• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Mawrth 2019

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, MAWRTH 4 2019 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:   Cadeirydd:              C Bainbridge
                                                G Ashley
                                                R Dalton
                                                M Griffiths
                                                H Hughes
                                                A J Morris
                                                D Tweedy
                                                M J Willcox
Hefyd yn bresennol:
Y Cynghorydd Sir:                    R P Quant
Clerc:                                       M Walker            
                3 aelod o'r cyhoedd.
 
YMDDIHEURIADAU
 
376.  Y Cynghorwyr J James a G B Jones.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
377.  Dim.
 
YMWELIAD GAN KATE DOUBLEDAY - MINI MEADOW MAKERS
 
378.  Estynnodd y Cadeirydd groeso i Kate i'r cyfarfod. Esboniodd Kate ei phrosiect mewn manylder a dywedodd mai ei nod oedd adfer dolydd blodau gwylltion colledig ar dir comin y Borth. Yn dilyn y cyflwyniad, cynigiodd y Cyng. Morris y dylai'r Cyngor glustnodi'r ardal ar hyd y llwybr cerdded cŵn er mwyn creu dôl. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Willcox a phleidleisiodd pob Aelod o'i blaid.
 
YMWELIAD BEN LAKE AS
 
379.  Symudwyd dyddiad yr ymweliad i fis Ebrill.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
380. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
381.  Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2019. Y cynigydd oedd y Cyng. Griffiths a'r eilydd oedd y Cyng. Dalton.
 
MATERION YN CODI
 
382.  Maes Chwarae i Blant.  Cofnod 346.  Mae'r cyfarpar newydd wedi'i osod. Gan fod rhagor o arian ar gael, mae'r Cyng. Bainbridge wedi gofyn am ddyfynbris am 3 eitem lai ac mae wedi cael dyfynbris am waith draenio'r ardal. Y gost yw £1700 + TAW.  Penderfynwyd bwrw ymlaen â chais am £4000 ychwanegol. Y cynigydd oedd y Cyng. Willcox a'r eilydd oedd y Cyng. Griffiths. Pleidleisiodd pob Aelod o blaid hyn.
 
383.  Tir Comin.  Cofnod 347.  Mae'r mater yn parhau.
 
384.  Maes Parcio ar Dir yr Hen Neuadd.  Cofnod 348.  Mae'r mater yn parhau.
 
385.  YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.  Cofnod 370.  Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn Boulders ar yr 21ain o Ebrill.
 
GOHEBIAETH
 
386.  Parcio faniau gwersylla yn y Borth.  Darllenodd y Clerc e-bost oddi wrth aelod o'r Cyhoedd ynghylch y Gorchmynion Traffig newydd arfaethedig a pharcio dros nos ar y prom. 
 
387.  Llywodraeth Cymru.  Manylion ymdrechion Llywodraeth Cymru i helpu cynghorau cymuned a thref i sefydlu trefniadau gweithio cychwynnol ar y cyd mewn perthynas ag ymgysylltu â'r gymuned, denu mwy o ddinasyddion i gyfranogi ac i gymryd rhan mewn democratiaeth leol.
 
388.  Ysgol Hwylio'r Borth   Llythyr sy'n mynegi pryderon ynghylch yr ysgol hwylio newydd arfaethedig.  Trosglwyddodd y Clerc y mater i Emma Heathcote er mwyn cael ei hymateb. Gofynnwyd i'r Clerc ateb drwy ddweud y byddent yn gofyn am gyngor ynglŷn â rhentu'r parc cychod ar brydles.
 
389.  Llywodraeth Cymru.  Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Chwefror 2019.
 
390.  Celf y Borth.  Diweddariad ynglŷn â dyddiadau'r arddangosfeydd a'r gweithgareddau a gynhelir eleni.
 
391.  Llywodraeth Cymru.  Yr ymgynghoriadau diweddaraf.
 
392.  Un Llais Cymru.  Manylion digwyddiad hyfforddi ar y cyd â Chymorth Cynllunio Cymru a gwahoddiad i'r Cyngor gynnal gweithdy sy'n ymwneud â "Chynllun Cymunedol y Borth - Astudiaeth Achos sy'n ymwneud â Rheoli Prosiectau" yn y Gynhadledd Glastir ar yr 11eg o Fehefin. Gwirfoddolodd y Cynghorwyr Dalton a Quant i gymryd rhan.
 
