Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Rhagfyr 2021
Presennol: Cadeirydd: H Hughes
C Bainbridge
R Dalton
M Griffiths
J James
A J Morris
A Thomas
Yn bresennol: Cynghorydd Sir: R P Quant
Clerc: M Walker
4 Aelod o'r Cyhoedd
YMDDIHEURIADAU
212. Y Cynghorwyr R Davies, G B Jones, D Pryce Jones a D Tweedy.
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
213. Gofynnodd Mrs Andrea Hughes a allai grŵp Borth 2030 roi cyhoeddusrwydd i'r digwyddiad galw heibio a gynhelir ar y 12fed o Ragfyr a dudalen Facebook y Cyngor. Nid oes gan y Cyngor ddim gwrthwynebiad.
DATGAN BUDDIANNAU
- Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
215. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar y 1af o Dachwedd. Y cynigydd oedd y Cyng. Dalton a'r eilydd oedd y Cyng. James. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
COFNODION Y CYFARFOD ARBENNIG A GYNHALIWYD AR Y 19EG O DACHWEDD 2021
216. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod arbennig ar y 19eg o Dachwedd. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig. Cadarnhaodd y Cyng. Bainbridge fod yr holl geisiadau am grant wedi'u cyflwyno a diolchodd i'r Clerc am ei holl gymorth wrth ddarparu'r wybodaeth ofynnol. Diolchodd y Cadeirydd hefyd i'r Cyng. Bainbridge am ei holl waith caled.
MATERION YN CODI
- Dim.
GOHEBIAETH
218. COVID-19. Y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Sir Ceredigion, Un Llais Cymru a Llywodraeth Cymru.
219. Un Llais Cymru.
Asesu Effeithiau Newid Hinsawdd ar Iechyd a Llesiant yng Nghymru - Ffeithlun.
Mae'r gwaith i ddyrannu pecynnau Cadwch Gymru'n Daclus ar fin dod i ben.
Grant cymorth cofrestru pleidleiswyr y trydydd sector – bellach ar agor.
Cronfa diffibrilwyr Llywodraeth Cymru.
Ymgynghoriad ar ymchwiliad i ail gartrefi.
Arolwg Cynghorwyr - Swyddogaeth cynghorwyr yng Nghymru a'r gydnabyddiaeth ariannol a gânt.
Lansio'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal Profedigaeth yng Nghymru.
Cylchlythyr Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Rheoliadau Drafft Cydbwyllgor Corfforaethol (Cyffredinol) (Cymru) 2022.
Ymateb Un Llais Cymru i'r ymgynghoriad ar drethu lleol ar ail gartrefi a llety hunanarlwyo.
Fforwm Natur.
Digwyddiad Creu Cyfoeth Cymunedol, y 30ain o Dachwedd.
“Gyda'n gilydd gallwn wneud cymaint" oedd thema cynhadledd genedlaethol hybrid ardderchog Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC) eleni.
Mae bellach modd gwneud cais am grant drwy'r Gronfa Tlodi Tanwydd sy'n werth £500,000.
Rheolau Etholiadau Lleol 2021.
Cronfa Jiwbilî Platinwm y Loteri.
Dolen i wefan Hywel Dda lle gallwch ddod o hyd i'w harolygon a'u hadroddiadau cyfredol.
Cylchlythyr yr hydref Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol.
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – Catalydd Cymru: Prosiect Ehangu Gorwelion.
Bwletin newyddion Un Llais Cymru.
Cronfa Coetiroedd Cymunedol.
Cylchlythyr Hydref 2021.
Ymgyrch baw cŵn 'Gadewch ond olion pawennau'.
Digwyddiad Mynediad i Wleidyddiaeth Anabledd Cymru a gynhelir yn rhad ac am ddim ar y 18fed o Dachwedd.
Sesiynau Ymgysylltu - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr.
Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 – Diweddariad Pwysig gan y Gweinidog dros Newid Hinsawdd.
Gweminar yng nghwmni’r Dirprwy Brif Swyddog Tân, Roger Thomas - Nos Lun, y 29ain o Dachwedd am 19:30pm.
Creu Lleoedd i’r Gymraeg Ffynnu.
