• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Mehefin 2019

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, MEHEFIN 3 2019 AM 19.00 O'R GLOCH

 

Presennol:       Cadeirydd:                     R Dalton                                                         
              M Griffiths
              H Hughes
                                                              D Pryce Jones
                                                             G B Jones                   
                                                             A J Morris  
                                                             D Tweedy                                                                     
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:           R P Quant       
                        Clerc:                           M Walker            
                                                             5 aelod o'r cyhoedd.

Clywodd y Cyngor y newyddion hynod drist y bu'r Cyng. Gwenllian Ashley, a oedd yn Aelod o Gyngor Cymuned y Borth, farw ddydd Gwener, yr 31ain o Fai. Dywedodd y Cyng. Dalton ychydig eiriau a gofynnodd i'r Cynghorwyr ac i'r cyhoedd i gyd sefyll i dalu teyrnged iddi. Penderfynwyd cyfrannu £100 o Lwfans y Cadeirydd tuag at elusen o ddewis y teulu.  Y cynigydd oedd y Cyng. Hughes a'r eilydd oedd y Cyng. Bryn Jones. Pleidleisiodd pob aelod dros y cynnig.

YMDDIHEURIADAU

37.  Y Cynghorwyr C Bainbridge, J James ac M J Willcox.

CYFRANOGIAD Y CYHOEDD

38. Mae gan Ms Wendy Mclean bryderon ynghylch y tir comin y tu ôl i'w thŷ. Mae tunelli o wastraff domestig wedi'u gollwng yn y coed i'r dde o'r cae pêl-droed. Mae'n gwrthwynebu gadael i wartheg bori ar y safle yn chwyrn, er nad yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd. Mae'r rwbel sydd wedi'i adael ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru lanhau'r ddyfrffos wedi arwain at greu gwarchodfa bywyd gwyllt i nadroedd a charlymod. Gofynnwyd i'r Clerc ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru. Awgrymodd Ms Mclean y dylid gwaredu â'r ardd sydd ynghanol y maes parcio gyferbyn â Haven, gosod concrit yn ei lle a chael byrddau picnic a chadeiriau yno.

DATGAN BUDDIANNAU

39. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 

COFNODION Y CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

40.  Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 13 Mai 2019. Y cynigydd oedd y Cyng. Griffiths a'r eilydd oedd y Cyng. Hughes.  Roedd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn.                      .

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

41.  Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 13 Mai 2019. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Bryn Jones. Roedd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn.                                            .

MATERION YN CODI

42.  Tir Comin.  Cofnod 5.  Rhoddodd y Cyng. Dalton ddiweddariad byr ynglŷn â chyfarfod a gafwyd â'r Cyng. Hughes a chyda Rhys Evans o Gyngor Sir Ceredigion i drafod tipio anghyfreithlon a choelcerthi ar dir y tu ôl i Lanwern.

43.  Baner Cymru.  Cofnod 6.  Cadarnhaodd y Clerc fod y polyn newydd wedi'i osod. Awgrymodd y Cyng. Hugh Hughes y dylid gostwng y faner i hanner mast yn deyrnged i'r Cyng. Gwenllian Ashley. Roedd pob Aelod yn gytûn.

GOHEBIAETH

44.  Cyngor Sir Ceredigion.  Cais am sylwadau ynghylch cynnwys yr Adroddiad Cwmpasu ar gyfer yr Arfarniad Cynaliadwyedd / yr Asesiad Amgylcheddol Strategol sy'n nodi'r ffordd y bwriada'r Awdurdod asesu cynaliadwyedd y Cynllun Datblygu Lleol.

45.  Redesigns UK.  Cafwyd dyfynbris ar gyfer delweddau o'r goedwig suddedig i'w gosod ar y 2 safle bws sy'n weddill. Byddent yn costio oddeutu £70-£80 + TAW. Cynigiodd y Cyng. Pryce Jones y dylid derbyn y dyfynbris ac na ddylid talu mwy na £80. Eiliwyd hyn gan y Cyng. Bryn Jones. Roedd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn.                      