393.  Un Llais Cymru.  Mae Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu cyflwyno cyfraith newydd i adnewyddu democratiaeth yng Nghymru. Bydd yn rhoi grym i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad a rhoi llais iddynt ar benderfyniadau a fydd yn diffinio'u dyfodol.
 
394.  Swyddfa Archwilio Cymru.  Y 7fed adroddiad blynyddol ar lywodraethu, rheoli cyllid ac archwilio mewnol.
 
395.  Llywodraeth Cymru.  Bwletin Cyfoeth Naturiol Cymru - Chwefror 2019.
 
396.  Cyngor Sir Ceredigion.  Dogfen sy'n amlinellu ymateb yr Awdurdod i'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, a'i ddiwygiadau arfaethedig iddo.
 
397.  Un Llais Cymru.  Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i randiroedd. Rhaid cyflwyno sylwadau erbyn y 1af o Fawrth.
 
398.  Cyfreithwyr Horwich Cohen Coghlan.  Mae ffurflen hysbysu ynghylch hawliad wedi'i chyflwyno i gwmni yswiriant y Cyngor mewn perthynas â hawliad Erica Sharon Petersen.  Gofynnwyd i'r Clerc gysylltu â'r yswirwyr i ddweud wrthynt pa gamau y maent yn eu cymryd.
 
399.  Lle Gwag ar y Cyngor.  Mae'r Hysbysiad o Etholiad wedi'i osod ar yr hysbysfyrddau a chynhelir etholiad i ddewis Cynghorydd i lenwi'r lle gwag ar yr 11eg o Ebrill. Cafwyd cynnig gan y Cyng. Morris i beidio â gofyn am gardiau pleidleisio. Eiliwyd hyn gan y Cyng. Ashley.
 
400.  Colli signal teledu.  Copïau o lythyron a anfonwyd at Ben Lake AS ynglŷn â cholli rhai sianeli teledu yn y Borth.
 
401.  Un Llais Cymru.  Manylion seremoni Gwobrau Blynyddol Arfer Arloesol Un Llais Cymru.
 
402.  Gohebiaeth Arall.  Cylchlythyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Clerks and Councils Direct.
 
CYFRIFON
 
403. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Chwefror 2019
        Nationwide                                                                       29,637.15
        Cyfri Cymunedol                                                                  500.06
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                 20,893.46
        Cyfri Adnau                                                                          3,478.23
 
 
 
404. Incwm   
        Cronfa Arian Rhodd y Clerc                                               100.00
        Fforddfreintiau Scottish Power                                             34.51
       
405. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
        Tafarn y Victoria – cinio blynyddol x 4 gwestai                  88.40
        Swyddfa Archwilio Cymru – archwiliad 2017/18                204.25
        Un Llais Cymru - ffi aelodaeth                                           260.00
        Robert Griffiths – gwaith atgyweirio i'r maes chwarae         360.00
        Canolfan Deuluol y Borth                                                  150.00 (siec newydd am yr un a gollwyd - rhif 201683)
        Sunshine Playgrounds Ltd – cyfarpar newydd                    5,400.00
        Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Chwefror             57.85
        M Walker - cyflog 485.76, costau swyddfa 16.03                 501.79
        Cronfa Arian Rhodd y Clerc                                               100.00
        Capel y Garn                                                                     100.00
        Ambiwlans Awyr Cymru                                                   200.00
        Y Tincer                                                                           100.00
        Grŵp Celf a Chyfeillgarwch y Borth                                  100.00
        Eglwys Sant Matthew                                                        100.00
        2il Grŵp Sgowtiaid y Borth (Jamborî)                                200.00
             
CYNLLUNIO
 
406.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn
Dim.
 
