Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Gorffennaf 2020
YMDDIHEURIADAU
1. Y Cynghorwyr M Griffiths a J James
2. Dim.
DATGAN BUDDIANNAU
3. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. Datganodd y Cyng. Davies fuddiant cyn y cyfarfod yng nghyswllt cais cynllunio A200445, gan mai ei eiddo ef oedd dan sylw. Ar ôl cael cyfarwyddyd oddi wrth Un Llais Cymru, penderfynwyd y bydd y Cyngor yn gofyn i'r Cyng. Davies adael y cyfarfod tra bod y cais yn cael ei drafod.
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
4. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 1 Mehefin 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
MATERION YN CODI
5. Prydles y Parc Cychod. Cofnod 400. Darllenwyd llythyr oddi wrth Emma dan 'Gohebiaeth”.
6. Coronafeirws. Diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth oddi wrth Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
7. Llywodraeth Cymru. Rhifyn mis Mehefin o fwletin Cyfoeth Naturiol Cymru.
8. Un Llais Cymru. Bwletin Mehefin 2020, Cylchlythyr Etholiadol mis Mehefin, llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a manylion "Hyfforddiant Troseddau Casineb."
9. Ecodyfi. Y diweddaraf.
10. Cyngor Sir Ceredigion. Cylchlythyr mis Mai Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda a manylion yr ymgynghoriadau diweddaraf ar waredu â ffonau talu BT. Gofynnwyd i'r Clerc weithredu yng nghyswllt gwrthwynebiad y Cyngor i'r bwriad i waredu â'r ffonau talu yn Ynyslas a'r ffôn talu ar safle'r hen neuadd.
11. Cynllun Argyfyngau. E-bost oddi wrth Jill Bullen yn gofyn a yw'r Cyngor bellach yn barod i argraffu’r Cynllun a'i anfon o dŷ i dŷ. Cytunwyd i ddechrau ymchwilio i'r costau. Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r Cynllun yn cael eu rhoi ar y wefan ac ar Facebook.
12. Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Aberystwyth - Amwythig. Manylion cynlluniau'r pwyllgor ar gyfer 2020-2025.
13. ROSPA. Adroddiad yn sgil yr Archwiliad Diogelwch a gynhaliwyd ar Gaeau Chwarae Uppingham.
14. Parc Cychod y Borth. Darllenodd y Clerc lythyr oddi wrth Emma a anfonwyd at bob aelod cyn y cyfarfod. Datganai Emma yn y llythyr ei bod yn tynnu'n ôl o Barc Cychod y Borth. Yn ei habsenoldeb, anfonodd y Cyng. Margaret Griffiths e-bost at Emma i ymateb i'w llythyr. Darllenodd y Clerc gynnwys yr e-bost hwnnw hefyd. Bydd y Cadeirydd yn ymateb i'r llythyr.
15. Clwb Pêl-droed Unedig y Borth. Cais am £2000 tuag at waith cynnal a chadw'r caeau chwarae.
Yn dilyn trafodaeth hir, cytunwyd i roi £1500 a chytunwyd i fwrw golwg unwaith eto ar sefyllfa'r Clwb yn hwyrach yn y flwyddyn ac i roi rhagor o gymorth petai'i angen arnynt. Bydd y Cyngor hefyd yn ymchwilio i ffyrdd eraill o ariannu gwaith cynnal a chadw'r tir, gan gynnwys yr opsiwn i gymryd cyfrifoldeb dros y contract. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Rhydian Davies. Pleidleisiodd pob aelod o blaid y cynnig.
Gofynnwyd i'r Clerc hefyd anfon manylion cyfleoedd i ymgeisio am gyllid grant at y Clwb.
16. Coeden. Copi o lythyr oddi wrth Feddygfa'r Borth at y Swyddog Cynllunio yng Nghyngor Sir Ceredigion sy'n ymwneud â'r bwriad i godi coeden ar draeth y Borth a'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar breswylydd sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl ac sy'n ystyried bod cerdded y traeth yn rhan o'i therapi.
17. Hywel Dda. Cylchlythyr mis Mehefin Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda.
CYFRIFON
CYNLLUNIO
21. Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.
A200414. Codi annedd. Plot gerllaw Haulfor, Francis Road, y Borth. Dim gwrthwynebiad.
A200445. Newidiadau arfaethedig i annedd bresennol. Werndeg, Glanwern, y Borth. Gadawodd y Cyng. Davies y cyfarfod (gweler cofnod 3). Dim gwrthwynebiad.
22. Mae'r traeth gyferbyn â Pebbles wedi'i ail-broffolio ers y cyfarfod diwethaf. Mae preswylydd lleol yn poeni am y creigiau sy'n pentyrru i gyfeiriad Belair ac am y ffaith bod y leinin i'w weld mewn mannau. Nodwyd, serch hynny, nad oedd dim i'w boeni yn ei gylch. Gofynnwyd i'r Clerc gynnwys "Cŵn” ar agenda'r cyfarfod nesaf. Mae'r Cynghorwyr Bryn Jones a Delyth Pryce Jones wedi gofyn i'r achubwyr bywyd dynnu sylw pobl sy'n ymweld â'r traeth at y gwaharddiad cŵn.
SAFLEOEDD BWS
23. Cytunwyd i ofyn i adeiladwr lleol am ddyfynbris am waith i atgyweirio'r persbecs ar y safle bws yn Cambrian Terrace ac ar y safle bws ger It's a Gift.
MATERION Y CADEIRYDD
24. Diolchodd y Cyng. Hughes i'r cyn-Gadeirydd ac i'r aelodau am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn a fu. Soniodd fod angen paentio mainc ar y ffordd tuag at yr eglwys a mainc arall ar Cliff Road, ond atebodd na fyddai hyn yn cael ei ystyried yn waith hanfodol ar hyn o bryd. Rhaid cael plac newydd ar y fainc a fabwysiadwyd ar y prom. Cytunwyd i gysylltu â'r perchennog i weld a allai'r Cyngor drefnu i gael plac newydd. Crybwyllodd y Cyng. Hughes fod angen cael baner Cymru newydd yn y maes parcio. Gofynnwyd i'r Clerc archebu un newydd. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. James. Pleidleisiodd pob aelod yn unfrydol o blaid y cynnig.
- Hits: 1485