• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Mawrth 2020

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, MAWRTH YR 2IL 2020 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:   Cadeirydd:                    R Dalton
                                                         C Bainbridge                                       
                                                         R Davies
                                                         M Griffiths                  
                                                         A J Morris                                                                                                         
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:      R P Quant
Clerc:              M Walker            
                                                            8 aelod o'r cyhoedd. 
 
YMDDIHEURIADAU
 
319. Y Cynghorwyr H Hughes, D Pryce Jones, G B Jones, J James a D Tweedy.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
320.   Daeth preswylwyr Cae Gwylan i'r cyfarfod i leisio'u pryderon ynghylch y llifogydd difrifol yr wythnos flaenorol, yn arbennig felly'r llifogydd yn rhif 22 a ddigwyddodd am fod y dyfrffosydd wedi'u blocio. Anfonodd Cyngor Sir Ceredigion fagiau tywod ac fe'u rhoddwyd y tu allan i rifau 22, 23 a 24. Hysbysodd y Cyng. Quant y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod y bydd hawl gan bob eiddo sydd wedi'i effeithio gan lifogydd yn ystod y stormydd diweddar gael grant o £500 oddi wrth Lywodraeth Cymru. Cafwyd llifogydd yn Marsh Bank yng Nglanwern ac ar y ffordd o'r Cwrs Golff tuag at Ynyslas, lle'r oedd y dŵr yn llawer dyfnach na'r arfer. Cafwyd peth llifogydd hefyd ar y ffordd tuag at Searivers ac achosodd hyn ddifrod i rai ceir nad oedd dewis gan eu perchnogion ond gyrru ar hyd y ffordd honno gan eu bod yn byw yn Searivers. Cynigiodd y Cyng. Morris gydweithio â'r perchnogion tai er mwyn paratoi llythyr at bob corff cyhoeddus perthnasol i ofyn am ddatrysiad i'r broblem hon nad yw'n mynd i ffwrdd. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Bainbridge.
 
Dywedodd Mr James Davies y byddai'r ffordd tuag at Fachynlleth ynghau am bythefnos er mwyn ailosod wyneb arni.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
321. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
322. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
MATERION YN CODI
 
323. Cofnod 314.   Mae'r Cyng. Bainbridge wedi argraffu posteri sy'n sôn am Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop a sut i ddathlu'r digwyddiad. Fe'i dosberthir i bob tafarn a pharc carafanau.
 
Cofnod 316.    Mae safle bws Ynyslas wedi'i hagru unwaith eto ac awgrymwyd y gellid paentio murlun ar y waliau. Byddai'r Cyng. Bainbridge yn ymchwilio i hyn.
 
GOHEBIAETH
 
324.  Llywodraeth Cymru.
Yr ymgynghoriadau diweddaraf.
Rhifyn Chwefror 2020 o fwletin Cyfoeth Naturiol Cymru.
Daw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 i rym ar yr 2il o Fawrth 2020.
Newyddion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 2020.
 
325.  Un Llais Cymru.
Bwletin Newyddion Misol.
Gwybodaeth am sut i gymryd rhan yng Ngwanwyn Glân Cymru.
Manylion a dyddiadau sesiynau hyfforddi a gynhelir yn Aberystwyth.
Manylion dogfen ymgynghori - Mwy nag Ailgylchu.
Y gofynion newydd o ran gwefannau Cynghorau, a rheoli coed.
Pecynnau Llefydd Lleol ar gyfer Natur.
Manylion seremoni Gwobrau Blynyddol Arfer Arloesol Un Llais Cymru.
Cyfleodd cyllido ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned yn rhan o raglen Twf Gwyrdd Cadwch Gymru'n Daclus.
Manylion cwrs hyfforddi yn Stryd y Popty, Aberystwyth ar yr 31ain o Fawrth sy'n ymwneud â "Deall y Gyfraith" a dyddiadau sawl sesiwn hyfforddi rhwng yr 19eg o Fawrth a'r 23ain o Orffennaf ym Machynlleth.
Gwahoddiad i gwblhau arolwg ar-lein ar Isadeiledd Gwyrdd Ceredigion.
Digwyddiad ar y cyd rhwng Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol - 29 Mai 2020.
Cais i gofrestru diffibriwlwyr y gymuned ar y rhwydwaith cenedlaethol.
Manylion swyddi gwag, sef Swyddog Datblygu Canolbarth a Gorllewin Cymru a Swyddog Polisi.
 
