• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Hydref 2019

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, HYDREF 7 2019 AM 19.00 O'R GLOCH

 

Presennol:   Cadeirydd:                       R Dalton
                                                         C Bainbridge
                                                         M Griffiths                                          
                                                         H Hughes                                            
                                                         D Pryce Jones
                                                         G B Jones                                                        
                                                         A J Morris
                                                         D Tweedy
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:          R P Quant
Clerc:                                                M Walker            
                                                            6 aelod o'r Cyhoedd. 
 

YMDDIHEURIADAU

158.  Y Cyng. J James. Mae'r Clerc wedi cael llythyr oddi wrth y Cyng. Willcox sy'n cadarnhau ei fwriad i ymddiswyddo yn sgil salwch diweddar.

CYFRANOGIAD Y CYHOEDD

159.   Dim.

DATGAN BUDDIANNAU

160. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

161. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019.     

Y cynigydd oedd y Cyng. Hughes a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn.

MATERION YN CODI

162.  Tir Comin.  Cofnod 118. Aethpwyd i'r afael â hyn dan Gofnod 165.

GOHEBIAETH

163.  Un Llais Cymru.

Dolen i dudalen Facebook Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy'n gofyn i awdurdodau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi cynllun sy'n amlinellu'r hyn y maent yn bwriadu'i wneud i gydymffurfio â'r ddyletswydd i gynnal a chadw bioamrywiaeth o fewn eu meysydd gwaith cyfredol.

Manylion seminar Gwireddu Cymru Gydradd.

Gwybodaeth am Ymddiriedolaeth Carnegie UK sy'n ceisio gwella bywydau a lles pobl drwy'r Deyrnas Gyfunol, yn enwedig y rhai sydd o dan anfantais.

Amddiffyn Mannau Cymunedol.

Agenda a phapurau cefndirol Pwyllgor Ardal Ceredigion Un Llais Cymru ym Mhenmorfa ar y 9fed o Hydref.

Ymchwil i Drosglwyddo Asedau Cymunedol.

164.  Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth am yr holl ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd.

Bwletin Cyfoeth Naturiol Cymru mis Medi 2019.

Cylchlythyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol mis Medi 2019.

165.  Dŵr yn llifo o'r ddyfrffos.  Sawl e-bost a ffotograffau oddi wrth breswylydd yn Nglanwern sy'n ymwneud â dŵr yn llifo o'r ddyfrffos i mewn i'w eiddo. Mae hyn wedi digwydd ar sawl achlysur. Mae'r Cynghorwyr Hughes a Morris yn bwriadu ymweld â Mr Beech ar ddydd Gwener, yr 11eg o Hydref i drafod y problemau sydd wedi codi oherwydd y ddyfrffos. Awgrymwyd y dylai'r Cyngor gysylltu â Carol Fielding o Gyfoeth Naturiol Cymru ac ategwyd y dylai cynrychiolydd o Gyngor Sir Ceredigion hefyd fod yn bresennol.

166.  Celf y Borth.  Llythyr yn diolch i'r Cyngor am gefnogi Borth Begins a manylion arddangosfa celfyddydau'r Borth ym MOMA rhwng yr 21ain o Fedi a'r 16eg o Dachwedd.

167.  Tîm Ymgyrch Cymdeithas y Cerddwyr.  Manylion eu Siartr Cymdogaethau sy'n Cerdded.

168.  Cyngor Sir Ceredigion.  Cais i hyrwyddo Her y Gyllideb ymhlith yr Aelodau a phreswylwyr yr ardal sy'n rhoi cyfle iddynt ddweud sut y dymunent i gyllideb y Cyngor gael ei gwario yn 2020-2021.

169.  Y llwybr troed gyferbyn â'r arcêd ddifyrion.  E-bost sy'n mynegi pryderon ynghylch cyflwr peryglus y llwybr troed gyferbyn â'r arcêd ddifyrion. Mae'r Cyng. Quant wedi cael dyfynbris oddi wrth gwmni tarmac am £9200 + TAW ac am £7275 + TAW arall er mwyn gosod ymyl ar yr ardal rhwng y tarmac a'r llain laswelltog. Penderfynwyd gofyn am ragor o ddyfynbrisiau a thrafodwyd y posibilrwydd o ddefnyddio deunyddiau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Gofynnwyd i'r Clerc hefyd gysylltu ag Un Llais Cymru i ofyn am gyngor ynglŷn â sefyllfa gyfreithiol y Cyngor wrth iddo barhau i adael y cyhoedd gerdded ar hyd y llwybr tra ei fod yn gofyn am ddyfynbrisiau am y gwaith atgyweirio, er y gŵyr bod y llwybr yn beryglus.

170.  Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth  Llythyr yn diolch i'r Cyngor am £4000 o gyllid refeniw.