Dyddiadau gweddill yr hyfforddiant yn 2021. Trawsnewid Trefi - Addasu adeiladau at bwrpas newydd ar ôl COVID-19 - Gweminar ar y 6ed o Ragfyr. Digwyddiad mynediad i wleidyddiaeth Anabledd Cymru, y 9fed o Ragfyr. Diweddariad mis Tachwedd i'r canllaw sy'n ymwneud â chymryd rhan yn Ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, yr 2il o Fehefin 2022. Manylion swydd wag Rheolwr CPR a Diffibrilwyr Cymunedol gydag Un Llais Cymru. Swydd Wag - Cyfleoedd Cyfnod Penodol a Secondiadau Llywodraeth Cymru, Ymgyrch Recriwtio Swyddogion Gweithredol Uwch. Swydd Wag - Swyddog Cymorth Sector Digidol Un Llais Cymru. Arolwg ar-lein sy'n ymwneud ag effaith cyfarfodydd aml-leoliad Adran 47. |
220. Llywodraeth Cymru.
Swyddi Gwag – Arolygiaeth Gofal Cymru.
Bwletin Newid Hinsawdd Tachwedd 2021.
Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion - Lefelau Ffosffad yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi.
Cymru Iachach - Newyddion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Arolwg o gyfarfodydd aml-leoliad Adran 47.
Mae Cricieth Creadigol wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Bywydau Creadigol 2021.
Manylion yr ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd.
Terfyn Gwariant Dewisol ar gyfer 2022-23 o dan Adran 137.
221. Cyngor Sir Ceredigion.
Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion.
Lleihau allyriadau carbon blynyddol.
Rhagor o lwyddiant i Geredigion wrth i'r cais am gyllid i gefnogi cymunedau, pobl a busnesau lleol gael ei ddyfarnu.
Panel yr Heddlu a Throseddu i herio blaenoriaethau plismona'r Comisiynydd.
Llythyr sy'n ymwneud â threfniadau Etholiadol Ceredigion o fis Mai 2022.
Arolwg Gofal Plant Cyflogwyr.
Gadewch inni gofio a thalu teyrnged yn ddiogel ac yn gyfrifol ar Sul y Cofio eleni.
Eich helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned - Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi yn lansio Cronfa Grant newydd.
Achosion Pendant o Ffliw Adar yng Ngheredigion.
Bydd Panto eiconig Cwmni Actorion Theatr Felin-fach yn dychwelyd i'r llwyfan eleni.
Bydd y Cyngor yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021.
Mae adran newydd 'Ceredigital', sy'n ymwneud â gwasanaethau digidol, bellach ar gael ar wefan y Cyngor.
Parcio am ddim yng Ngheredigion am dri dydd Sadwrn cyn y Nadolig.
Cymorth i Ofalwyr di-dâl yng Ngheredigion.
Adroddiadau newyddion wythnosol.
Cau Ffordd Dros Dro: B4572 y Borth, Aberystwyth. Gwaith ar bolion 13/12/2021.
Cadw'n ddiogel wrth ddathlu'r Nadolig eleni.
Cyllid y Cyngor a gymeradwywyd gan Archwilio Cymru.
Newyddion Adnoddau Dynol.
Mae unigolion a theuluoedd ledled Ceredigion yn chwilio am gymorth a fydd yn rhoi'r dewis iddynt fyw bywyd yn fwy annibynnol.
Mae'r Cyngor yn darparu cymorth lles ac iechyd meddwl i ddarparwyr gofal cymdeithasol.
Argyfwng Bwyd a Thanwydd - y cymorth sydd ar gael yng Ngheredigion.
Mae CLlLC yn croesawu ailgyflwyno masgiau wyneb mewn ysgolion uwchradd.
Cyflwyniad am Raglen/Strategaeth Gydol Oes a Lles Ceredigion.
Lleihau eich ôl troed gwastraff dros y Nadolig.
Sachau Cryf Caru Aber yn helpu i achub y dydd ar ddiwrnodau casglu gwastraff yn Aberystwyth.
Cau Fordd Dros Dro: B4572 y Borth - Aberystwyth.
Mae taith sain dywys yn adrodd straeon di-ri am orffennol lliwgar Aberystwyth.
Nodi'r Mannau Cymunedol hynny a allai weithredu fel Canolfannau Gorffwys Mewn Argyfwng.
222. GIG Cymru. Iechyd a Gofal Gwledig Cymru.
223. HWB CYMUNEDOL Y BORTH. Sesiynau Cyngor ar Bopeth yn y Borth i drafod ynni.
224. Cloudy IT Group. Fforwm Technoleg i Glercod - Uwchgynhadledd Rithwir am ddim - Ddydd Mawrth, y 30ain o Dachwedd.
225. Comisiwn Ffiniau Cymru. Bydd Comisiwn Ffiniau Cymru yn cynnal 5 Gwrandawiad Cyhoeddus yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Eilaidd (rhwng yr 11eg o Ionawr a'r 21ain o Chwefror).
