• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - CBC Mis Mai 2019

COFNODION CYFARFOD BLYNYDDOL CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD
GOFFA AR DDYDD LLUN, 13 MAI 2019 AM 18.30 O'R GLOCH
 
             Presennol:               Cadeirydd:            C Bainbridge (cadeiriodd y cyfarfod tan i'r Cadeirydd newydd gael ei ethol)
                                                                           R Dalton
                                                                M Griffiths
                                                                H Hughes
                                                                G B Jones
                                                                A J Morris                                                                                           
Yn bresennol:       Cynghorydd Sir:   R P Quant
                                Clerc:                    M C Walker         
                                                                6 aelod o'r Cyhoedd
 
YMDDIHEURIADAU
 
1.  Y Cynghorwyr G Ashley, J James, D Tweedy ac M J Willcox.
 
ETHOL CADEIRYDD
 
2.  Etholwyr y Cyng. Rona Dalton yn Gadeirydd ar gyfer 2019/20. Roedd pob Aelod a oedd yn bresennol yn unfrydol o blaid hyn.
 
DATGANIAD DERBYN SWYDD
 
3. Tyngodd y Cyng. Dalton yn swyddogol ei bod yn derbyn y swydd ac aeth i eistedd yn y gadair.
 
ETHOL IS-GADEIRYDD
 
4.  Etholwyd y Cyng. Hugh Hughes yn Is-gadeirydd ar gyfer 2019/20. Roedd pob Aelod a oedd yn bresennol yn unfrydol o blaid hyn.
 
DATGANIAD DERBYN SWYDD GAN GYNGHORYDD SYDD NEWYDD EI ETHOL
 
5.  Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mrs Delyth Pryce Jones ymuno â'r Cyngor. Tyngodd ei bod yn derbyn y swydd ac fe'i croesawyd yn aelod etholedig newydd o'r Cyngor. Bydd copi o'r Cod Ymddygiad a chopi o Reolau Sefydlog y Cyngor yn cael eu hanfon at y Cyng. Pryce Jones drwy e-bost.
 
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF A'R MATERION YN CODI
 
6.  Anfonwyd copïau o Gofnodion y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018 at bob Aelod drwy e-bost.  Cadarnhawyd yn y cyfarfod ar 4 Mehefin 2018 bod y cofnodion yn gywir, Cofnod 51. 
 
ADRODDIAD Y CADEIRYDD AR GYFER 2018/19
 
7.  Rwyf wedi bod yn falch iawn o wasanaethu fel Cadeirydd Cyngor y Borth eleni. Mae wedi bod yn gyfnod diddorol ac, ar brydiau, yn gyfnod dadleuol.
Credaf fod Cyngor Cymuned y Borth yn Gyngor rhagweithiol iawn a dyma roi rhai esiamplau o'r prosiectau a'r gweithgareddau yr ydym yn ymwneud â nhw.
 
Cynllun argyfyngau cymunedol/rhybuddion llifogydd
Caiff rhybuddion llifogydd eu cofnodi ac mae'r cynllun argyfyngau yn cael ei ddiweddaru'n barhaus. Mae'r cynllun hwn wedi'i rannu â chymunedau eraill.
 
Cŵn
 
 
Cŵn ar y traeth a chŵn yn baeddu. Mae'r Cyngor Cymuned yn ymwybodol iawn o'r mater hwn ac mae'n ceisio dod o hyd i ffordd i fynd i'r afael â'r broblem yn barhaus. Fodd bynnag, cyfrifoldebau perchnogion cŵn yw mynd i'r afael â hyn yn y pen draw ond rydym yn rhagweithiol iawn yn hyn o beth:
Mae arwyddion newydd yn cael eu creu i ddangos lle caniateir mynd â chŵn am dro. Yn eu plith mae posteri maint baner sy'n canolbwyntio ar ein traeth baner las. Mae'r Cyngor yn ceisio mynd i'r afael â phethau mewn ffordd fwy cadarnhaol.
 