171.  Cyngor Sir Ceredigion.   Manylion y gwasanaeth casglu gwastraff newydd ar Lwybr 126.

172.  Canolfan Deuluol y Borth. Cais am £500 i sefydlu a rhedeg grŵp dementia gyfeillgar yn y Borth a gwahoddiad i gyfarfod ymgynghorol i drafod anghenion preswylwyr y Borth ar yr 16eg o Hydref yn y Neuadd Gymunedol. Datganodd y Cynghorwyr Bainbridge, Dalton, Hughes a'r Cynghorydd Sir, y Cyng. Quant fuddiant a gadawsant yr ystafell. Penderfynwyd cyfrannu £500 er mwyn helpu i sefydlu'r grŵp. Y cynigydd oedd y Cyng. Pryce Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr holl Aelodau eraill o blaid y cynnig.

173.  Ger y Don. Cais oddi wrth berchnogion Ger y Don i brynu'r tir y tu cefn i Ger y Don. Ystyriodd yr Aelodau y cais a chytunwyd i'w werthu. Penderfynwyd hefyd y dylai cwmni annibynnol, sef Cwmni Gwerthu Aled Ellis, benderfynu beth yw ei werth ac y dylai'r prynwr dalu'r holl gostau cyfreithiol. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Hughes a phleidleisiodd pob Aelod o blaid y cynnig. 

174.  Ecodyfi.  Copi o hysbyseb am Swyddog Gweinyddol dwyieithog rhan-amser.

175.  Gwaith atgyweirio ar y Maes Chwarae.  Costau manwl y gwaith atgyweirio ar y maes chwarae oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion. Bydd y gwaith yn costio oddeutu £5200. Cynigiodd y Cyng. Bainbridge y dylai'r Cyngor wario £500 ar fân waith atgyweirio yn unol â'r dyfynbris. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Griffiths a phleidleisiodd pob Aelod o'i blaid. 

176.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion ymgynghoriad ar waredu â ffonau talu BT.

177.  Penderfyniadau ynghylch Goleuadau Stryd a'r Eisteddfod Genedlaethol.  E-bost a ddaeth i law'r Clerc a'r Cynghorwyr ac y copïwyd sawl corff ynddo a oedd gwneud honiadau ynglŷn â cham-reoli pleidleisiau.

178.  Cofeb y Borth.  Mae'r Clerc wedi cael dyfynbris o £210 gan gynnwys TAW oddi wrth TME am waith archwilio a phrofi'r system amddiffyn rhag mellt ar y gofeb. Penderfynodd yr Aelodau dderbyn y dyfynbris yn unfrydol.

179.  Y Ddôl.  Diweddariad ar y cynnydd hyd yma.

180.  Gohebiaeth Arall  Clerks and Councils Direct.

CYFRIFON

181. Balans y Cyfrifon ar 13 Medi 2019
        Nationwide                                                      29,879.20
        Cyfri Cymunedol                                               5,702.24
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                              14,123.98
        Cyfri Adnau                                                      3,583.54

182. Incwm  

        Cyfri Adnau - llog gros hyd 5 Medi 2019                         1.79
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd - llog gros hyd 5 Medi 2019   7.04                

183. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:

        Luke Griffiths –  2 ddelwedd ar safle bws                                                             180.00
        Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi - Cynllun Talu Wrth Ennill Gorff., Awst a Medi        381.00
        M Walker - cyflog 508.00, costau swyddfa 23.89                                                  531.89
        Heledd Davies - cyfieithu cofnodion mis Medi                                                       99.55
        Robert Griffiths - torri porfa                                                                                  1,872.00
        Canolfan Deuluol y Borth - rhodd ariannol                                                             500.00

184.  Dosbarthodd y Clerc wybodaeth am incwm a gwariant y Cyngor tan y 1af o Hydref ynghyd â balansau'r holl gronfeydd a neilltuwyd.    

CYNLLUNIO

185.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn

Dim.

PRYDLES Y PARC CYCHOD

186.  Darllenodd y Cyng. Dalton lythyr oddi wrth Emma Heathcote a ofynnai i'r Cyngor fynd i'r afael â'i phryderon. Mae'r Cyng. Hughes wedi creu rhestr o'r holl gychod a’r trelars ac ati yn y parc cychod a bydd yn ceisio dod i wybod pwy sy'n berchen arnynt i gyd. Datganodd y Cyng. Morris fuddiant ac arhosodd yn yr ystafell. Roedd gan y Cyng. Hughes bryderon ynghylch y trydydd opsiwn a rodd Huw Bates gerbron y Cyngor lle cyfeiria at y ffaith bod gan berchnogion cychod "hawl glir i ddefnyddio'r iard." Awgrymwyd y dylai'r Clerc gysylltu ag Un Llais Cymru i gael cyngor cyfreithiol ar y mater. Y cynigydd oedd y Cyng. Griffiths a'r eilydd oedd y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd 7 Aelod o blaid y cynnig ac ymatalodd 1 Aelod.