226. Cais am Rodd Ariannol. Ambiwlans Awyr Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.
227. Ffonau Talu BT. Ymgynghoriad Ofcom ar newidiadau i'r gwasanaeth cyffredinol teleffoni.
228. Asedau a Rennir. Manylion a chysylltiadau ar sut i sefydlu fferm gymunedol yn yr ardal.
229. Vocal Eyes. Manylion llwyfan ymgysylltu digidol.
230. Ecodyfi. Gwahoddiad i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Fforwm Ecodyfi, ddydd Mawrth, y 14eg o Rhagfyr.
231. Borth 2030. Gwahoddiad i Gwnselwyr i ddigwyddiad galw heibio cyhoeddus Borth 2030 ar y 12fed o Ragfyr rhwng 1300 a 1600 yn Neuadd Gymunedol y Borth, a chais i ddangos hysbysiad sy'n rhoi manylion y digwyddiad ar dudalen Facebook Cyngor Cymuned y Borth.
232. Credydau Amser Tempo. Sefydliad a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cydweithio â chymunedau i wobrwyo gwirfoddolwyr.
233. Meddygfa'r Borth. Mae'r Rhaglen Addysg i Gleifion yn cynnal nifer o gyrsiau Iechyd a Lles i'r rhai dros 18 oed sy'n cyd-fyw â rhywun sydd â chyflwr iechyd hirdymor, neu sy'n gofalu amdano/amdani.
234. Diffibrilwyr. Cais am wybodaeth ynghylch y nifer o ddiffibrilwyr sydd yn y gymuned a'u lleoliad.
235. Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth. Cais i godi'r £8000 y mae'n ei gael oddi wrth y Cyngor bob blwyddyn. Cynhigiodd y Cyng. Bainbridge fod y Cyngor yn rhoi'r £8000. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. James a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
236. Glanwern. Diffyg draenio yng nghyswllt y gwaith datblygu pellach ym Mrynowen a phroblemau llifogydd. Bydd y Cyng. Quant yn mynd ar drywydd y sefyllfa gynllunio a'r materion draenio, ac ati.
237. Fandaliaeth yng Nghaeau Chwarae Uppingham. Llythyr sy'n hysbysu'r Cyngor ynglŷn â'r fandaliaeth i'r eisteddle pêl-droed, y tyllau ymochel ac yn y Neuadd Gymunedol ac o'i hamgylch. Dywedodd y Clerc wrth y clwb pêl-droed y dylai sôn wrth yr heddlu am y mater. Cafwyd sawl achos o graffiti o gwmpas y pentref, ac mae'r heddlu wedi cael gwybod am y mater.
238. Dolau Bach. Cais am ganiatâd i bori gwartheg ucheldir ar gae Dolau Bach. Nid oes gan y Cyngor ddim gwrthwynebiad ar yr amod y cytunwyd ar hawliau pori'r ffermwr.
239. Caru Cymru. Copïau o bosteri sy'n gysylltiedig â'u hymgyrch baw cŵn.
240. Gohebiaeth Arall Clerks and Councils Direct, Glasdon a chatalog offer ar gyfer campfeydd awyr agored.
241. Eglwys Sant Mathew. Cais i'r Cyngor ystyried rhoi £5,000 o grant tuag at uwchraddio'r
bloc toiledau. Gofynnodd y Cadeirydd i'r eitem hon gael ei rhoi ar yr agenda cyfarfod mis Ionawr.
CYFRIFON
- Gweddill y Cyfrifon ar y 14eg o Dachwedd 2021
Nationwide 30229.71
Cyfrif Banc Elusennol 12091.94
Cyfrif Busnes Dim Rhybudd 18836.47
Cyfrif Adnau 3749.28
- Incwm
Dim.
- Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:
Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth – cyllid blynyddol 8000.00
M Walker - cyflog 522.00, costau swyddfa 9.99 531.99
Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Griffiths. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol
o blaid y cynnig.
Cyn y cyfarfod, anfonodd y Clerc y wybodaeth ddiweddaraf am incwm a gwariant y Cyngor at bob Cynghorydd er gwybodaeth.
CYNLLUNIO
245. Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.
A210961 - Newid defnydd siop / gweithdy gwag ac adeilad lles a throi'r safle yn llety i'r Rheolwr Safle. Parc Gwyliau Cambrian Coast, Ynyslas, y Borth. SY24 5JU. Dim sylwadau/gwrthwynebiadau.
Y PARC CYCHOD
- Mae'r mater yn parhau.