RHODDION ARIANNOL
 
407.  Dosbarthodd y Clerc restr o geisiadau a ddaeth i law drwy gydol y flwyddyn am roddion ariannol oddi wrth wahanol sefydliadau. Ar ôl ystyried pob cais, cynigiodd Anthony Morris y dylai'r Cyngor roi'r symiau canlynol. Eiliwyd y cynnig gan Hugh Hughes:
 
Capel y Garn                                                  £100
Ambiwlans Awyr Cymru                                  £200
Y Tincer                                                        £100
Grŵp Celf a Chyfeillgarwch y Borth                 £100
Eglwys Sant Matthew                                      £100
2il Grŵp Sgowtiaid y Borth (Jamborî)               £200
 
PRYDLES Y PARC CYCHOD
 
408.  Datganodd y Cyng. Morris fuddiant personol ond arhosodd yn yr ystafell. Gofynnodd am eglurhad ynghylch ambell bwynt yn y brydles. Cynigiodd y Cyng. Hughes y dylai'r Clerc gysylltu ag Un Llais Cymru i ofyn a ddylai'r Cyngor wahodd tendrau ar gyfer y brydles. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Griffiths. 
 
BANER CYMRU
 
409.  Mae gwaelod polyn y faner yn y maes parcio gyferbyn â safle carafanau Haven wedi bod ar goll ers peth amser. Yn sgil ymchwiliad diweddar, gofynnodd y Cyng. Willcox i'r Cyng. Quant holi Cyngor Sir Ceredigion a ddylent ddarparu polyn newydd i'r faner.
 
MATERION Y CADEIRYDD
 
410.  Cynhaliwyd sesiwn gwirio cyflymder a chanfuwyd bod 5 o geir wedi bod yn goryrru. Dywedodd y Cyng. Bainbridge y bu'r cinio blynyddol yn llwyddiant mawr. Cynhaliodd Eglwys Fair, Seren y Môr ddiwrnod agored ar ddydd Sadwrn, yr 2il o Fawrth ac mae Meddygfa'r Borth wedi cael gwobr 'Tîm y Mis'.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
411.  Rhoddodd y Cyng. Ashley ddiweddariad byr ynghylch y prosiect baw cŵn.
Dywedodd y Cyng. Griffiths iddo weld dau ddyn yn gadael blychau yn llawn sbwriel ger y banc poteli.
Dywedodd y Cyng. Willcox fod perygl i bobl faglu ar hyd y Stryd Fawr gan fod cerrig y palmant yn rhydd. Roedd yr ardal gyferbyn â'r arcêd ddifyrion yn arbennig o broblemus. Gofynnwyd i'r Cyng. Willcox gael dyfynbris i drwsio'r palmant.
Bu'r Cyng. Hughes mewn cyfarfod yn ddiweddar i drafod y "Goeden". Soniodd hefyd am y tyllau yn y ffordd wrth i yrwyr adael y gylchfan ger siop NISA.
Gofynnodd y Cyng. Dalton i'r fainc a fabwysiadwyd gael ei phaentio. 
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
412.   Gofynnodd y Prif Arolygydd Steve Davies o Heddlu Dyfed Powys am gyfarfod â'r Cyng. Quant i'w ddiweddaru ynghylch y digwyddiad diweddar yn y pentref. Holwyd y Cyng. Quant ynglŷn â'r posibilrwydd o gael parc sgrialu a thrac beicio yn y Borth. Mae 66 o garafanau newydd wedi cyrraedd Parc Carafanau Searivers. Cynhelir cinio yng Ngwesty Llety Parc ar y 27ain o Ebrill i goffau Diwrnod Anzac.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
413.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 10.00pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf nos Lun, y 1af o Ebrill 2019 fydd ymweliad gan Ben Lake AS, Tendr y Parc Cychod a Chŵn. Dylid rhoi gwybod i’r Clerc am eitemau eraill.   
  • Hits: 2326