46.  Maes Chwarae.  Bydd ROSPA yn cynnal archwiliad o'r maes chwarae ym mis Mehefin.

47.  Cyngor Sir Ceredigion.  Mae'r Borth wedi derbyn Baner Las a Gwobr Glan Môr yn y Gwobrau Arfordirol i draethau Ceredigion 2019.

48.  Llywodraeth Cymru.  Manylion yr ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd.

49.  Celf y Borth.  Llythyr yn diolch i'r Cyngor am ei rodd ddiweddar.

50.  Clwb Rhwyfo'r Borth.  Cais i ddefnyddio'r maes parcio yn ystod diwrnod ei Ras Flynyddol ar y 30ain o Fehefin. Dim gwrthwynebiad.

51.  Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.  Gwahoddiad i ddau gynrychiolydd o'r Cyngor gymryd rhan yn yr Orymdaith Ddinesig yng Ngŵyl y Cyhoeddi ar ddydd Sadwrn, y 29ain o Fehefin.

52.  Cyngor Sir Ceredigion.  Cytundeb Cynnal a Chadw Cyfarpar Chwarae rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Cymuned y Borth i'w arwyddo gan y Cadeirydd a'r Clerc yn sgil sicrhau grant i brynu cyfarpar ar gyfer y maes chwarae. Soniodd y Clerc am gynnwys y cytundeb a chynhigiodd y Cyng. Hughes y dylai'r Cadeirydd a'r Clerc arwyddo'r ddogfen yn unol â'r cais.  Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Jones a phleidleisiodd pob aelod o'i blaid.

53.  Llywodraeth Cymru.  Cylchlythyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

54.  Tir nesaf at Gae Soar.   E-bost sy'n mynegi pryder nad oes dim yn cael ei wneud i ddatrys y broblem sydd wedi codi o ganlyniad i waith Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghae Soar. Gofynnwyd i'r Clerc ymateb drwy ddweud nad yw Cyngor Cymuned y Borth erioed wedi gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru lanhau'r ddyfrffos.

55.  Un Llais Cymru.  Arolwg i'w gwblhau sy'n ymwneud â'r Protocol Datrysiadau Anffurfiol Enghreifftiol newydd sy'n delio â chwynion lefel isel.

56.  Bae Aberteifi.  Llythyr oddi wrth aelod o'r cyhoedd sy'n pryderi am y bwriad i chwilio am nwy ac olew ym Mae Ceredigion. Cytunodd y Cyngor y dylai'r Cyng. Morris ymateb.

57.  Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.  Copïau o Argymhellion Terfynol y Comisiwn sy'n ymwneud â'r trefniadau etholiadol i Geredigion a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i'w hystyried.

58.  Un Llais Cymru.  Manylion Cynhadledd Arfer Arloesol a gynhelir ar faes y Sioe Frenhinol ar y 10fed o Orffennaf.

59.  Gohebiaeth Arall  Llyfryn Glasdon a Chwarae dros Gymru.

CYFRIFON

60. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Mai 2019
      Nationwide                                                                                                                       29,879.20
      Cyfri Cymunedol                                                                                                              14,459.49
      Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                                                              11,454.76
      Cyfri Adnau                                                                                                                        3,579.83
61. Incwm  
      Dim.  
62. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
      Cyngor Sir Ceredigion - polyn baner 8 metr ei hyd                                                                537.60
      Cyngor Sir Ceredigion - Baner y Ddraig Goch                                                                      100.86
      Heledd Davies – Cyfieithu cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chyfarfod mis Mai
      M Walker - cyflog                                                                                                                  508.00 
      Walker & Doyle - codi polyn newydd a gosod baner newydd                                               360.00
      Luke Griffiths – 5 o arwyddion cŵn â ffitiadau                                                                     288.00
 