CYFARFODYDD WYNEB YN WYNEB
- Mae'r Cyng. Hughes wedi cysylltu â chwmni yn Aberystwyth ac mae'n aros am gostau am offer a phecyn cynnal a chadw.
ARWYDDION AR Y PROMENÂD
- Gofynnodd Cadeirydd y Cyngor i'r Cyng. Quant holi a fydd yr arwyddion cŵn presennol yn cael eu hadnewyddu yn 2022. Bydd y Cyng. Quant codi'r mater eto â Chyngor Sir Ceredigion.
YR OLYGFAN AR FFORDD CLARACH
- Gohiriwyd y mater tan ddiwedd y cyfarfod pan fydd y Cyng. John James yn gadael y cyfarfod am iddo ddatgan buddiant yn y mater. Yng Nghofnod 162, darllenwyd llythyr a oedd yn holi ynghylch y posibilrwydd o gael golygfan ar ben Rhiw Clarach lle gallai pobl stopio am ennyd ac edmygu'r olygfa dros y Borth a Dyffryn Dyfi. Ar ôl gwneud ymholiadau, mae'r tirfeddiannwr wedi cytuno i werthu cyfran o'r tir. Cytunodd y Cyng. Quant i ofyn i Gyngor Sir Ceredigion a fyddai'n ystyried hyn ac, os felly, sut y gellir bwrw 'mlaen â'r mater. Y cynigydd oedd y Cyng. Hughes a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
MATERION Y CADEIRYDD
250. Roedd y Cyng. Hughes wedi dweud nad oedd y gatiau stormydd ger adeilad Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn cau. Fodd bynnag, nid oedd wedi clywed dim oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion. Ymchwiliodd y Cyng. Quant i'r mater ac roedd ar ddeall y byddai Adran y Priffyrdd yn dod i'r safle ar ddydd Mawrth, y 7fed o Ragfyr
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
251. Cadarnhaodd y Cyng. James y byddai'r goeden Nadolig yn cyrraedd yr wythnos hon.
Roedd y Cyng. Griffiths yn pryderu fod cymaint o faw cŵn ar y palmentydd a gofynnodd i'r Cyngor ystyried cael arwyddion "dim parcio dros nos" ychwanegol i ddelio â faniau gwersylla.
Soniodd y Cyng. Morris fod Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi'n clirio ffosydd ac roedd tystiolaeth o dipio anghyfreithlon yn y ddyfrffos. Roedd y ffosydd ar y naill ochr a'r llall i'r ffordd tuag at yr Animalarium yn gorlifo ac roedd y dŵr o'r ddwy ffos yn cwrdd yng nghanol y ffordd. Dywedodd y Cyng. Morris hefyd fod y gwter ar hyd y briffordd ger y Green Dolphin yn llawn a bod dŵr yn gorlifo ar y briffordd.
Gofynnodd y Cyng. Dalton ar ran y Cyng. Pryce Jones a oedd yn absennol a fyddai'r parthau diogel yn cael eu dileu. Crybwyllwyd Bronheulyn eto, ac mae perchnogion Savannah wedi dechrau tynnu eu wal i lawr yng nghefn eu heiddo.
Rhoddodd y Cyng. Bainbridge ddiweddariad byr ynglŷn â Grwp Iechyd a Gofal y Borth a gyfarfu'n ddiweddar. Yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Cadeirydd y Llywodraethwyr, mae'r Cyng. Bainbridge wedi bod yn cael cyfarfodydd o bell gyda disgyblion Ysgol Graig yr Wylfa. Dosbarthwyd £3500 o goffrau'r carnifal. Mae Eglwys Fair, Seren y Môr yn cynnal digwyddiad cerddorol ddydd Sadwrn, yr 11eg o Ragfyr, a chynhelir ffair grefftau yno hefyd ar ddydd Sul, y 12fed o Ragfyr.
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
252. Mae'r Cyng. Quant yn dal i aros am sylwadau Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ynghylch gwaith Cam 3 ar yr amddiffynfa fôr. Cynhelir gwasanaethau carolau yn Eglwys St Mathew ar y 19eg a'r 24ain o Ragfyr. Soniwyd wrth yr heddlu am y person a oedd yn cysgu yn ei gar yn y maes parcio gyferbyn â Brynowen. Cafwyd diweddariad gan y Cyng. Quant ynglŷn â COVID-19.
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
253. Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 8.45pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, y 10fed o Ionawr 2022 fydd y Parc Cychod, Arwyddion ar y Prom, Cyfarfodydd Wyneb yn Wyneb, yr Olygfan ar Ffordd Clarach a chais Eglwys Sant Mathew am gyllid grant. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.
- Hits: 1057