• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion Mis Rhagfyr 2018

COFNODION CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYFARFU YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, RHAGFYR 3 2018 AM 19.00 O'R GLOCH

 

Presennol:   Cadeirydd:              C Bainbridge
                                                    G Ashley
                                                    R Dalton
                                                    M Griffiths
                                                    H Hughes
                                                    J James
                                                    G B Jones
                                                    A J Morris
                                                    P Turner-Wright
                                                    M J Willcox
Yn bresennol: Cynghorydd Sir: R P Quant
           Clerc:                  M Walker            
                                                   3 aelod o'r cyhoedd. 

YMDDIHEURIADAU

266.  Dim.

CYFRANOGIAD Y CYHOEDD

267.  Dim.

DIWEDDARIAD ODDI WRTH EMMA HEATHCOTE YNGHYLCH YSGOL HWYLIO'R BORTH

268.  Estynnodd y Cadeirydd, y Cyng. Bainbridge, groeso i Emma i'r cyfarfod. E-bostiwyd crynodeb gweithredol am Ysgol Hwylio'r Borth, a baratôdd Emma, at bob Cynghorydd cyn y cyfarfod. Cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb pan roddwyd cyfle i bob Cynghorydd ofyn cwestiynau a chodi pryderon posib. Rhoddwyd cyfle i Emma ymateb hefyd.

DATGAN BUDDIANNAU

269. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

270.  Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2018.

MATERION YN CODI

271.  Maes Chwarae i Blant. Cofnod 235. Bydd llythyr yn cael ei ddarllen dan 'gohebiaeth' parthed y maes chwarae. Mae'r Cyng. Bainbridge wedi trefnu cyfarfod â dau gynllunydd meysydd chwarae ac mae wedi cyflwyno cais am £4500 dan gynllun Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru.

272.  Goleuadau Stryd. Cofnod 262. Mae'r Clerc wedi cael ateb oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion wedi iddi wneud ymholiadau ynghylch diffodd y goleuadau stryd gyda'r nos a newid y cyfnod hwnnw o 12am tan 5am i 1am tan 6am. Byddai'n rhaid gwneud rhai newidiadau ac mae'r gost i'r Cyngor yn sgil yr unedau newydd wedi codi o £1298.00 i £1917.50. Yn dilyn trafodaeth hir, rhoddodd y Cyng. Bryn Jones gynnig gerbron a eiliwyd gan y Cyng. Gwenllian Ashley i newid y cyfnod y diffoddir y goleuadau i'r amser newydd, sef rhwng 1am a 6am. Pleidleisiodd yr Aelodau fel a ganlyn: 3 phleidlais o blaid y cynnig, 6 yn ei erbyn ac ymatalodd 1. Felly, penderfynwyd peidio â bwrw 'mlaen â'r newidiadau.

GOHEBIAETH

273.  Llywodraeth Cymru.  Diweddariad ar yr ymgynghoriadau diweddaraf sydd i'w gweld ar-lein.

274.  Cyfoeth Naturiol Cymru. Bwletin mis Tachwedd 2018 - Rhifyn 33.

275.  Ecodyfi. Y newyddion a'r gweithgareddau diweddaraf.

276.  Un Llais Cymru.  Diweddariadau ynghylch Diwrnod Siarter y Coed.

277.  Swyddfa Archwilio Cymru. Manylion adroddiad ar Wasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig.

278.  Maes Chwarae i Blant.  Llythyr oddi wrth y cwmni yswiriant sy'n gofyn a yw'r Cyngor yn dymuno hawlio ar y polisi yswiriant yn sgil y difrod i gyfarpar yn ystod stormydd mis Chwefror. Gofynnwyd i'r Clerc gadarnhau na fyddai'r Cyngor yn hawlio.

279.  Sovereign Play.  Llythyr sy'n cynnig dyfynbris am ddim a chynllun 3D heb ymrwymiad i brynu.

280.  Un Llais Cymru.  Rhaid cofrestru i gael lle yng Nghynhadledd Arfer Arloesol a Gwobrau Cenedlaethol Un Llais Cymru erbyn y 25ain o Ionawr 2019.

281.  Un Llais Cymru.  Manylion ymarfer cwmpasu sy'n ceisio adnabod bylchau yn y gwasanaethau i gyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru.