63.  Datganiad Blynyddol am y Flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019. Dosbarthwyd copïau o'r Datganiad Blynyddol i'r Cynghorwyr. Rhoddodd y Cyng. Quant adroddiad cynhwysfawr ynghylch y cyfrifon a'r Datganiad Blynyddol. Mae'r Cyngor yn cadarnhau bod y Datganiad Blynyddol wedi'i gyflwyno i'r Cyngor a phenderfynodd gymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2018/19. Mae'r Cyngor yn nodi cynnwys Adroddiad yr Archwiliad Mewnol Blynyddol a gynhaliwyd ac a ardystiwyd gan Mrs Hilary Matthews (Archwilydd Mewnol) a phenderfynwyd cymeradwyo Rhannau 1 a 2 o'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Awdurdodwyd y Cadeirydd a'r Clerc i arwyddo'r Datganiad ar ran y Cyngor. Y cynigydd oedd y Cyng. Hughes, yr eilydd oedd y Cyng. Morris ac roedd pob Aelod o blaid y cynnig.
 
Cynhaliodd Mrs Hilary Matthews yr Archwiliad Mewnol ar ddydd Mawrth, yr 21ain o Fai a gall aelodau'r cyhoedd arfer eu hawl archwilio ar ddydd Iau, y 3ydd o Orffennaf yn y Neuadd Gymunedol. 
 
CYNLLUNIO
 
64.  Ceisiadau am Ganiatâd Cynllunio Llawn
Dim.
 
PRYDLES Y PARC CYCHOD
 
65.  Darllenodd y Cyng. Quant sylwadau Huw Bates parthed prydles y parc cychod ynghyd â'r ymatebion oddi wrth Emma Heathcote. Bydd yr holl awgrymiadau a'r sylwadau yn cael eu hanfon at y cyfreithiwr er mwyn iddi hi ystyried rhagor arnynt cyn cwblhau'r brydles.
 
GWEFAN Y CYNGOR
 
66.  Mae'r Cyng. Hughes wedi cychwyn ar waith diweddaru gwybodaeth y Cyngor ar y wefan gymunedol. Diolchodd i Graham Taylor am ei gymorth.
 
CŴN
 
67.  Cadarnhaodd y Clerc fod Luke Griffiths o Redesign UK wedi gosod 5 o arwyddion cŵn newydd ar Cliff Road.  Crybwyllodd y Clerc fod chwyn yn tyfu drwy gerrig yn y maes parcio i ddefnyddwyr y llwybr cerdded cŵn. Cytunwyd i aros hyd nes bod y Cyng. Willcox yn dychwelyd i'r Cyngor yn sgil salwch diweddar cyn gweithredu ar y mater.
 