Goryrru
 
 
Mae'r Borth unwaith eto wedi bod yn rhagweithiol iawn yn hyn o beth ac mae nifer o sesiynau gwylio cyflymder wedi'u cynnal yn y pentref gan Gynghorwyr a chan yr Heddlu. Ein gobaith yw y gallwn barhau â hyn yn y dyfodol ac rydym yn annog rhagor o bobl i ymuno â ni. Ein nod yw sicrhau bod pobl yn fwy ymwybodol o'r cyfyngiad cyflymder. Gofynnir inni wneud hyn yn hwyr yn y nos pan fo'r rhan fwyaf o'r problemau yn digwydd yn ôl pob golwg, ond nid yw hyn yn ymarferol.
 
Maes Chwarae
 
Mae'r maes chwarae i blant wedi cael cyfarpar chware newydd, yn arbennig felly i blant iau. Mae system ddraenio newydd hefyd wedi'i gosod yn y maes chwarae. Y gobaith yw y bydd hyn yn mynd i'r afael â'r llifogydd sydd wedi digwydd yn y fan hon. Talwyd am hyn i gyd drwy grantiau oddi wrth Chwarae dros Gymru.
 
Toiledau
 
Mae'r Cyngor yn parhau i ariannu'r toiledau ger gorsaf y bad achub. Golyga hyn y gall y toiledau fod ar agor gydol y flwyddyn. Gallai hyn newid os daw'r ysgol hwylio arfaethedig i fodolaeth gan y bydd yr ysgol honno'n dod yn gyfrifol am reoli'r toiledau ger adeilad yr RNLI.
 
Y Rhyfel Mawr
 
 
Mae'r Cyngor wedi bod yn ymwneud â Phwyllgor y Rhyfel Mawr ers pedair blynedd bellach. Mae'r Pwyllgor wedi bod yn talu am argraffu llyfr am y Borth yn ystod y Rhyfel Mawr. Cyfrannodd yr Aelodau hefyd at y tudalennau sy'n ymwneud â'r môr yn Ynyslas ar yr 11eg o Dachwedd. Yn sgil yr arian a godwyd drwy werthu'r llyfr, bu'n bosib diweddaru Rhestr y Gwroniaid. Derbyniodd y Cyngor Cymuned wobr oddi wrth Un Llais Cymru am ei waith ymgysylltu cymunedol yn rhan o'r prosiect hwn.
 
Digwyddiadau a gefnogir gan Aelodau'r Cyngor
Mae'r Cynghorwyr yn aml yn mynd i ddigwyddiadau drwy'r pentref ac maent wrth law i wrando ar bryderon pobl bob tro.
Mae Aelodau'r Cyngor yn llywodraethwyr ysgolion, yn ymddiriedolwyr Canolfan Deuluol y Borth, yn aelodau o'r Cyngor Iechyd Cymuned, yn gynrychiolwyr ar gyrff megis Un Llais Cymru a Biosffer Dyfi, ymhlith llawer eraill.
 
Tipio anghyfreithlon/sbwriel
 
Mae'r mater yn parhau. Mae rhybuddion wedi'u rhoi ar finiau i annog pobl i beidio â'u defnyddio i waredu â gwastraff domestig. Mae'r banc poteli wedi bod yn broblem barhaus ac mae'n rhaid i Gynghorwyr glirio’r fan hon yn aml. Mae arwyddion sy'n ymwneud â thipio anghyfreithlon wedi'u gosod ond cânt eu hanwybyddu’n barhaus.
 
Safle bws
Mae'r holl safleoedd bws wedi'u hatgyweirio ac mae gan ddau ohonynt lun gan y ffotograffydd Janet Baxter o'r goedwig a suddwyd. Cafwyd nifer o sylwadau cadarnhaol ynglŷn â hyn a byddai'n dda o beth pe gellid cael llun ymhob un o'r safleoedd bws.
 
Clwb Hwylio'r Borth
 
Trafodwyd Clwb Hwylio'r Borth ar sawl achlysur ac mae Ms Heathcote wedi dod atom i siarad am y fenter gyffrous hon. Mae prydles yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd.
 
Facebook
 
Mae tudalen Facebook Cymuned y Borth wedi'i defnyddio i hysbysu'r cyhoedd ynglŷn â digwyddiadau sydd ar fin cael eu cynnal yn y Borth. Mae hyn, yn ogystal â'r gwaith y mae Graham wedi'i wneud ar wefan Cymuned y Borth, yn golygu bod llawer rhagor o bobl ymweld â’r dudalen.
 