326.  Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.  Manylion y gwasanaeth Meddygon Teulu y tu allan i oriau a fydd yn effeithio ar rai ysbytai.
 
327.  Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Rhifyn Gaeaf 2020 o'u cylchgrawn.
 
328.  Swyddfa Archwilio Cymru.  Datganiad i'r wasg oddi wrth y Swyddfa Archwilio a manylion ymgynghoriad ar drefniadau archwilio cynghorau cymuned yng Nghymru yn y dyfodol.
 
329.  Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.  Manylion Adroddiad Atodol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - yr egwyddorion o ran ad-dalu costau gofal.
 
330.  Banciau ailgylchu ac arwyddion ffyrdd.  Llythyr a oedd yn caniatáu i Gyngor Cymuned y Borth anfon y llythyron gwreiddiol at Gyngor Sir Ceredigion i ofyn am ei ymateb.
 
331.  Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth  Llythyr a oedd yn diolch i'r Cyngor am y taliad diweddar o £4000.
 
332.  Ecodyfi.  Arolwg o'r modd y gall Ecodyfi a Choed Lleol fod o fudd i'r amgylchedd lleol ac i iechyd a lles bobl leol.
 
333.  Llifogydd.  Gohebiaeth a oedd yn ymwneud â'r llifogydd yn Marsh Bank, Glanwern, ar y ffordd ger y Cwrs Golff, ar y ffordd tuag at Searivers ac yng Nghae Gwylan.
 
334.  Celf y Borth.  Gwybodaeth am arddangosfa Gwanwyn 2020 a gynhelir yn Oriel CRiC yng Nghrug Hywel.
 
335.  Fields in Trust.  Bwletin mis Chwefror.
 
336.  TME Electrical.  Nodyn i hysbysu'r Cyngor y bydd y pris am oleuadau Nadolig 2020 yn codi. Penderfynodd yr Aelodau dderbyn y dyfynbris a roddwyd, sef £300 + TAW. Pleidleisiodd pob aelod o blaid hyn.
 
337.  Cyngerdd London Denmark Street (Big Band).  Manylion eu digwyddiadau Cyrraedd Cymunedau yng Ngheredigion. Gofynnwyd i'r Clerc hysbysu'r trefnwyr mai dim ond 250 o lefydd i eistedd sydd ar gael yn y neuadd.
 
338.  Baw cŵn. Gwahoddiad i sesiwn a gynhelir yn Neuadd Gymunedol Waunfawr ar yr 16eg o Fawrth er mwyn i bobl gael dweud eu dweud ynglŷn ag arolwg diweddar a strategaeth ymyrraeth i fynd i'r afael â baw cŵn. Gwirfoddolodd y Cyng. Griffiths i fynd i'r digwyddiad.
 
339.  Gohebiaeth Arall  Glasdon a Broxap.
 
CYFRIFON
 
340. Gweddill y cyfrifon ar 13 Chwefror 2020
        Nationwide                                                                               29,879.20
        Cyfrif Cymunedol                                                                    11,018.67
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                                    14,131.02
        Cyfrif Adnau                                                                               3,585.33
 
 
341. Incwm 
        Dim.
    
          
342. Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:  
        Swyddfa Archwilio Cymru – archwiliad 18/19                              258.75
        Un Llaid Cymru – aelodaeth 2020/21                                             272.00 
        Rona Dalton – tâl am 2 westai yng nghinio’r cyngor                       60.30               
        M Walker – cyflog £508, costau swyddfa £22.63                           530.63
        TME Electrical –  gosod y goleuadau ar y goeden Nadolig a'u tynnu i lawr   240.00
        CSC – atgyweirio’r maes chwarae                                                  522.00
        Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Chwefror                         66.10
        Eleanor Williams – rhodd ariannol                                                  100.00
        Capel y Garn – rhodd ariannol                                                          50.00
        Ambiwlans Awyr Cymru – rhodd ariannol                                       50.00
        Y Tincer – rhodd ariannol                                                                 25.00
        Grŵp Celf a Chyfeillgarwch y Borth – rhodd ariannol                     50.00
                                                           