RHEOLIADAU ARIANNOL ENGHREIFFTIOL DIWYGIEDIG

187.  Mae Cynghorau wedi cael Rheoliadau Ariannol Enghreifftiol diwygiedig i'w hystyried ac mae mân newidiadau wedi'u gwneud ers fersiwn 2016. Dosbarthodd y Clerc gopïau o'r hen fersiwn ynghyd â fersiwn newydd o'r adrannau perthnasol. Penderfynodd yr Aelodau fabwysiadu'r Rheoliadau diwygiedig newydd. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd pob aelod yn unfrydol o blaid y cynnig.

GWELYAU BLODAU

188.  Gohiriwyd y mater tan y cyfarfod ym mis Ionawr.

GORYRRU

189.  Cyfeiriodd y Cyng. Dalton at ddamwain ffordd ddiweddar ger y Clwb Golff a'r dŵr sylweddol a oedd ar y ffordd y diwrnod hwnnw. Roedd goryrru yn un o'r prif bynciau trafod yn y cyfarfod PACT diweddar ac awgrymwyd y dylai'r Cyngor drafod â Chyngor Sir Ceredigion y posibilrwydd o osod arwyddion cyflymder sy'n fflachio ar y darn hwnnw o’r ffordd.

LLWYBRAU TROED

190.  Gallai diffyg llwybr troed yng Nglanwern achosi problemau diogelwch wrth i geir yrru'n gyflym drwy'r darn hwnnw o'r pentref.

Yr Argyfwng Hinsawdd

191.  Darllenwyd llythyr oddi wrth breswylydd yn y Borth a ofynnai i'r Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd. Gofynnwyd i'r Clerc anfon yr ateb hwn: Mae'r Cyngor yn llawn gefnogi'r egwyddor o gydnabod yr argyfwng hinsawdd a bydd yn adolygu'i bolisïau yn y dyfodol ac yn ystyried yr effaith ar bob penderfyniad a wna yn y dyfodol.

Tir Comin

192.  Gohiriwyd y mater tan y cyfarfod ym mis Tachwedd.

MATERION Y CADEIRYDD

193.  Rhaid tynnu'r baneri cŵn i lawr a'u storio i'r flwyddyn nesaf. Rhaid rhoi'r byrddau storm yn ôl yn eu lle ac, yn sgil ymddiswyddiad y Cyng. Willcox, rhaid i'r Cyngor benodi cydlynydd llifogydd newydd.

CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR

194.  Gwirfoddolodd y Cyng. Morris i weithredu fel ail archwilydd ariannol mewnol y cyfrifon yn sgil ymddiswyddiad y Cyng. Willcox.

Nid oes gan y Cyng. Hughes ddiweddariad ar hyfforddiant y diffibriliwr. Byddai gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn barod iawn i ddod i un o gyfarfodydd y Cyngor Cymuned i drafod yr ymchwil sy'n cael ei gynnal i rîff y Borth. Mae Mark Williams yn cynnal cyfarfod i drafod dementia ar y 6ed o Dachwedd. Cynhelir noson rasys ceffylau yn y Clwb Golff ar y 1af o Dachwedd i godi arian tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd y Cyng. Jones yn cwrdd â chynrychiolydd o Cered i drafod yr ymchwil i ddefnydd y Gymraeg yn y gymuned. Bydd y Cynghorwyr Pryce Jones a Griffiths hefyd yn bresennol yn y cyfarfod ar y 10fed o Hydref. Mae'r Cyng. Jones yn poeni'n fawr am lechwedd serth y banc cerrig mân ar y traeth. Dywedodd y Cyng. Dalton y byddai'n ysgrifennu llythyr arall at Gyngor Sir Ceredigion i ofyn am ymweliad safle ac ategodd y byddai'n gofyn i'r Cynghorwyr fod yn bresennol.

Atgoffodd y Cyng. Bainbridge y Cynghorwyr y cynhelir noson rhoddion ariannol y Carnifal ar y 19eg o Hydref am 6pm pan gyflwynir £10,000 i wahanol glybiau ac ati. Mae Rhestr y Gwroniaid newydd i'w gweld yn y Neuadd Gymunedol.

ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR

195.  Nid yw manylion treuliau'r etholiad diweddar ar gael eto.

Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA

196.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 9.50pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, Tachwedd y 4ydd 2019 fydd Cyfethol Aelod Newydd i'r Cyngor a Llwybrau Troed. Dylid hysbysu'r Clerc ynglŷn ag eitemau eraill.                                                                                        

197.  Bu’n rhaid i’r Cyngor ddod â'r cyfarfod i ben am rai munudau dan yr eitem "Gohebiaeth" am fod aelod o'r cyhoedd yn amharu ar y cyfarfod.

  • Hits: 1535