282.  Llywodraeth Cymru.  Cyfanswm y gwariant dan Adran 137 ar gyfer 2019-20 fydd £8.12 i bob etholwr.

283.  Cyngor Sir Ceredigion.  Dyddiadau cau ceisiadau am ollyngiadau.

284.  Cais am Rodd Ariannol.  Daeth llythyr i law oddi wrth Glwb Ieuenctid y Borth a oedd yn gofyn am £150 o gymorth ariannol i brynu 2 rac beics pum slot a deg o gloeon beics. Datganodd y Cynghorwyr Dalton, Hughes a Bainbridge fuddiant a gadawsant yr ystafell. Penderfynodd yr Aelodau roi £150 i'r Clwb Ieuenctid.

285.  Llywodraeth Cymru.  Cylchlythyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

286.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion sesiwn hyfforddi ar y Cod Ymddygiad yn Ysgol Penweddig ar ddydd Llun, yr 11eg o Chwefror am 7pm. Mae'r Cynghorwyr C Bainbridge, G Ashley, R Dalton, M Griffiths wedi cytuno i gymryd rhan yn y sesiwn honno.

287.  Un Llais Cymru.  Bwletin mis Rhagfyr 2018.

288.  Un Llais Cymru.  Manylion sesiynau hyfforddi yn y dyfodol.

289.  Chwarae dros Gymru.  Rhifyn hydref 2018 o'r cylchgrawn chwarae.

CYFRIFON

290. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Tachwedd 2018
        Nationwide                                                                                       29,637.15
        Cyfri Cymunedol                                                                               3,179.98
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                             35,491.74
        Cyfri Adnau                                                                                       3,476.50
 
291. Incwm   
        Dim.
       
292. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
        Cyngor Sir Ceredigion - am lanhau'r toiledau wrth ymyl y traeth      5,400.00
        Cartridgesave Limited – papur argraffu                                                   31.12
        Heledd Davies - Cyfieithu cofnodion mis Tachwedd                               82.30
        M Walker - cyflog 485.76, costau swyddfa 19.90                                   505.66
        Canolfan Deuluol y Borth - rhodd ariannol                                            150.00

CYNLLUNIO

293.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn

A181057.  Estyniad i annedd. Pant Haul, y Borth. Nid oes gan Gyngor Cymuned y Borth ddim gwrthwynebiad, yn ddibynnol ar sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru. 

LLE GWAG AR Y CYNGOR.

294.  Penderfynodd yr Aelodau gynnal sesiwn gaeedig ar ddiwedd y cyfarfod i drafod yr ymgeiswyr ond ni fyddai'r Aelodau'n trafod eu hoff ymgeiswyr.

TALIADAU I AELODAU CYNGHORAU TREF A CHYMUNED

295.  Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cyhoeddi adroddiad drafft ac mae'n bwriadu gwneud rhagor o newidiadau o ran y taliadau i aelodau cynghorau tref a chymuned. Gofynnwyd i'r Clerc anfon y ddogfen at y Cynghorwyr i'w hystyried cyn gosod y gyllideb ym mis Ionawr.

TIR COMIN

296.  Dechreuodd y Cyng. Hughes drwy ddweud bod aelod o'r cyhoedd wedi dod i siarad ag ef am ddarn o dir comin ger yr Animalarium yn dilyn y cyfarfod diwethaf. Codwyd pryderon yn sgil cyfarfod rhwng y Cyng. Hughes a'r Cyng. Bainbridge ac aelod o'r cyhoedd a oedd o'r farn na aethpwyd ati i sicrhau caniatâd cynllunio i godi'r ffens derfyn. Roedd y Cyng. Hughes wedi paratoi adroddiad cynhwysfawr a dywedodd fod y gyfraith sy'n ymwneud â rheoli tir comin yn gymhleth. Dywedodd y Cyng. Quant fod Billy Williams wedi honni iddo gael caniatâd oddi wrth Ystâd y Goron i godi'r ffens dan sylw ac y byddai'n casglu tystiolaeth i brofi i'r ffens gael ei chodi cyn Deddf Cofrestru Tir Comin 1965. Mae'r Cyng. Hughes yn honni, wedi iddo gael cyngor oddi wrth Swyddog Hawliau Tramwy a Thir Comin yng Nghyngor Sir Ceredigion, y byddai'n rhaid cofrestru pob ffens a godwyd cyn 1965 hefyd.

MAES PARCIO AR DIR YR HEN NEUADD

297.  Mae'r Cyng. Turner-Wright wedi ymchwilio i'r maes parcio ar safle'r hen neuadd gymunedol. Mae'n credu bod tri cherbyd wedi'u gadael yno. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n dod i hyd i gynllun cyfreithiol a fyddai'n cadarnhau ffiniau perchnogaeth y maes parcio ynghyd â'r hawliau mynediad yno. Byddai hefyd yn trefnu bod y cerbydau sydd wedi'u gadael yno yn cael eu symud oddi ar y safle os caiff y rhifau cofrestru.  Ar ôl gwneud cais, rhoddwyd caniatâd i'r Cyng. Turner-Wright gynnal arolwg o'r safle.

