 blynedd arall. Y premiwm ar gyfer y flwyddyn gyntaf yw £1273.01 o'i gymharu â £1337.38 am bolisi blynyddol ar gyfer y flwyddyn sydd ar gychwyn. Cynhigiodd y Cyng. Bainbridge y dylid cychwyn ar gytundeb tymor tir. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Morris a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o'i blaid.
159. Plannu Cymunedol. Mae Martine Ormerod yn bwrw 'mlaen ag ymgynghoriad i drafod y syniad o gynnal gwaith plannu cymunedol yn Heol Aberwennol. Mae'n holi a fyddai'r Cyngor yn barod i gynorthwyo yn hyn o beth drwy gyfrannu £30 tuag at yr ymgynghoriad.
Cytunodd yr Aelodau i gefnogi Martine yn llawn a chynhigiodd y Cyng. Pryce Jones y dylai'r Cyngor gyfrannu £30. Eiliwyd hyn gan y Cyng. Tweedy a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
160. Fforwm Diogelwch Dŵr Ceredigion. Gwybodaeth am y gwaith a wnânt.
161. Senedd Ieuenctid Cymru. Llythyr sy'n esbonio sut i ddod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru.
162. Golygfan dros y Borth. Llythyr sy'n cynnig bod y Cyngor, mewn cydweithrediad â'r awdurdodau priodol (y Llywodraeth, y Cyngor Twristiaeth??), yn ymchwilio i'r posibilrwydd o greu golygfan ar y bryn i'r de o'r Borth er mwyn i bobl stopio ac edmygu'r olygfa dros y Borth a dyffryn Dyfi. Gwirfoddolodd y Cyng. Hughes i siarad â'r tirfeddiannwr, ond nodwyd bod y cais hwn wedi'i wrthod yn y gorffennol.
163. Mynediad i gerddwyr ar hyd Stryd Fawr y Borth. Serch y cyfyngiadau a gyflwynwyd gan Geredigion, nid yw'r sefyllfa barcio ar hyd y stryd fawr wedi gwella rhyw lawer. Yn Aberystwyth, mae'r palmentydd wedi'u lledaenu mewn rhai mannau er mwyn rhoi cyfrif am broblemau fel hyn. Byddai'n dda o beth petai modd lledaenu'r palmant y tu allan i'r siop wyliau er mwyn galluogi cadeiriau olwyn, pramiau a chadeiriau gwthio, plant ar feiciau a'r cyhoedd yn gyffredinol i symud yn hwylus yn y fan hon. Gofynnwyd i'r Clerc ateb y llythyr gan nodi bod Cyngor Cymuned y Borth yn derbyn y pryderon a godwyd ac y bydd yn mynd i'r afael â'r materion hyn â'r awdurdodau.
164. Mainc a gyflwynwyd yn rhodd i Gyngor Cymuned y Borth. Cais oddi wrth deulu i gyflwyno mainc yn rhodd, a'i gosod o bosib ar y Graig, a hynny er cof am eu rhieni a dreuliasent eu gwyliau yn y Borth. Gofynnwyd i'r Clerc awgrymu y gallent fabwysiadu un o feinciau Cyngor Sir Ceredigion ar y prom.
165. Gohebiaeth Arall Clerk & Councils Direct a NBB Outdoors.
CYFRIFON
- Balans y Cyfrifon ar 13 Medi 2021
Nationwide 30229.71
Cyfrif Cymuned 7748.44
Cyfrif Busnes Dim Rhybudd 18836.47
Cyfrif Adnau 3749.28
- Incwm
Cyfrif Busnes Dim Rhybudd – llog gros hyd 2 Medi 0.47
Cyfrif Adnau – llog gros hyd 2 Medi 0.09
Cyfrif Cymunedol – taliad gan y Cyng. Griffiths tuag at
badiau’r diffibriliwr 45.00
- Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi – Cynllun Talu Wrth Ennill
Gorffennaf, Awst, Medi 391.60
H Hughes – padiau’r diffibriliwr 89.93
M Walker-cyflog £522.00, costau swyddfa £9.99 531.99
Heledd Davies – Cyfieithu cofnodion mis Medi 132.10
Came & Company - yswiriant y Cyngor 1273.01
Clwb Pêl-droed y Borth 1500.00
Martine Ormerod – rhodd ariannol 30.00
Y cynigydd oedd y Cyng. Pryce Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Griffiths. Pleidleisiodd yr Aelodau'n unfrydol o blaid y cynnig.