Llwybr cerdded cŵn
 
Mae'r ardal cerdded cŵn wedi'i hadnewyddu a bydd yr ymyl gerllaw yn cael ei throi'n ardal blodau gwyllt. Bydd hyn yn digwydd mewn cydweithrediad â Kate Doubleday.
 
Yn anffodus, rydym eleni wedi colli pedwar Cynghorydd, sef Billy Williams, Jill Hulse, Stacey Slavin a Naomi Salmon. Gwnaeth pob un ohonynt gyfraniad mawr yn ystod eu cyfnod ar y Cyngor a bydd bwlch mawr ar eu hôl. Rhaid imi sôn yn benodol am Billy Williams. Nis gwn pryd yn union y dechreuodd wasanaethu ar Gyngor Cymuned y Borth ond gwn ei fod wedi bod yno drwy gydol fy nghyfnod i ar y Cyngor. Rwyf wedi gweld eisiau ei edrychiad tuag ataf o ben arall y bwrdd a'r wên ddireidus honno wrth drafod materion y Cyngor. Gwyddai hefyd ragor am y Borth na'r rhan fwyaf ohonom. Rwyf hefyd yn gweld eisiau clywed ei eiriau hynod ddoeth.
Mae Aelodau newydd wedi ymuno â ni ac mae cyn-Aelodau wedi ailymuno, sef Dean Tweedy, Hugh Hughes and Anthony Morris. Ymunodd Mr Phil Turner Wright â ni am gyfnod byr cyn ymddiswyddo. Bydd Cynghorydd newydd yn ymuno â ni heno, sef Delyth.
  • Mae ein dyled yn fawr i Margaret Walker am gadw trefn ar bob un ohonom.
  • Hefyd, diolchaf i'r Cyng. Ray Quant am ei gymorth parod â materion y Cyngor Sir ac mae wedi fy nghynorthwyo'n aml wrth imi gyflawni fy swyddogaeth fel Cadeirydd.
  • Diolchaf i Graham Taylor am ei waith ar wefan y Borth.
  • Yn olaf, mae fy nyled yn fawr i'm cyd-Gynghorwyr sydd wedi fy nghefnogi drwy gydol fy nghyfnod fel Cadeirydd.
  • Trosglwyddaf yr awenau yn awr i'r Cyng. Rona Dalton a gwn y bydd y cyflawni gwaith clodwiw.
CWESTIYNAU A WAHODDWYD ODDI WRTH AELODAU'R CYHOEDD
 
8.  Gofynnod Dr Cadman pam nad oedd gan Gyngor Cymuned y Borth ei wefan ei hun. Dywedwyd wrtho fod gan Gyngor Cymuned y Borth adran ar Wefan Gymunedol y Borth. Ategwyd bod yr holl gofnodion ar gael yn ddwyieithog ar y wefan ynghyd â manylion cyswllt y Cynghorwyr. Gwirfoddolodd y Cyng. Hughes i ddiweddaru'r cofnodion i gyd.
 
Esboniodd Penny Arnold ei bod yn ymwneud ag ailgylchu a llygredd plastig. Mae'n pryderu am yr holl sbwriel sydd i'w gael yn yr adeilad brics ger y Cwrs Golff. Dywedodd y Cyng. Bainbridge bod trefniadau wedi'u gwneud i'r sbwriel gael ei glirio o'r safle ac y bydd yn cael ei gludo i'r brif ffordd i'w gasglu. 
 
GWIRIO'R RHESTR O WEITHREDOEDD Y CYNGOR
 
9.  Dywedodd y Clerc fod y gweithredoedd gwreiddiol yn cael eu cadw gan gyfreithiwr y Cyngor a bod ganddi hi gopïau dyblyg ohonynt. Mae croeso i'r Cynghorwyr fwrw golwg arnynt.
 
CAU'R CYFARFOD
 
10.  Am nad oedd rhagor o faterion i'w trafod, daeth y Cadeirydd â'r cyfarfod i ben am 19.01 o'r gloch.
  • Hits: 2442