PRYDLES Y PARC CYCHOD

298.  Penderfynwyd yn unfrydol mewn egwyddor i lunio prydles rhwng Cyngor Cymuned y Borth ac Emma Heathcote. Byddai'r brydles yn para 25 mlynedd a'r gost fydd £50 y flwyddyn am y 5 mlynedd cyntaf a £500 y flwyddyn rhwng blynyddoedd 6 a 25. Gellid adolygu hyn yn ystod y cyfnod hwnnw. Awdurdododd yr Aelodau y Cyng. Quant i lunio'r brydles ar gyfer y parc cychod i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

MATERION Y CADEIRYDD

299.  Rhoddodd y Cyng. Bainbridge ddiweddariad byr ynghylch y cyfarfod gofalwyr diweddar y bu'n bresennol ynddo. Gwyddai am o leiaf ddau achos diweddar pan na ddaeth ambiwlans allan i gynorthwyo cleifion. Soniodd y Cyng. Willcox am achos arall yn sgil digwyddiad ar y cael pêl-droed. Bydd Siôn Corn yn ymweld â'r Borth unwaith eto eleni ar y 18fed o Ragfyr. Mae'r Cyng. Bainbridge yn awyddus i drefnu cinio i'r Cyngor ym mis Chwefror a'i bwriad yw estyn gwahoddiad i Robert Griffiths ac i Sue ac Ianto Thomas. 

CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR

300.  Y Cyng. Ashley - mae PC Dave Goffin wedi cysylltu â hi i drafod sesiynau gwirio cyflymder.

Rhoddodd y Cyng. Turner-Wright ddiweddariad byr ynghylch cyfarfod a gafodd â chynrychiolydd o Gyfoeth Naturiol Cymru i drafod clirio ffosydd yn y Borth. Soniodd hefyd am  broblem â'r bibell sy'n gollwng dwr ffos i mewn i'r môr. Ar ôl gwneud cais, rhoddwyd caniatâd i'r Cyng. Turner-Wright gynnal arolwg o'r draeniau.

Y Cyng. Dalton - cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar yr 17eg o Ionawr.

Y Cyng. Willcox - mae angen trwsio rhan uchaf y llithrfa.

Y Cyng. Hughes - bu'n bresennol mewn cyfarfod lle daeth gwrthwynebwyr y goeden ynghyd a chyflwynodd ei hun i Rob Davies.

Rhoddodd y Cyng. Griffiths ddiweddariad byr ynghylch cyfarfod y Biosffer.

Gofynnodd y Cyng. Jones a oedd gan y Cyngor ddigon o raean os daw tywydd drwg. Cadarnhaodd y Cyng. Willcox fod graean wrth gefn ar gael.

ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR

301.  Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Aberystwyth yn 2020 ac mae'n rhaid i'r Borth godi £5000 tuag at ariannu'r digwyddiad. Cynhelir cyfarfod ar y 9fed o Ionawr 2019 i drafod codi arian. Awgrymodd y Cyng. Willcox y dylai Cyngor Cymuned y Borth unioni unrhyw ddiffyg ariannol os na chodir digon o arian. Cafwyd cynnig i sefydlu pwyllgor codi arian.

SESIWN GAEEDIG - LLE GWAG AR Y CYNGOR

302.  Gofynnwyd i aelodau'r cyhoedd adael yr ystafell wrth i'r Cyngor gynnal sesiwn gaeedig i drafod y ceisiadau i lenwi'r lle gwag ar y Cyngor. Datganodd y Cyng. Hughes fuddiant personol a gadawodd yr ystafell. Daeth dri chais i law yn sgil yr hysbyseb i gyfethol aelod. Darllenodd y Cadeirydd y tri chais. Cynhaliwyd pleidlais gudd a chan fod gan ddau ymgeisydd yr un nifer o bleidleisiau, cynhaliwyd ail bleidlais. O ganlyniad i hyn, etholwyd Mr Dean Tweedy yn Gynghorydd. Gofynnwyd i'r Clerc ysgrifennu at bob ymgeisydd aflwyddiannus ac i wahodd Mr Tweedy i'r cyfarfod nesaf i'w gyfethol i'r Cyngor.

Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA

303.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 9.57pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf ar y 7fed o Ionawr 2019 fydd Cyllidebau a'r Praesept a'r Eisteddfod Genedlaethol. Dylid rhoi gwybod i’r Clerc am eitemau eraill.                                                                                        

  • Hits: 1977