169. Hysbysodd y Clerc yr Aelodau fod hysbysiad a datganiadau cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar yr 31ain o Fawrth 2021 wedi'u cyhoeddi ar y wefan cyn i'r archwiliad ddod i ben yn unol â Rheoliad 15 (5) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014. O ganlyniad i COVID-19, nid yw'r Archwilydd Cyffredinol wedi mynegi barn eto am yr archwiliad.
CYFRIF BANC CYMUNEDOL
- Mae'r Cyng. Dalton wedi gwneud ymholiadau ynghylch newid darparwr y cyfrif banc hwn. Mae'r mater yn parhau.
CYNLLUNIO
171. A210777. Newid defnydd y dderbynfa a'i throi'n fflat un ystafell wely. Grand Hotel, Cambrian Terrace, y Borth, Ceredigion,
Datganodd y Cyng. Morris fuddiant. Ni chafwyd dim sylwadau ac ni wrthwynebodd neb.
MEINCIAU
- Cadarnhaodd y Cyng. Quant fod yr holl feinciau bellach wedi'u paentio.
Y PARC CYCHOD
- Mae'r mater yn parhau.
CYFARFODYDD WYNEB YN WYNEB
- Mae'r Cyng. Hughes yn bwriadu gwneud ymholiadau i wybod beth fyddai cost y cyfarpar y mae ei angen i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
MATERION Y CADEIRYDD
175. Mae'r Cyng. Hughes wedi darllen TAN15 a'r Cynllun Llifogydd sy'n ymwneud â materion cynllunio. Bu'n rhan o'r ymgynghoriad ar drethi lleol ar ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar, ac mae wedi cofrestru fel ceidwad y diffibrilwyr.
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
176. Mae'r Cyng. Dalton wedi symud yr arwyddion cŵn am fod y gwaharddiad ar gŵn bellach wedi'i godi am flwyddyn arall. Rhaid cael baneri newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf, a chynhigiodd y Cyng. Davies y dylid prynu rhai newydd am uchafswm o £300. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig. Hysbysodd y Cyng. Dalton yr Aelodau fod y môr yn erydu'r amddiffynfa fôr gyferbyn â siop Premier.
Dewiswyd y Cyng. Bainbridge i gynrychioli'r Cyngor Iechyd Cymuned ar Grŵp Ymgynghorol Buddiannau Iechyd a Gofal y Borth. Mae Ysgol Craig yr Wylfa yn hysbysebu am aelodau staff newydd ar ôl iddi golli un aelod o'i staff. Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Bainbridge ynglŷn â'r arian a godwyd yn ystod digwyddiadau'r carnifal.
Mae'r Cyng. Jones wedi llenwi'r holiadur iechyd a lles. Soniodd yn gyflym am y cyfarfod diweddar a gynhaliwyd gan y Grŵp Iechyd a Gofal. Gobaith y grŵp yw trefnu digwyddiad i ennyn diddordeb y cyhoedd ym mis Tachwedd, lle bydd modd i rai grwpiau gwrdd ag aelodau o'r gymuned.
Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Davies ynglŷn â Borth 2030. Soniodd hefyd am y cyfarfod diweddar y bu'n bresennol ynddo i drafod lles. Awgrymodd y Cyng. Bainbridge y dylid cael cyflwyniad 10 munud ei hyd ynglŷn â Borth 2030 ar gychwyn cyfarfod nesaf y Cyngor gan na chafodd gyfle i wrando ar y diweddariad a roddwyd mewn cyfarfod anffurfiol yn ddiweddar.
Dywedodd y Cyng. Tweedy nad yw'r llwyni sy'n tyfu rhwng croesfan y rheilffordd a'r Animalarium yn dal wedi'u torri. Mae'r Cyng. Quant wedi sôn am hyn wrth Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae hefyd angen tocio'r llwybr tuag at yr eglwys.
Er bod pawb o blaid Borth 2030, dywedodd y Cyng. Griffiths y byddai'n well gan rai pobl hŷn ddod i ddeall mwy am y prosiect mewn cyfarfod wyneb yn wyneb â chynrychiolwyr yn hytrach na dysgu am bopeth ar wefan.
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
177. Cynhelir cyfarfod nesaf PACT ar y 14eg o Hydref. Gofynnodd y Cyng. Quant i'r Aelodau fwrw golwg i weld beth oedd effaith y glaw diweddar ar y maes parcio gyferbyn â Brynowen. Hysbysodd yr Aelodau fod Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu gosod gât dalu yn y toiledau gyferbyn â Cambrian Terrace.
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
178. Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 20.55pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf nos Lun, y 1af o Dachwedd 2021 fydd cyflwyniad gan aelodau o grŵp Borth 2030, y Parc Cychod, Cyfarfodydd Wyneb yn Wyneb a materion cyfredol cyffredin i'w trafod ag Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.
- Hits: 1121