CYNLLUNIO
 
343.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn
A200132.  Crudyrawel, Ffordd Clarach, Y Borth. Estyniad i annedd drwy ychwanegu llawr cyntaf at y garej presennol a chodi strwythur dau lawr i gysylltu'r ddau adeilad. Dim gwrthwynebiad.
 
PRYDLES Y PARC CYCHOD
 
344.  Hysbysodd y Clerc yr Aelodau ei bod wedi cysylltu â chwmni yswiriant y Cyngor parthed y bwriad i rentu tir y parc cychod ar brydles. Mae'r cwmni wedi rhoi gwybod iddi y byddai'n rhaid i Emma drefnu ei hyswiriant ei hun.
 
LLWYBRAU TROED
 
345.  Mae'r mater yn parhau.
 
CYNLLUN ARGYFYNGAU
 
346.  Dylai'r newidiadau terfynol fod wedi'u cwblhau erbyn diwedd yr wythnos. Cynigiodd y Cyng. Davies y gellid cyfieithu 4 tudalen gyntaf y Cynllun i'r Gymraeg. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Bainbridge. Os yw pobl am gael gafael ar fagiau tywod mewn argyfwng, dylent ffonio 01970 625277.
 
LLE GWAG AR Y CYNGOR.
 
347.  Mae'r mater yn parhau.
 
RHODDION ARIANNOL
 
348.  Ystyriwyd pob rhodd ariannol oddi wrth wahanol sefydliadau, yn ogystal â chais gan Eleanor Williams, preswylydd lleol, sydd wedi'i derbyn yn wirfoddolwyr ar brosiect Edge of Africa yn Ne Affrica. Ystyriwyd cais hefyd gan Helen Williams sy'n gofyn am rodd gyfatebol o £100 tuag at foreau dementia gyfeillgar wythnosol a fydd yn cychwyn ar ddydd Llun, yr 2il o Fawrth. Cefnogwyd y ceisiadau canlynol: Eleanor Williams, Capel y Garn, Ambiwlans Awyr Cymru, Y Tincer a Grŵp Celf a Chyfeillgarwch y Borth.                 
                                                           
MATERION Y CADEIRYDD
 
349.  Cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar ddydd Iau, y 19eg o Fawrth. Roedd nifer o ddraeniau yn gorlifo oherwydd y glaw trwm diweddar, yn enwedig felly yn Lôn yr Eglwys.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
350.  Dywedodd y Cyng. Morris fod Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg ar hyd yr arfordir.
Nid oedd gan y Cyng. Bainbridge ddim i'w nodi ynghylch y Cynllun Gwylio Cyflymder. Cynhelir cyfarfod dementia gyfeillgar ar y 5ed o Fawrth. Mae'r Cyng. Bainbridge wedi dod yn aelod o fwrdd Gorwelion a rhoddodd ddiweddariad byr ynghylch hyn.
 
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
351.  Hysbysodd y Cyng. Quant yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario £20,000 ar ailbroffilio'r rhan o'r traeth gyferbyn â Pebbles. Soniodd yn gryno am gyfarfod y bu'n bresennol ynddo i drafod Cam 3 pan ofynnodd a fyddai modd cynnwys ramp goncrit gyferbyn â Benfleet yn y cynllun, yn ogystal â throedffordd o'r Cwrs Golff tuag at Ynyslas. Rhoddodd y Cyng. Quant ddiweddariadau ynglŷn â chyfarfod diweddar rhwng y Biosffer a Phrif Weinidog Cymru ac ail ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
352.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 9.30pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf nos Lun, 6 Ebrill 2020 fydd Prydles y Parc Cychod, Llwybrau Troed, Cŵn, Lle Gwag ar y Cyngor a'r Cynllun Argyfyngau. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda.                                                                                         
 
  • Hits: 1811