MATERION Y CADEIRYDD
 
68.  Yn sgil gosod llinellau melyn sy'n gwahardd parcio dros nos ar lan y môr, mae cerbydau wedi dechrau parcio ar y brif stryd lle nad oes arwyddion ac i lawr tuag at Cambrian Terrace. Mae'r arwydd tri dimensiwn gyferbyn â Cambrian Terrace wedi torri. Mae pobl yn dal i bryderu am y ffensio ar hyd y llwybr tuag at yr orsaf. Mae'r Cyng. Dalton wedi ysgrifennu at wahanol gyrff ac mae'r Cambrian News wedi cytuno i ysgrifennu erthygl am y pwnc. Yn ystod y cyfarfod PACT diweddar, y prif destun trafod oedd goryrru. Awgrymwyd bod y Cyngor yn gwneud ymholiadau ynglŷn â'r posibilrwydd o baentio twyll llygaid ar y ffordd er mwyn ceisio tawelu'r traffig. Mae'r Cyngor yn cefnogi hyn yn llawn. Bydd y Cyng. Quant yn holi ynglŷn â’r mater.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
69.  Yn ei habsenoldeb, anfonodd y Cyng. Bainbridge y diweddariad hwn:  
Mae'r gwaith â'r Cyngor Iechyd Cymunedol yn parhau - aeth i Fronglais i gyfweld â mamau newydd. Mae'r Cyng. Dalton yn cynorthwyo â'r dudalen Facebook. Mae hefyd angen glanhau a phaentio'r safle bws yn Ynyslas. Dywedodd y Clerc y byddai'n gofyn i Kieran Doyle am ddyfynbris. Mae'r sbwriel sydd wedi'i adael yn y cwt ar y cwrs golff yn cael ei glirio ar hyn o bryd. Mae'r Cyngor wedi cysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd.
Dywedodd y Cyng. Hughes ei fod wedi archwilio'r ddau ddiffibriliwr. Mae'r padiau electrod yn y peiriant ger y neuadd bellach yn hen ac aed â'r padiau electrod yn y diffibriliwr ger y toiledau cyhoeddus ym mhen gogleddol y pentref, ynghyd â'r allwedd. Mae'r Clerc wedi archebu dwy set newydd o'r padiau drwy Calonnau Cymru. Soniodd y Cyng. Hughes fod tunelli o laid a chraig wedi'u dymchwel ar y maes parcio gyferbyn â Haven. Bydd yn ymchwilio i'r mater. Rhaid cyflwyno ceisiadau am gyllid Chwaraeon Cymru erbyn diwedd Mehefin. Bydd y Cyng. Hughes yn cael sgwrs â chyn-gydlynydd dementia ynglŷn â'r modd y gallai'r Borth fod yn gymuned dementia gyfeillgar.
Bu'n bresennol mewn cyfarfod lle awgrymodd aelod o'r cyhoedd y dylai'r Cyngor gyfrannu £1000 eleni a'r un swm y flwyddyn nesaf tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Cyngor Cymuned y Borth wedi cytuno i unioni unrhyw ddiffyg yn y targed o £5000. Datganodd y Cynghorwyr Quant, Griffiths a Pryce fuddiant ac aethant allan o'r ystafell.
Mae'r Cyng. Tweedy wedi gwirfoddoli i fynd â'r garafán sydd wedi'i gadael ar y ffordd tuag at y fferm trin carthion i'r sw i'w defnyddio fel lloches i anifeiliaid. Rhaid cael arwyddion brown newydd ar gyfer y sw. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n codi'r mater â Chyngor Sir Ceredigion.
Rhoddodd y Cyng. Morris ddiweddariad byr ynglŷn â chyfarfod diweddar y Biosffer y bu'n bresennol ynddo.
Dywedodd y Cyng. Jones y bu Gŵyl y Bwgan Brain yn llwyddiant mawr i'r pentref. Bydd yn cymryd rhan mewn gweithdy yn Llanrwst ddydd Mawrth, yr 11eg o Fehefin ar y cyd â'r Cyng. Dalton. Byddant yn annerch y gweithdy ynglŷn â'r Cynllun Llifogydd a'r Arolwg Cymunedol a gynhaliwyd gan Gyngor Cymuned y Borth.
 
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
70.  Mae'r Cyng. Quant wedi gofyn i'r Swyddog Gorfodi ymweld ag Ynys Wen a Midland Stores. Mae'n ymchwilio i bwy sy'n berchen ar y darn glaswelltog ar y clogwyn. Bydd Dŵr Cymru yn cynnal arolwg o'r dyfrffosydd. Cynhelir Diwrnod i'r Teulu ar ddydd Sadwrn, y 15fed o Fehefin i godi arian tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhelir Gorymdaith i Gyn-filwyr ar y 26ain o Fehefin. Yn dilyn hynny, cynhelir cyngerdd yn y Neuadd Gymunedol. Mae'r Cyng. Quant wedi cael cadarnhad y bydd 3ydd cam prosiect amddiffyn y môr o'r Borth i Ynyslas yn ailgychwyn.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
71.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 10.00pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf ar y 1af o Orffennaf fydd cyflwyniadau gan Mark Williams, Cadeirydd Fforwm Gogledd Ceredigion ar gyfer Gofal yr Henoed a chan Sam Henly, Cysylltydd Porth y Gymuned. Dylid hysbysu'r Clerc ynglŷn ag eitemau eraill.
 
 
  • Hits: 1594